WWF-UK: Rali Atal Anhrefn Hinsawdd

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Rali Atal Anhrefn Hinsawdd

29 Medi 2006
Ymunwch â miloedd o bobl ddydd Sadwrn 4 Tachwedd yn Sgwâr Trafalgar ar gyfer lansio ymgyrch 'Rwy'n Cyfrif' – sy'n galw am fwy o weithredu gan y Llywodraeth ar newid yn yr hinsawdd.

Mae'r rali wedi cael ei threfnu gan gynghrair Atal Anhrefn Hinsawdd. Bydd yn creu pwysau gwirioneddol fawr gan y cyhoedd am weithredu ar yr hinsawdd.
Pryd: Dydd Sadwrn, Tachwedd 4ydd
Ble: Sgwâr Trafalgar
Pam: I ddangos eich bod yn pryderu am newid yn yr hinsawdd
Beth: Ar drothwy trafodaethau rhyngwladol hollbwysig ar newid yn yr hinsawdd yn Nairobi, dewch i ymuno â miloedd o bobl i anfon neges at y Prif Weinidog ac arweinwyr eraill y byd bod yn rhaid iddynt hwythau hefyd weithredu i atal anhrefn hinsawdd.
Teithio: Bydd bws yn gadael Caerdydd o waelod Heol y Porth (gyferbyn â'r gorsafoedd bysiau a threnau) am 7am ac yn dychwelyd yn ôl i Gaerdydd am oddeutu 9pm. I gadw sedd e-bostiwch wales@wwf.org.uk neu ffoniwch 02920 454 970
£10 y ddwy ffordd, i'w dalu ar y diwrnod, ond RHAID I CHI SICRHAU LLE NEU EFALLAI Y CEWCH EICH SIOMI

Beth fydd y diwrnod yn ei gynnwys
Dyma ddechrau rhywbeth mawr iawn, wrth i sefydliadau ac unigolion godi eu lleisiau yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Bydd yna weithgareddau'n digwydd o gwmpas Llundain yn ystod y dydd gan
gynnwys gorymdaith yr Ymgyrch yn erbyn Newid yn yr Hinsawdd, a fydd yn gorffen yn Sgwâr Trafalgar. Yn y Sgwâr bydd yna gerddoriaeth, ffilm, gwesteion arbennig a siaradwyr…ond yn bwysicaf oll, mae arnom eich angen chi!
Eich llais chi… eich gweithredoedd chi… eich dyfodol chi… eich planedchi. Gyda'n gilydd, gallwn atal anhrefn hinsawdd.
Mae WWF Cymru yn rhan o Atal Anhrefn Hinsawdd yng Nghymru, sy'n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
  • Ymrwymo i gwtogi 3 y chant o un flwyddyn i'r llall ar ollyngiadau carbon deuocsid. I wneud hyn bydd angen 'cyllideb carbon' i olrhain a rheoli'r nwyon tŷ gwydr mae Cymru gyfan yn eu gollwng.
  • Cyflwyno a chynnal cynlluniau i gwtogi ar yr ynni a ddefnyddir yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, a fydd yn arwain at gwtogi ar ollyngiadau carbon.
  • Hybu datblygu a defnyddio tanwyddau heblaw tanwyddau ffosil.
Gobeithio y cawn eich gweld ddydd Sadwrn 4 Tachwedd. Mae'n argoeli bod yn ddiwrnod gwerth chweil a hwyliog.
English

SCC launch in Wales © WWF Cymru
Lansiad Anrhefn Hinsawdd yng Nghymru


Newid yn yr hinsawdd: Beth yw'r broblem? Cliciwch yma i ddarganfod fwy


WWF projection on the Houses of Parliment © WWF-UK
Tafluniad WWF 'Pledleisiwch i Atal Anrhefn Hinsawdd' ar y Tai Cyffredin