WWF-UK: Rhoi pŵer yn ôl i bobl Cymru

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Rhoi pŵer yn ôl i bobl Cymru

26 Mehefin 2006
Mae WWF Cymru wedi croesawu cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynllun gweithredu i annog pobl yng Nghymru i gynhyrchu eu trydan a'u gwres eu hunain o dechnolegau carbon isel.
Pan gaiff ei gyhoeddi, gallai'r cynllun gweithredu newydd leihau gollyngiadau carbon deuocsid Cymru yn sylweddol iawn. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i bawb sy'n berchen tŷ i gynhyrchu ynni trwy osod systemau bach fforddiadwy i gynhyrchu gwres a/neu drydan, a elwir microgynhyrchu. (1)

"Newid yn yr hinsawdd yw'r mater pwysicaf sy'n wynebu'r byd. Mae'n rhaid i ni ddibynnu llai ar danwyddau ffosil a chynhyrchu ynni o ffynonellau carbon isel, mewn ffordd sy'n sicrhau nad ydym yn adleoli'r gollyngiadau i ran arall o'r byd," meddai Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru.

"Bydd gosod tyrbin gwynt ar eich to, ychwanegu paneli solar neu osod systemau gwresogi newydd effeithlon yn lle hen fwyleri yn helpu i leihau gollyngiadau carbon Cymru a lleihau effaith newid yn yr hinsawdd. Bydd hefyd yn golygu y gall perchentywyr arbed llawer ar eu biliau am gyfleustodau," ychwanegodd.

Mae WWF Cymru wedi cyflwyno ei argymhellion ei hun ar gyfer cynllun gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) gan gynnwys:
  • gosod targedau am y nifer o gartrefi a gaiff dechnolegau microgynhyrchu dros y pum mlynedd nesaf
  • adolygu polisi a chyfarwyddyd cynllunio ar frys i gynyddu cyfran y tai newydd a godir gyda microgynhyrchu ar y safle, a'i gwneud yn haws ei osod ar dai sy'n bodoli eisoes
  • cefnogi prosiect mawr a blaengar sy'n dangos yr ewyllys wleidyddol i hybu technolegau microgynhyrchu a'u defnyddio cymaint ag sy'n bosibl
  • mynnu bod datblygwyr tir dan berchnogaeth gyhoeddus, megis y datblygiad o 900 o gartrefi newydd ym Mhont Elái, Caerdydd, yn gosod technolegau microgynhyrchu gan gynnwys gorsaf gwres a phŵer cyfunol.

Mae ymchwil gan WWF wedi awgrymu y gallai microgynhyrchu ddarparu 5 y cant o gyflenwad trydan y DU erbyn 2025. Yn yr un modd, mae ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn awgrymu y gallai 30-40 y cant o holl anghenion y DU am drydan gael eu diwallu trwy ficrogynhyrchu erbyn 2050.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd dim ond 85,000 o gartrefi'r DU sydd ag unrhyw fath o ficrogynhyrchu, yn bennaf systemau solar ar eu toeau i wresogi dŵr.

"Gobeithio y bydd Cynulliad Cymru'n ymrwymo i fynd ati i hybu microgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a ledled Cymru. Mae yna enghreifftiau da o sefydliadau megis Canolfan y Dechnoleg Amgen yng Nghymru yn helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r technolegau hyn.

Fodd bynnag, os yw cynhyrchu ynni'n lleol fel hyn yn mynd i lwyddo, mae'n glir bod angen i Gynulliad Cymru ddarparu rhagor o adnoddau i'w ariannu a'i ddatblygu ymhellach," ychwanegodd Mr Parry.

Rhywbeth arall sy'n ddeniadol am ficrogynhyrchu, yn ôl WWF, yw ei fod, trwy ddatganoli cynhyrchu trydan, yn lleihau'r colledion anferth o ynni sy'n digwydd wrth drosglwyddo pŵer o orsafoedd trydan sy'n bell i ffwrdd.

"Mae cyfran fawr o'r ynni a gynhyrchir mewn gorsafoedd pŵer yn cael ei golli cyn iddo gyrraedd y cartref. Felly mae cynhyrchu trydan lle mae'n cael ei ddefnyddio yn gwneud synnwyr," ychwanegodd Mr Parry.

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) yn arddangos amrywiaeth o systemau microgynhyrchu ac mae wedi creu tŷ ynni-effeithlon sy'n dangos sut y gellir gosod technolegau o'r fath. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cat.org.uk.
English


Solar panels © WWF Cymru
Paneli Solar


Wind turbine © WWF Cymru
Tyrbin gwynt



Gwybodaeth Ychwanegol
Er mwyn darganfod mwy am waith WWF ar achosion morol ymwelwch â'n gwefan Ymgyrch y Ddeddf Morol neu ein adran morol a ecosystemau arfordirol