WWF-UK: Gweithio yng Nghymru

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Gweithio yng Nghymru

WWF Cymru yw swyddfa Gymraeg WWF-UK, ac rydym yn rhan o rwydwaith amgylcheddol mwya'r byd. Mae ein swyddfeydd ym Mae Caerdydd, ond rydym yn cynrhychioli Gymru gyfan.

Mae'r tîm yn cyflawni gwaith polisi, lobïo a chyfathrebu ac yn sefydlu partneriaethau gyda sefydliadau amgylcheddol a chefn gwlad eraill i gynnig atebion ac i sicrhau fod materion amgylcheddol a chynaliadwy yn flaenoriaeth ar yr agenda wleidyddol.
Cymru yn y darlun byd-eang
Mae llawer o'r sialensau cadwraeth mwyaf dybryd yn rhai fyd-eang, ac mae llawer o'r bywyd gwyllt sy'n gwynebu'r bygythiad mwyaf, yn ogystal â'r fforestydd a'r moroedd sydd â'r amrywiaeth mwyaf o fywyd gwyllt - ond y ddarpariaeth leiaf o ran eu gwarchod - yn Affrica, Asia ac America Ladin. Mae gan WWF brosiectau maes effeithiol wedi eu cefnogi gan waith polisi rhyngwladol yn y gwledydd hyn a sawl gwlad arall. Fodd bynnag mae gwreiddiau llawer o'r problemau hyn yma yng Nghymru, yn ein hagweddau a'n hymddygiad ni ac ym mholisïau ein llywodraethau. Dyna pam mae WWF Cymru yn gweithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydliadau eraill yng Nghymru i leihau ein heffaith ar y blaned drwy'r Ôl Troed Ecolegol.

Mae WWF Cymru hefyd yn gweithio i warchod yr amgylchedd morol drwy alw am ddeddfwriaeth wedi ei chydlynu yn well drwy ei waith polisi morol. Mae hyrwyddo defnydd helaethach o ynni adnewyddadwy yng Nghymru hefyd yn flaenoriaeth i WWF Cymru wrth i fygythiad cynhesu byd-eang olygu fod newid mewn hinsawdd ymysg yr heriau mwyaf sy'n wynebu ein dyfodol.

Pwy ydym ni

Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru
Morgan sy'n arwain ac yn cynrychioli WWF Cymru yn y wasg a'r cyfryngau ac gyda'n partneriaid yng Nghymru. Gyda chefnogaeth o'r adnoddau polisi a chyfathrebu y tîm Gymraeg a sefydliadau y DU, mae Morgan yn ceisio dylanwadu gwneuthurwyr penderfyniadau ar achosion fel y ddeddf morol, datblygiad cynhaliol ac newid yr hinsawdd. Mae ef hefyd yn aelod bwrdd o'r Fforwm Datblygiad Gynhaliol dros Gymru.

Helen Potts, Cyd-gysylltwr Tîm
Helen sy'n trefnu cynlluniau a gweithgareddau tîm WWF Cymru, ac mae hi'n cynnig cymorth ariannol a gweinyddol ynghyd a rheoli'r swyddfa.

Ruth Bates, Rheolwr Cyfathrebu
Ruth sy'n arolygu gwaith cyfathrebu WWF Cymru. Mae hi yn adnabod ac yn cydraddu gweithgareddau i sicrhau proffil brand mwyaf ffafriol o fewn ein cynulleidfaoedd allweddol yng Nghymru. Mae Ruth yn arwain gwaith ymgyrchu WWF Cymru sy'n cynnwys trefnu amrywiaeth o weithgareddau sy'n apelio i'r cyfryngau ac i'r cyhoedd.

Anne Meikle, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth
Swyddogaeth Anne yw i sicrhau fod gan WWF Cymru dystiolaeth sylfaenol i ddatblygu polisi a strategaeth er mwyn dylanwadu'n llwyddiannus ac yn effeithiol gwneuthurwyr penderfyniadau. Mae hi'n gweithio yn agos gyda'r tîm gyfathrebu er mwyn datblygu a chyflawni ein strategaethau ymgyrchu. Mae Anne hefyd yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda'n phartneriaid er mwyn symud yr agenda ymlaen yng Nghymru.

Kim Richards, Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Prif gyfrifoldebau Kim yw i godi proffil WWF Cymru a chyfathrebu ein negeseuon allweddol i'r wasg a'r cyfryngau yng Nghymru. Mae hi'n ysgrifennu datganiadau i'r wasg, trefnu digwyddiadau ac yn cadw'r safle wê yn ddiweddar i alluogi ni i ddenu ymgyrchwyr newydd ac i hysbysu'r cyhoedd am waith WWF Cymru.

Nichola Starkey, Swyddog Polisi
Swydd Nicky o fewn y tîm yw i ddatblygu ac eirioli sefyllfa polisi WWF Cymru i gynulleidfaoedd allweddol yng Nghymru. Nicky yw brif pwynt cyswllt i weision sifil yn y Cynulliad Cenedlaethol, ei asiantaethau a'i partneriaid, ac mae hi'n gweithio i hyrwyddo golwg WWF ar ddeddfwriaethau a pholisïau sy'n effeithio'r amgylchedd.

Dr Iwan Ball, Swyddog Polisi Morol
Mae Iwan yn datblygu ac yn eirioli polisïau morol yng Nghymru ar achosion sydd wedi'i blaenoriaethu gan raglen y DU a Chynllun Strategaeth Cymru. Mae ef hefyd yn cysylltu gyda hapddalwyr a chynulleidfaoedd eraill yng Nghymru fel y penderfynwyd gan y strategaeth gyfathrebu.

Dr Lyndsey Dodds, Swyddog Polisi Morol
Rôl Lyndsey yw i gyfarwyddo a datblygu polisi morol yng Nghymru, gyda focws arbennig ar hybysu Cynllunio Gofodol Morol a system trwyddedu intergredig ar gyfer ein moroedd. Mae hi'n gweithio yn agos efo sawl partner, ynghyd â Llywodraeth ac hapddalwyr, i eirioli safle WWF ar wella rheolaeth ac amddiffyniadau ein hamgylchedd morol.
English

Morgan Parry - Pennaeth WWF Cymru ©WWF Cymru
Morgan Parry - Pennaeth WWF Cymru



Helen Potts - Cyd-gysylltwr WWF Cymru ©WWF Cymru
Helen Potts - Cyd-gysylltwr Tîm WWF Cymru



Ruth Bates - Rheolwr Cyfathrebu WWF Cymru ©WWF Cymru
Ruth Bates - Rheolwr Gyfathrebu WWF Cymru



Anne Meikle - Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru ©WWF Cymru
Anne Meikle - Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru



Kim Richards - Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau WWF Cymru ©WWF Cymru
Kim Richards - Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau WWF Cymru



Nichola Starkey - Swyddog Polisi WWF Cymru ©WWF Cymru
Nichola Starkey - Swyddog Polisi WWF Cymru


Iwan Ball - Swyddog Morol WWF Cymru ©WWF Cymru
Dr Iwan Ball - Swyddog Polisi Morol WWF Cymru


Lyndsey Dodds - Marine Policy Officer © Ian Homer/WEL
Dr Lyndsey Dodds - Swyddog Polisi Morol WWF Cymru