WWF-UK: Angen gwell arweiniad gan wleidyddion i leihau effaith Cymru ar y byd

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Angen gwell arweiniad gan wleidyddion i leihau effaith Cymru ar y byd

10 Mawrth dengys adroddiad newydd bod angen newidiadau radical gan wleidyddion Cymru er mwyn lleihau effaith poblogaeth Cymru ar y byd.
Hefyd caiff ymchwil newydd ei lansio sy'n dangos bod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn barod i wneud newidiadau i'w bywydau er mwyn helpu'r amgylchedd. Mae tri chwarter pobl Cymru (74 y cant) yn credu bod eu ffyrdd o fyw yn niweidio'r amgylchedd ac mae chwech o bob deg o bobl (60 y cant) yn fodlon gwneud newidiadau i'w bywydau i helpu'r amgylchedd, megis prynu offer sy'n fwy ynni-effeithlon a bwyd lleol organig, neu ailgylchu a rhannu ceir.

Cyflwynir y canfyddiadau ar y diwrnod mae 15 o sefydliadau o'r sectorau preifat, cyhoeddus ac academaidd wedi dod ynghyd i lansio adroddiad 'Lleihau Ôl Troed Ecolegol Cymru'. Caiff ei dderbyn gan Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

"O newid yn yr hinsawdd i fynyddoedd gwastraff, ni ellir gwadu ein heffaith ar y blaned. Mae adroddiad 'Lleihau Ôl Troed Ecolegol Cymru' yn nodi polisïau ac arferion yng Nghymru i leihau effaith amgylcheddol Cymru ar y blaned ac yn rhoi gwybodaeth am y ffordd y gall defnyddwyr wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffyrdd o fyw er mwyn lleihau eu Holion Traed. Trwy ddefnyddio'r ymchwil hon gall pawb chwarae rhan mewn sicrhau bod gennym wlad sy'n addas i genedlaethau'r dyfodol," meddai Stuart Bond, Swyddog Datblygiad Cynaladwy WWF Cymru.

"Mae ein harolwg yn dangos bod pobl yng Nghymru yn mynd yn fwyfwy ymwybodol o'r amgylchedd a'u bod yn disgwyl arweiniad cryf gan Lywodraethau i fynd i'r afael â: bygythion parhaol fel newid yn yr hinsawdd, mynyddoedd gwastraff a thagfeydd traffig," ychwanegodd Stuart.

Meddai'r Dr John Barrett, un o awduron yr adroddiad, "Er bod rhywfaint o waith da wedi'i wneud yng Nghymru i greu cymdeithas fwy cynaladwy, ni fydd y polisïau presennol yn ddigon i sicrhau y bydd y ddefnyddiaeth o ddeunyddiau, cynhyrchu gwastraff a'r Ôl Troed Ecolegol yn cael eu lleihau i lefel gynaladwy.

Mae angen agenda fwy radical sy'n helpu i baratoi Cymru ar gyfer dyfodol mwy cynaladwy. Hoffem barhau i ymwneud â hyn er mwyn helpu Cynulliad Cymru i weithredu'r argymhellion polisi a wnaethom."

Hefyd yn y lansiad bydd Jake Fox, enillydd 'Cystadleuaeth Troedio'n Ysgafn ar y Ddaear' WWF, yn derbyn ei wobr gan Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru. Gwnaeth ei gerdd Y Byd argraff ar y beirniaid oherwydd nododd ffyrdd y gall ef a'i deulu leihau eu Hôl Troed. Mae Jake, 11 oed, yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pennant, ger Croesoswallt.

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer lleihau eich ôl troed
  • Ystyriwch effaith hedfan, naill ai ar fusnes neu ar wyliau - peidiwch â hedfan mor aml os oes modd. Trwy ddewis un daith awyr hirbell yn llai bob blwyddyn gallech leihau'ch ôl troed 24 y cant. Gall un daith awyr hirbell ddwyffordd roi'r un ôl troed â gyrru car am flwyddyn gyfan!
  • Ewch ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerddwch neu feiciwch lle bynnag y bo modd. Cynyddodd y gollyngiadau carbon deuocsid o drafnidiaeth 98 y cant rhwng 1971 a 2001
  • Tanysgrifiwch i dariff trydan gwyrdd a phrynwch eich ynni gan ddarparwr trydan gwyrdd. Er mwyn newid i ddarparwr gwyrdd credadwy ewch i www.ecotricity.co.uk neu ffoniwch am ddim ar 08000 326 100
  • Prynwch fwyd lleol yn hytrach na bwyd wedi'i fewnforio. I ddod o hyd i'r farchnad ffermwyr agosaf atoch ewch i Farmers Markets Os na allwch brynu bwyd lleol, prynwch gynhyrchion masnach deg - ewch i www.fairtrade.org.uk i gael rhestr o gynhyrchion.
  • Sicrhewch eich bod yn cynhyrchu llai o wastraff trwy ailgylchu mwy o bapur, gwydr, caniau a deunydd organig. Os nad oes cyfleusterau ailgylchu yn agos atoch, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
  • Arbedwch ynni trwy inswleiddio'ch cartref yn well, diffodd goleuadau a defnyddio offer ty sy'n ynni-effeithlon. I gael manylion llawn am wneud eich cartref yn fwy ynni-effeithlon ewch i www.saveenergy.co.uk
  • Gofynnwch i'ch cynghorydd lleol, eich AC, AS ac ASE beth mae ei blaid/phlaid wleidyddol yn ei wneud i amddiffyn yr amgylchedd. Codwch eich llais!
English

Lleihau Ôl Troed Ecolegol Cymru

I gael rhagor owybodaeth
I gael copi o'r adroddiad Lleihau Ôl Troed Ecolegol Cymru fel dogfen pdf.

Mae'r Ôl Troed Ecolegal yn fesur o faint o arwynebedd tir a môr a ddefnyddiwn i gynnal ein ffrydd o fyw, o'i gymharu â'r hyn sydd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.walesfootprint.org

ffeil pdf
I weld a gwneud print o ffeiliau pdf, bydd angen Darllenydd Adobe Acrobat arnoch, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar gwefan Adobe. Am wybodaeth pellach, ewch at y dudalen gymorth.