WWF-UK: Cynghrair enfawr i frwydro yn erbyn newid

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Cynghrair enfawr i frwydro yn erbyn newid

7 Medi 2005
Unodd sefydliadau sydd â miliynau o gefnogwyr i fynnu gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. Bydd ATAL ANHREFN HINSAWDD yn defnyddio ei miliynau o aelodau a chefnogwyr i roi pwysau ar y llywodraeth oherwydd mae cynlluniau honno i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn llai o lawer na'r hyn y mae ei angen.
Mae'r gynghrair newydd eisiau i'r llywodraeth wneud toriadau sylweddol i ollyngiadau'r DU o nwyon cynhesu byd-eang a gwneud brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn rhan allweddol o'i chynlluniau i ddelio â thlodi byd-eang.

Ar ran cynghrair Atal Anhrefn Hinsawdd yng Nghymru, croesawodd Morgan Parry'r mudiad newydd: "Rydym yn wynebu trychineb, gyda miliynau o bobl mewn perygl o sychdwr difrifol, newyn a chlefydau, a hyd at draean o'r rhywogaethau sy'n byw ar y tir yn wynebu difodiant erbyn canol y ganrif. Mae'r amser wedi dod i ymateb fel mater o'r brys mwyaf. Mae gan y sefydliadau sydd wedi ymuno heddiw gefnogaeth miliynau o bobl, a byddwn yn galw arnynt i fynnu'r camau y mae'n rhaid eu cymryd ar unwaith."

Mae'r mudiad newydd yn credu bod gwleidyddion hyd yn hyn wedi methu â gweithredu hanner digon i fynd i'r afael â'r bygythiad. Bydd y dewisiadau a wneir yn y pump i ddeng mlynedd nesaf yn penderfynu maint y difrod y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei wynebu. Gyda gweithredu cydgysylltiedig a chan ddefnyddio ei nifer anferth o gefnogwyr, nod ATAL ANHREFN HINSAWDD yw dod yn rym gwleidyddol nerthol o blaid gweithredu.
English

Welsh launch of Stop Climate Chaos © WWF Cymru

Welsh launch of Stop Climate Chaos © WWF Cymru

Aelodau ATAL ANHREFN HINSAWDD yng Nghymru yw CAFOD, Coed Cadw (The Woodland Trust), Canolfan y Dechnoleg Amgen, Cymorth Cristnogol, Cyfeillion y Ddaer Cymru, Greenpeace, Federasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Oxfam Cymru, People and Planet, RSPB Cymru, Sustrans, www.tearfund.org a WWF Cymru