WWF-UK: Henson yn cefnogi ymgyrch Nadolig gwyrdd WWF

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Henson yn cefnogi ymgyrch Nadolig gwyrdd WWF

1 Rhagfyr 2005
Mae Gavin Henson, un o sêr rygbi Cymru, yn profi bod byw'n wyrdd yn gallu bod yn ddewis ffasiynol a chall.
Meddai Gavin Henson am lawlyfr WWF: "Rwyf wrth fy modd yn gefnogi Llawlyfr Gwyrdd Bach WWF Cymru. Nid yw dewis Nadolig gwyrdd yn golygu cefnu ar anrhegion o answadd da. Gallwch brynu llwyth o anrhegion eco-gyfeillgar gwych heb wario gormod. "

"Mae'r llawlyfr yn llawn awgrymiadau defnyddiol tu hwnt nid yn unig ar gyfer y Nadolig ond hefyd ynghylch ble i brynu bwyd organig a sut ddefnyddio llai o ynni gartref a chadw'ch biliau i lawr, yn ogystal
ag ailgylchu. Yn ddiweddar rwyf wedi gosod bylbiau ynni-effeithlon yn fy nghartref. Mae'n well gen i gynnyrch organig bob amser, oherwydd mae'n iachach ac yn well i'r amgylchedd. "

I gyd-fynd â lansio'r llawlyfr, comisiynodd WWF Cymru ymchwil i farn pobl Cymru ar brynu anrhegion eco-gyfeillgar y Nadolig hwn. Yn ôl yr arolwg, mae 89 y cant o'r bobl a fydd yn ystyried prynu anrhegion eco-gyfeillgar y Nadolig hwn yn dweud y byddant yn gwneud hynny oherwydd eu bod eisiau mynd i'r afael â phroblemau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd.

"Mae canlyniadau ein harolwg yn dangos bod pobl yng Nghymru yn cydnabod bod yr hyn maen nhw'n ei brynu yn cael effaith ar yr amgylchedd. O ganlyniad, maen nhw eisiau gwneud mwy i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang fel newid yn yr hinsawdd, colli rhywogaethau a dinistrio fforestydd y byd, " meddai Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru.
English

Gavin Henson@ WWF CYMRU

Llawlyfr gwyrdd WWF Cymru
Bydd Llawlyfr Gwyrdd Bach WWF Cymru yn dangos i chi sut i leihau'ch effaith bersonol chi ar yr amgylchedd.