WWF-UK: Newid yn yr hinsawdd: Beth yw'r broblem?

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Newid yn yr hinsawdd: Beth yw'r broblem?

29 Medi 2006
Mae mwy nag 1 o bob 3 o bobl a holwyd yng Nghymru yn credu y bydd newid yn yr hinsawdd yn achosi problemau yn ystod eu hoes ac mae 70 y cant yn ei ystyried yn fygythiad go iawn.
Nid oes dim amheuaeth bellach mai prif achos newid yn yr hinsawdd yw llosgi tanwyddau ffosil, sy'n rhyddhau carbon deuocsid (CO2) a nwyon 'tŷ gwydr' eraill i'r atmosffer. Heb weithredu ar frys, bydd newid yn yr hinsawdd yn difrodi bywyd ar y ddaear. Bydd cannoedd o filiynau o bobl, yn enwedig y tlotaf a'r mwyaf agored i niwed, yn cael eu peryglu'n ddifrifol gan sychdwr, llifogydd, newyn a chlefydau. Erbyn canol y ganrif gallai hyd at draean o'r rhywogaethau sy'n byw ar y tir wynebu difodiant. Mae'r difrod eisoes wedi dechrau. 'Does dim rhagor o amser i'w golli.

Yng Nghymru a Lloegr, mae 5 miliwn o bobl eisoes yn byw mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd ac mae tua 12 y cant o'r tir amaeth a chwarter y safleoedd diwydiannol mewn perygl. Os na wnawn ddim byd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae Cymru mewn mwy o berygl o'r canlynol:

  • stormydd amlach
  • codiad yn lefel y môr
  • mwy o law a mwy o fewnlif i aberoedd ac i'r môr
  • gaeafau gwlypach (cynnydd o hyd at 20 y cant erbyn y 2080au)
  • hafau sychach (hyd at 40 y cant yn sychach erbyn y 2080au)
  • sychdwr a phrinder dŵr yn fwy tebygol
  • colli gwlybaniaeth y pridd, yn enwedig yn yr haf
Mae'n bosibl y gall perygl llifogydd yn 2080 fod hyd at 30 gwaith yn fwy nag ydyw ar hyn o bryd, oherwydd effeithiau cynnydd yng nghodiadau lefel y môr ynghyd â llanwau storm mwy eu maint.
English

Flooded Stadium © WWF Cymru
Dyma sut fyddau Stadiwm y Mileniwm yn edrych o dan lifogydd


Stop Climate Chaos banner © WWF Cymru
Baner Atal Anrhefn Hinsawdd