WWF-UK: 'Dinoethi Anweddus' – dangos y cyfan yn arolwg ar-lein newydd WWF

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


'Dinoethi Anweddus' – dangos y cyfan yn arolwg ar-lein newydd WWF

24 Mai 2006
Mae WWF wedi lansio arolwg na welwyd ei debyg o'r blaen o gysylltiad posibl y genedl â chemegau peryglus o waith dyn.
Am y tro cyntaf mae'r arolwg hwn, o'r enw 'Dinoethi Anweddus', yn rhoi i'r cyhoedd ffordd o asesu i ba raddau maent yn dod i gysylltiad â chemegau eryglus yn eu bywydau bob dydd.

I dynnu sylw at y materion hyn bydd yna ddigwyddiad codi ymwybyddiaeth yn y Treehouse, Aberystwyth, ar 30 Mai 2006. Anogir pobl i ddod yno i wneud yr arolwg, i gael rhagor o wybodaeth am gemegau peryglus ac yn bwysicaf oll i ddysgu sut y gallant weithredu i sicrhau y bydd deddf newydd yr UE a elwir REACH yn ddigon cryf i ddileu'n raddol y cemegau mwyaf peryglus.

Mae WWF a'r Treehouse eisiau codi ymwybyddiaeth am y cemegau hyn a'u peryglon, yn enwedig y cemegau hynny sy'n 'barhaol' (sy'n golygu eu bod yn aros yn yr amgylchedd am amser hir ac nad ydynt yn dadelfennu), 'biogronnol' (sy'n golygu eu bod yn cronni mewn pethau byw) ac yn 'amharu ar endocrinau' (sy'n golygu eu bod yn ymyrryd â systemau hormonau pobl).

Meddai Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru, "Mae'r prawf ar-lein hwn yn ffordd wych i bobl ddeall pa gemegau, a all fod yn beryglus, y maent o bosibl yn dod i gysylltiad â nhw mewn cynhyrchion pob dydd, a beth allant ei wneud i geisio lleihau eu cysylltiad â nhw."

Y llynedd dangosodd cyfres o brofion gwaed ar deulu o Gymru, criw o enwogion ac Aelodau'r Cynulliad pa mor hawdd yw hi i oedolion a phlant ddod i gysylltiad â'r halogwyr hyn.

Gellir gweld yr arolwg ar www.wwf.org.uk/chemicals/indecentexposure. Mae'n holiadur byr sy'n dadansoddi ffyrdd pobl o fyw, eu diet, eu hymddygiad a faint maent yn defnyddio cynhyrchion penodol, er mwyn amcangyfrif pa gemegau peryglus y maent o bosibl yn dod i gysylltiad â nhw. Mae hefyd yn cynnig awgrymiadau ar sut i leihau eu cysylltiad â nhw yn y dyfodol.

Mae'r Treehouse nid yn unig yn cefnogi ymgyrch cemegau ac iechyd WWF gyda'i siop fwyd a bwyty, gyda bwyd organig a dyfir yn lleol, ond hefyd mae eu siop newydd yn gwerthu popeth ar gyfer ffordd holistig o fyw, o gynhyrchion naturiol i ofalu am y croen i lyfrau a nwyddau papur. Mae'r rhain i gyd yn gamau cadarnhaol er mwyn i chi roi llai o gemegau ar eich croen, yn eich cartref ac yn yr amgylchedd.
English


Indecent Exposure Laptop © WWF-UK


Mother and child © WWF-UK


Gwybodaeth Ychwanegol
Am ragor o fanylion ymwelwch â'n tudalenau Ymgyrch Cemegau ac Iechyd