WWF-UK: Rheoli ein bywyd gwyllt yn well
Access key details
This site uses the UK government standard access keys, as shown below:
S - Skip navigation1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details
Section navigation
WWF Cymru
How you can help
Rheoli ein bywyd gwyllt yn well
4 Hydref 2006
Y Prif Faterion
- Mae mannau lle mae angen cadwraeth wedi cael eu dynodi o dan Ddeddfwriaeth yr UE ond maent yn dal i ddioddef o orecsbloetio a diffyg gwarchodaeth.
- Er bod y dynodiadau'n helpu rheolaeth bioamrywiaeth yng Nghymru nid ydynt bob amser yn darparu'r offer mae eu hangen ar gyfer y gwaith.
- Mae dynodiadau Ewrop yn dethol y rhywogaethau maent yn eu gwarchod – felly efallai y bydd angen cau rhai o'r bylchau i sicrhau bod ein moroedd yn gynrychiadol o'r holl rywogaethau a chynefinoedd a geir ynddynt.
- Gall defnyddwyr yr amgylchedd morol fod yn ddi-hid o'u heffaith ar fywyd gwyllt oherwydd ei fod allan o'r golwg – mae angen i ni annog pob defnyddiwr i ystyried yr effaith mae'n ei chael yn fwy gofalus.
- Set lawn o 'offer'. Bernir bod hyn yn gwbl hanfodol i ymdrechion ym maes cadwraeth natur.
- Mecanwaith statudol newydd ar gyfer dynodi ardaloedd gwarchodedig morol.. Dim ond dull statudol o ddynodi ardaloedd o'r fath fydd yn
digon cadarn i roi'r mesurau priodol i sicrhau adferiad a chadwraeth bioamrywiaeth. - 'Safleoedd Morol o Bwysigrwydd Cenedlaethol' newydd' – yn y bôn, y gallu i ddynodi rhagor o safleoedd a fyddai'n helpu i 'gau'r bylchau' y mae deddfwriaeth Ewropeaidd wedi'u gadael.
- Cyfres o Warchodfeydd Morol Tra Gwarchodedig (Highly Protected Marine Reserves / HPMRs) lle gwaherddir pob gweithgaredd masnachol sy'n echdynnu, yn ychwanegu neu'n difrodi mewn ffordd arall.
- Yn benodol, rhaid i'r Mesur ragnodi rhwydwaith cynrychiadol o Safleoedd Morol o Bwysigrwydd Cenedlaethol (Nationally Important Marine Sites / NIMS), a rhaid i'r rhain gynnwys cyfres o warchodfeydd morol tra gwarchodedig (highly protected marine reserves / HPMRs). Gall HPMRs gynnwys MPA cyfan neu ran o MPA neu fod yn safleoedd ar eu pen eu hunain a rhoddir mwy o warchodaeth iddynt. Gwaherddir pob gweithgaredd masnachol sy'n echdynnu a gweithgareddau eraill sy'n difrodi.
- Bydd y rhain gyda'i gilydd yn set ddigonol o ddyletswyddau a mecanweithiau sy'n galluogi rhanddeiliaid i gyflawni eu rhwymedigaethau o ran cadwraeth bioamrywiaeth yn yr MPAs ac yn yr amgylchedd morol ehangach.
English



Beth arall mae WWF Cymru yn gofyn amdani? Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y teitlau isod -
Rheoli Pysgodfeydd Morol
Cynllunio Gofodol Morol
Trwyddedu a Chaniatadau
Corff Rheoli Newydd
Dyma rai o'r bywyd gwyllt y gellir eu chwilio yn ein moroedd...

...morgwn glas...

...dolffiniaid...

...morfil pigfain
Beth arall mae WWF Cymru yn gofyn amdani? Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y teitlau isod -
Rheoli Pysgodfeydd Morol
Cynllunio Gofodol Morol
Trwyddedu a Chaniatadau
Corff Rheoli Newydd