WWF-UK: Gwleidyddion yn trafod dyfodol cemegau gwenwynig yng Nghymru

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Gwleidyddion yn trafod dyfodol cemegau gwenwynig yng Nghymru

Fe drafododd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru dyfodol cemegau gwenwynig a ddefnyddir mewn pethau bob-dydd fel cynhyrchion i'r ty a chosmetigau (22 Mehefin 2005).
Y pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad bu'n trafod y ddeddf Ewropeaidd newydd ar reoli cemegau a allai arwain at ddileu y cemegau mwyaf niweidiol. Mae gwyddonwyr yn pryderu fwyfwy am y cysylltiadau rhwng clefydau fel canser a'r cemegau hyn.

Dywedodd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru: "Mae'n hanfodol bod gwleidyddion Cymru'n ymuno yn y drafodaeth bwysig hon ac yn anfon neges glir i Lywodraeth y DU a Senedd Ewrop bod Cymru eisiau rheoliadau cryfach ar gemegau a fydd yn rhoi iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd yn gyntaf. Ni ellir cyflawni hyn ond trwy sicrhau bod y cemegau gwaethaf yn cael eu canfod a'u dileu fesul cam neu drwy ddefnyddio cemegau eraill mwy diogel yn eu lle. Ni fydd y cynnig Ewropeaidd presennol yn gwneud hyn, am ei fod wedi cael ei wanhau o dan bwysau gan y diwydiant cemegau."

"Nid yw'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn gwybod eu bod yn prynu'r cemegau hyn pan fônt yn siopa am yr wythnos, ac maent yn llai tebyg fyth o sylweddoli'r effeithiau y gallent eu cael eu hiechyd. Mae'r Ddeddf Ewropeaidd arfaethedig newydd a elwir REACH (sy'n sefyll am Registration, Evaluation and Authorisation of Chemicals) yn rhoi cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i wneud yn siwr bod diogelwch pobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd yn cael ei sicrhau trwy reoleiddio'r cemegau hyn yn well," ychwanegodd.

Bydd Enid Jones, aelod o Sefydliad y Merched a mam teulu y trefnodd WWF i'w gwaed gael ei destio am gemegau o waith dyn, yn ymuno ag aelodau eraill o Sefydliad y Merched o Bont-y-clun yn Rhondda Cynon Taf i wrando ar y drafodaeth. Mae Sefydliad y Merched wedi ymgyrchu â WWF dros gemegau mwy diogel.
English

Christine Lutwyche aelod of SyM yng Nghaerdydd yn gyflwyno ei neges i ddileu cemegau peryglus i'r Senedd yn Ewrop ©WWF Cymru

John Griffiths, Dirprwy Weinidog Iechyd Cymru a Mick Bates, Llefarydd ar yr Amgylchedd dros y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru gyda ymgyrchwyr WWF yng Nghymru ©WWF Cymru

Mae Ymgyrch Cemegau ac Iechyd WWF yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth a Ffederasiwn Cendlaethol Sefydliad y Merched a'i chefnogi gan Banc Cydweithredol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wwf.org.uk/chemicals