WWF-UK: Nwyon carbon deuocsid yn mynd trwy do cartrefi Cymru

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Nwyon carbon deuocsid yn mynd trwy do cartrefi Cymru

Wrth i grynodiadau carbon deuocsid, y nwy sy'n peri newid yn yr hinsawdd, gyrraedd uchafbwynt newydd, mae adroddiad a lansir yng Nghaerdydd gan WWF Cymru yn dod i'r casgliad bod angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru llunio safonau llymach ar gyfer adeiladu tai er mwyn helpu Cymru i leihau ei gollyngiadau CO2.
'Adeiladu Dyfodol i Gymru: Strategaeth ar gyfer Tai Cynaladwy' a luniwyd gan Ganolfan Ymchwil i'r Amgylchedd Adeiledig Ysgol Bensaernïaeth Cymru (WSA) ac a gomisiynwyd gan WWF Cymru yn nodi arferion allweddol er mwyn i ddylunwyr, cynllunwyr a datblygwyr sicrhau mai tai ynni-effeithlon ag effeithiau bach yw'r norm yng Nghymru.

"Yn anffodus mae'r rhan fwyaf o dai Cymru yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd oherwydd y ffordd y cânt eu dylunio a'u hadeiladu. Mae'r arweiniad hwn yn cynnig canllawiau allweddol ar ffyrdd o wneud cartrefi yn fwy eco-gyfeillgar," meddai Haf Roberts, Swyddog Polisi WWF Cymru.

Mae'r arweiniad yn cynnwys enghreifftiau da o ddatblygiadau tai a adeiladwyd i safonau amgylcheddol uchel yng Nghymru. Un enghraifft yw adeilad Plas y Môr ym Mhorth Tywyn, sef cartref gofal arloesol sydd â llawer o nodweddion ynni-effeithlon wedi'u hintegreiddio'n gywir i'r dyluniad o'r cychwyn er mwyn sicrhau fforddiadwyedd, sy'n arwain at arbedion cost i'r cartref dros y tymor hir. Mae enghraifft arall yn Butetown, Caerdydd, lle defnyddiwyd paneli to solar ac inswleiddio'r toeau â llin mewn ystad tai newydd. Mae hyn yn dangos beth a ellir ei gyflawni trwy ymgorffori egwyddorion cynaladwyedd ar lefel Llywodraeth leol.

"Mae tai yn elfen allweddol mewn adeiladu dyfodol cynaladwy, yn arbennig yn nhermau lleihau gollyngiadau carbon a gwastraff deunyddiau. Gobeithiwn y bydd yr arweiniad hwn yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer adeiladu cymunedau cynaladwy yng Nghymru", meddai'r Athro Phillip Jones, Pennaeth Ysgol Bensaernïaeth Cymru.
English

Adeiladu Dyfodol i Gymru: Straegaeth as gyfer Tai Cynaladwy

Adeiladu Dyfodol i Gymru: Straegaeth as gyfer Tai Cynaladwy
Mae Adeiladu Dyfodol i Gymru: Strategaeth ar gyfer Tai Cynaladwy yn rhan o ymgyrch Un Miliwn o Gartrefi Cynaladwy WWF, lle mae WWF yn cydweithio gyda llywodraeth, diwydiant a defnyddwyr i sicrhau y bydd un miliwn o gartrefi newydd a chartrefi wedi'u hadnewyddu yn cael eu datblygu ar draws y DU erbyn 2012.