WWF-UK: Roedd rhaid i'r morgwn wylio allan!

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Roedd rhaid i'r morgwn wylio allan!

17 Awst 2006
Cafodd WWF Cymru taith llwyddiannus iawn i dagio morgwn glas yr wythnos diwethaf (8 Awst) gyda Carwyn Jones, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.
Dechreuodd y daith i ffwrdd o marina Neyland, sydd ddim yn bell o Aberdaugleddau, a teithiodd y cwch tua 12 milltir morwrol i'r de-orllewin.
Ar y ffordd allan i'r môr oedd golygfeydd syfrdanol o arfordir

Cymru a chafodd y trip gyfle i bysgota am mecryll i fwydo i'r morgwn glas.

Yn ystod y trip daliodd Carwyn Jones morgi glas benywaidd, a oedd 81.5 o fodfeddi o hyd ac yn pwyso 63 pwys. Hefyd ar y ffordd gwelodd y parti ddau masgl o ddolffiniaid a dau morfil Minke.

Dywedodd Carwyn Jones am y profiad, "Mae'r trip yma wedi rhoi cyfle i mi i ennill profiad mewn gwyddoniaeth morol ymarferol, ac i weld y rhan bwysig all ddefnyddwyr y môr chwarae i gynyddu ein gwybodaeth o'r amgylchedd morol.".

Adiodd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru, i hyn: "Y diffyg gwybodaeth am forgwn gleision yn nyfroedd y DU yw'r hyn a ysgogodd WWF i gefnogi rhaglen tagio morgwn y DU. Yn anad dim nod y prosiect yw amddiffyn rhywogaethau morgwn y DU, trwy annog cynllun cyfrifol o'u dal a'u rhyddhau. Ffordd syml ond effeithiol o fonitro symudiadau morgwn yw tagio.

Rydym wedi dysgu bod morgwn yn tueddu i deithio ymhell. Caiff cyfran fawr o'r sbesimenau sy'n cael eu tagio yn agos at ein glannau eu dal eto gan longau pysgota masnachol, yn bennaf o Sbaen, Portiwgal ac weithiau Japan hyd yn oed," ychwanegodd.

Pan gaiff morgi ei dagio gwneir nodyn gofalus ar gerdyn o'r holl ystadegau amdano. Mae'r rhain yn cynnwys ei hyd, ei bwysau, ei ryw, ei rywogaeth a'i gyflwr, ynghyd â'r lleoliad a chyflwr y llanw a'r tywydd. Mae'r lleoliadau a gesglir yn cael eu cadw'n gyfrinachol a'u rhoi dim ond i'r National Oceanography Centre, Southampton, sy'n cydgysylltu'r cynllun tagio. Pan fo morgi'n cael ei ddal eto, fel arfer gan bysgotwyr, caiff y rhif unigol ar y tag ei anfon yn ôl, ynghyd â'r lleoliad.
English

Shark being tagged © Alex Skibinski
Mori glas yn chael ei thagio


Carwyn Jones fishing © Alex Skibinski
Carwyn Jones yn pysgota am fecryll


Carwyn Jones measuring © Alex Skibinski
Carwyn Jones yn mesur y morgi glas