WWF-UK: Gwleidyddion yn rasio i gymryd rhan yn sialens 'Pedalu am y Blaned' – ond pwy oedd yn fuddugol?
Access key details
This site uses the UK government standard access keys, as shown below:
S - Skip navigation1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details
Section navigation
How you can help
Gwleidyddion yn rasio i gymryd rhan yn sialens 'Pedalu am y Blaned' – ond pwy oedd yn fuddugol?
1 Awst 2006
Cafodd gwleidyddion yn y Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru wahoddiad i gystadlu yn sialens feicio WWF Cymru i weld os fedrant gynhyrchu ddigon o egni drwy feicio i allu bweru mathau wahanol o offerynnau cartref a ffermio.
Mi wnaiff y sialens 'Pedalu am y Blaned' roi cyfle i wleidyddion i ddringo ar ddau feic a oedd wedi'i addasu yn arbennig i weld faint o egni y gallant eu gynhyrchu, yna drawsnewidiodd arbenigwr WWF y pŵer a chreuwyd mewn i watiau sydd angen ar gyfer offerynnau safonol. Roedd WWF Cymru yn pwysleisio yr angen i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil ac i greu egni o ffynonellau eraill na fydd yn creu carbon deuocsid, sef y nwy mwyaf newidiol i'n hinsawdd.
Mi wnaiff y Gweinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Carwyn Jones, gyrraedd brig bwrdd yr enillwyr ar ddydd Llun gyda 11,724 – digon o watiau i bweru peiriant cneifio defaid ac microdon. Sefydlodd hyn y safon ar gyfer frwydr ffyrnig, gyda phob parti gwleidyddol yn ymryd y gystadleuaeth o ddifri. Cymerodd David Davies, AC a AS y Ceidwadwyr, ail dro er mwyn guro sgôr y Gweiniog drwy sefydlu targed newydd o 12,449.
Dywedodd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru, "Mi oedd ein sialens 'Pedalu am y Blaned' yn ffordd effeithiol iawn i gyfathrebu ac i gynyddu ymwybyddiaeth o faint o egni sydd agen ar offerynnau pŵer yn ein cartrefi ac sut maent yn creu carbon deuocsid.
Mae'r cartref Cymreig nawr yn debygol o greu mwy o garbon deuocsid pob blwyddyn na'r car arferol ac mae'n cartrefi yn gyfrifol am bron draean o holl allyriant carbon deuocsid, felly mae newid sut rydym yn defnyddio egni yn allweddol os rydym am atal newid yn ein hinsawdd."
Mi wnaeth y gwleidyddion i fyny 20 y cant o'm cystadleuwyr, ac roedd rasys eraill yn cynnwys NFU Cymru yn erbyn FUW ac mawrion yr archfarchnadoedd Tesco yn erbyn Sainsbury. NFU Cymru a Tesco a enillodd y teitl 'Pencampwyr Pedalu am y Blaned'. Cymerodd dros 300 aelodau o'r cyhoedd ran, y ieuengaf yn wyth oed ac yr hynaf yn 77 mlwydd oed.
Bwrdd yr enillwyr –
John Griffiths (Llaf) – 11,462
Mark Isherwood (Ceid) – 10,794
Glyn Davies (Ceid) – 10,149
Mike German (Dem Rhyd) – 9,953
Lembit Opik (Dem Rhyd) – 9,646
Peter Black (Dem Rhyd) – 9,354
Alun Ffred (Plaid) – 9,262
Helen Mary Jones (Plaid) – 8,716
Eleanor Burnham (Dem Rhyd) – 8,577
Mick Bates (Dem Rhyd) – 8,399
Christine Chapman (Llaf) – 7,851
Kirsty Williams (Dem Rhyd) – 7,727
Laura Anne Jones (Ceid) – 7,345
Ffeithiau ar newid yn yr hinsawdd –

- David Davies (Ceid) – 12,449
- Carwyn Jones (Llaf) – 11,724
- Nick Bourne (Ceid) – 11,535
John Griffiths (Llaf) – 11,462
Mark Isherwood (Ceid) – 10,794
Glyn Davies (Ceid) – 10,149
Mike German (Dem Rhyd) – 9,953
Lembit Opik (Dem Rhyd) – 9,646
Peter Black (Dem Rhyd) – 9,354
Alun Ffred (Plaid) – 9,262
Helen Mary Jones (Plaid) – 8,716
Eleanor Burnham (Dem Rhyd) – 8,577
Mick Bates (Dem Rhyd) – 8,399
Christine Chapman (Llaf) – 7,851
Kirsty Williams (Dem Rhyd) – 7,727
Laura Anne Jones (Ceid) – 7,345
Ffeithiau ar newid yn yr hinsawdd –
- Os fyddai pawb yn y DU yn defnyddio un bwlb arbed egni, byddwn yn safio digon o garbon deuocsid i lanw'r Royal Albert Hall 2000 o weithiau – ac carbon deuocsid yw'r brif achos o newid yn i'n hinsawdd.
- Os fyddai pob cartref yn defnyddio tri bwlb arbed egni , byddwn yn safio digon o a egni pob blwyddyn i oleuo'r holl oleuadau strydoedd y DU.
- Mae cartrefi Prydeinig arferol yn debygol o greu mwy o garbon deuocsid mewn blwyddyn na'r car arferol – mae'n cartrefi ni yn gyfrifol am gynhyrchu bron i draean o holl allyriant carbon deuocsid, felly mae newid y ffordd rydyn yn defnyddio egni yn hynod o bwysig i atal anrhefn hinsawdd.
- Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd nawr – mae'r byg yn cynhesu i fyny yn fwy cyflym nag ar unrhyw amser arall yn y 10,000 mlynedd diwethaf.
- Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd pan mae nwyon fel carbon deuocsid yn adeiladu i fyny yn yr awyrgylch ac yn atal i wres ddianc o'r Ddaear – mae hyn yn achosi i'r awyrgylch i gynhesu i fyny.
- Mae'r nifer cyfanswm o carbon deuocsid sy'n cael eu bwmpio i mewn i awyrgylch y Ddaear yn anferthol – tua 700 o dunelli pob eiliad!
English

I weld mwy o luniau o rai o'r cytadleuwyr eraill, cliciwch yma

Mae WWF Cymru yn aelod o'r gyngrair Atal Anrhefn Hinsawdd. Am wybodaeth ychwanegolar hyn cliciwch yma

Morgan Parry a Carwyn Jones yn pedalu am y blaned

Yr heddlu yn cystadlu ar y beiciau

Mwy o gystadleuwyr yn pedalu am y blaned
I weld mwy o luniau o rai o'r cytadleuwyr eraill, cliciwch yma

Mae WWF Cymru yn aelod o'r gyngrair Atal Anrhefn Hinsawdd. Am wybodaeth ychwanegolar hyn cliciwch yma