WWF-UK: Gallai trychineb y Sea Empress ddigwydd eto

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Gallai trychineb y Sea Empress ddigwydd eto

15 Chwefror 2006
Ddeng mlynedd i'r diwrnod ers i un o ollyngiadau olew gwaethaf y byd daro Cymru, mae adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan WWF yn rhybuddio y gallai trychineb tebyg ddigwydd eto.
Mae'n datgelu bod deddfwriaeth annigonol a'r cynnydd mewn tywydd stormus a achosir gan newid yn yr hinsawdd yn gadael glannau Cymru'n agored i niwed gan ollyngiadau olew yn y dyfodol.

Noda'r adroddiad – Arolwg o weithgareddau llongau yn nyfroedd y DU – Ddeng mlynedd ers drychineb y Sea Empress – bod y rhan fwyaf o'r gwersi wedi'u dysgu ers y gollyngiad olew, ond bod un agwedd allweddol heb wedi digwydd eto sef cael llong argyfwng (emergency towing vessel) yn Aberdaugleddau i wasanaethau Môr Iwerddon.

Byddai llong argyfwng yn Aberdaugleddau yn help i leihau'r difrod o olew i fywyd gwyllt a'r mor oherwydd y pwer sydd gan y llongau hyn i dynnu tanceri olew. Yn ôl WWF cedwir yr ETV agosaf yn Falmouth, tua 440 o filltiroedd i ffwrdd. Tybir y byddai'n cymryd dros naw awr i gyrraedd Aberdaugleddau, a hynny wrth deithio ar gyflymder llawn ar fôr tawel. Ar dywydd anodd ei ragweld fel a fu yn ystod gollyngiad olew y Sea Empress, gallai gymryd unrhyw beth rhwng 14 a 18 awr.

Mae adroddiad WWF hefyd yn dweud bod newid yn yr hinsawdd yn arwain at fwy o dywydd stormus a chyflwr môr anodd ei ragweld. Mae hyn, ynghyd â'r twf yn nifer symudiadau llongau yn Ne Orllewin Cymru, yn ffactorau y mae angen i Awdurdodau Porthladdoedd eu hystyried. Mae WWF yn credu y dylai pob Awdurdod Porthladd fod â chynllun wrth gefn ar gyfer gollyngiadau olew, ac y dylai hwn gael ei adolygu o dro i dro i gymryd i ystyriaeth gwybodaeth newydd a newidiadau i'r tueddiadau ym meysydd yr amgylchedd a gweithgareddau llongau.

"Mae dengmlwyddiant llongddrylliad y Sea Empress yn gyfle i bwyso a mesur. Er y gwnaed ymdrechion i atal trychineb tebyg rhag digwydd, mae'r gwrthdrawiad diweddar rhwng llongau yn y Sianel yn ein hatgoffa bod llongau'n creu bygythiad i'n hamgylchedd morol ac arfordirol. Yng Nghymru gwyddom ond yn rhy dda faint o ddifrod y gall trychinebau ar y môr megis y Sea Empress ei wneud i amgylchedd morol, economi a physgodfeydd gwerthfawr rhanbarth," meddai Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddefnyddio ei phwerau i gefnogi'r Mesur Morol arfaethedig a helpu i sefydlu Deddf Forol newydd a fydd yn ymgorffori cynllunio gofodol morol. Dim ond yn y ffordd hon bydd yna strategaeth er mwyn amddiffyn ein moroedd yn ddigonol rhag y peryglon sy'n gysylltiedig â mwy o weithgareddau gan bobl, megis llongau a chynhyrchu ynni."

"Rhaid i ardaloedd morol gwarchodedig gael eu hintegreiddio i'r Mesur Morol er mwyn amddiffyn y bywyd gwyllt mwyaf unigryw neu sensitif a'u cynefinoedd," ychwanegodd.

Dywed yr adroddiad mai gollyngiad olew'r Sea Empress oedd un o'r deg gwaethaf yn y byd: effeithiodd 72,000 o dunelli metrig o olew crai a 370 o dunelli metrig o olew tanwydd trwm ar 200km o'r arfordir, gan gostio hyd at £38 miliwn i'w lanhau ac mewn iawndaliadau. Effeithiodd y gollyngiad ar adar; glanhawyd 7,000 o adar a orchuddiwyd ag olew, ond ychydig ohonynt a oroesodd ac yn araf iawn mae nifer y môr-hwyaid duon wedi ymadfer oherwydd collwyd llawer o'u mannau bwydo.

Yn ôl yr adroddiad, mae Llywodraeth y DU wedi ymgorffori rhai newidiadau allweddol ers trychineb y Sea Empress sydd wedi golygu gwelliant uniongyrchol i arfordir Sir Benfro. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Bellach rhaid i ddau beilot fod ar fwrdd pob llong dros 120,000 o dunelli llwyth a rhaid darparu hyfforddiant digonol; dim ond un oedd ar fwrdd y Sea Empress
  • Mae llanwau yn Sir Benfro yn anodd eu rhagweld ac yn gryf; roedd data annigonol ar gael ar adeg y digwyddiad. Bellach mae yna fodelau a gynhyrchir ar gyfrifiadur sy'n dadansoddi'r llanw, ac mae hynny'n gwella'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r ardal
  • Erbyn hyn mae gwell ddealltwriaeth wyddonol o'r effeithiau mae gollyngiadau olew yn eu cael ar rywogaethau. Bydd hyn yn dylanwadu ar brosesau gwneud penderfyniadau i'r dyfodol
  • Mae rhagor o ymchwil wedi'i gwneud i wella'r weithdrefn ymateb ac asesu, petai gollyngiad olew mawr arall yn digwydd

Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am reoleiddio ac amddiffyn hyd at 12 môr-filltir o'r lan, gyda rhai eithriadau pwysig megis datblygiadau olew a nwy a llongau; yr Adran Masnach a Diwydiant sy'n dal i fod yn gyfrifol am y rheiny.

"Ar hyn o bryd mae cannoedd o wahanol ddeddfau a pholisïau yn rheoli ein moroedd. Mae angen i'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru ddeall y goblygiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr a ddaw oni chaiff ein moroedd eu rheoli'n iawn," ychwanegodd Mr Parry.

"Byddai WWF Cymru'n croesawu trafodaeth yn y Cynulliad ar y Mesur Morol arfaethedig a baratowyd gan Lywodraeth y DU", ychwanegodd.
English

Trychineb olew y Sea Empress, Sir Benfro © WWF Cymru

Am wybodaeth ychwanegol
Llwythwch yr adroddiad An overview of shipping activities in UK waters fel ffeil PDF

Ymwelwch â'n adranau Morol neu olew, nwy a mwyngloddio am fwy o wybodaeth ar yr achosion yma

ffeil pdf
I weld a gwneud print o ffeiliau pdf, bydd angen Darllenydd Adobe Acrobat arnoch, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar gwefan Adobe. Am wybodaeth pellach, ewch at y dudalen gymorth.