WWF-UK: Heddwas o Gymru'n ennill gwobr bywyd gwyllt
Access key details
This site uses the UK government standard access keys, as shown below:
S - Skip navigation1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details
Section navigation
WWF Cymru
How you can help
Heddwas o Gymru'n ennill gwobr bywyd gwyllt
19 Hydref 2005
Mae Rhingyll Peter James Charleston, yn Heddlu Gogledd Cymru wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth genedlaethol "Gwobr Gorfodwr Bywyd Gwyllt y Flwyddyn WWF".
Yn ystod y tair blynedd diwethaf mae'r Rhingyll Charleston wedi delio â channoedd o achosion o losgi a difrodi anghyfreithlon ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghymru. Un o'i achosion mwyaf llwyddiannus oedd amddiffyn y pâr cyntaf o weilch pysgod i fridio yng Nghymru rhag masnachwyr bywyd gwyllt anghyfreithlon.
Ledled y byd, caiff cannoedd o filiynau o blanhigion ac anifeiliaid, gwerth biliynau o bunnoedd, eu prynu a'u gwerthu'n anghyfreithlon ac yn anghynaladwy bob blwyddyn. Mae hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar oroesiad llawer o rywogaethau yn eu hamgylchedd naturiol.
Yng Nghymru mae masnachu anghyfreithlon yn bygwth bywyd gwyllt megis adar bridio prin. Yn fyd-eang mae rhywogaethau sydd mewn perygl megis teigrod a llewpardiaid yr eira yn cael eu gwthio'n nes at ddifodiant gan rwydweithiau masnachu anghyfreithlon.
"Mae llawer o fathau o droseddau'n ymwneud â bywyd gwyllt. " meddai Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru.
"Yng Nghymru, mae angen diogelu bywyd gwyllt rhag gweithgareddau anghyfreithlon megis dinistrio cynefinoedd a dwyn wyau adar. Mae'r wobr hon yn ffordd ardderchog o wneud pobl yn fwy ymwybodol ei bod yn bwysig cael gwell amddiffyniad rhag troseddau'n ymwneud â bywyd gwyllt."

English

I gael rhagor o wybodaeth ewch i PAW:Partnership for action against wildlife crime
I gael rhagor o wybodaeth ar waith yn y maes yma ewch i wildlife trade pages