WWF-UK: Enjoy a walk through the Welsh countryside and help save the tiger

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Enjoy a walk through the Welsh countryside and help save the tiger


If you are looking for an alternative day out this autumn or something fun to do with the children in the half term why not join WWF's Walk for Wildlife.
There are several walks taking place across Wales on Sunday 10 and 24 of October including one at Bute Park, Cardiff; Kenfig National Nature Reserve, Porthcawl near Bridgend and a walk that will bring you face to face with a tiger at the Welsh Mountain Zoo in Colwyn Bay.

In the last 100 years tiger numbers have declined by around 95 per cent, leaving approximately 5,000 living in the wild. By gathering up friends and family you can help raise money to protect these majestic creatures.

Morgan Parry, Head of WWF Cymru said: "The main long-term threats to the tiger's survival are loss of habitat and the depletion of its natural prey. Please support WWF's Walk for Wildlife on Sunday 10 October and help raise vital funds to protect the tiger. However far you walk your support will be making a positive difference."

Every walker who takes part will receive a WWF Walk for Wildlife tiger badge and thank-you certificate. This year's walk is being supported by Canon, a world leading innovator and provider of imaging and information technology solutions. Canon have provided some fabulous prizes for walkers to win.

To register, or find your nearest walk, call 0845 766 8860 quoting reference EBH 001 201 (Monday-Friday 9am-5pm, Saturday 10.30am-4pm) or please visit www.wwf.org.uk/walk




Dewch am dro gyda WWF a chodi arian i amddiffyn teigrod

Os ydych yn chwilio am ddiwrnod allan sydd ychydig yn wahanol yr hydref hwn, neu rywbeth hwyliog i'w wneud gyda'r plant dros hanner tymor, beth am ymuno â'r Daith Gerdded dros Fywyd Gwyllt.

Mae sawl un yn digwydd ledled Cymru ar ddydd Sul y 10fed a'r 24ain Hydref gan gynnwys un ym Mharc Bute, Caerdydd; Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Porthcawl ym Mhen-y-bont a thaith gerdded a ddaw â chi wyneb yn wyneb â theigr yn Sw Mynydd Cymru, Bae Colwyn.

Dros y can mlynedd diwethaf mae niferoedd teigrod wedi prinhau gan tua 95 y cant, gan adael oddeutu 5,000 yn byw yn y gwyllt. Drwy gael ffrindiau a theulu i gymryd rhan gallwch helpu i godi arian i amddiffyn y creaduriaid urddasol hyn.

Dywedodd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru: "Y prif fygythion tymor hir i oroesiad y teigr yw colli cynefin a lleihad yn ei ysglyfaeth naturiol. Da chi, cefnogwch Taith Gerdded WWF Dros Fywyd Gwyllt a helpu i godi arian hollbwysig i amddiffyn y teigr. Waeth pa mor bell y cerddwch, bydd eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth pendant."

Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael bathodyn teigr Taith Gerdded WWF Dros Fywyd Gwyllt a thystysgrif diolch. Cefnogir y Daith Gerdded eleni gan Canon, un o brif arloeswyr y byd sy'n darparu cyfarpar delweddu a thechnoleg gwybodaeth. Mae Canon wedi darparu sawl gwobr wych i gerddwyr eu hennill.

I gofnodi'ch enw, neu i weld ble mae'r daith gerdded agosaf atoch chi, ffoniwch 0845 766 8860 gan roi'r rhif cyfeirnod EBH 001 201 (dydd Llun - dydd Gwener 9am-5pm, dydd Sadwrn 10.30am-4pm) neu ewch i www.wwf.org.uk/walk

Sumatran tiger, Sumatra, Indonesia