WWF-UK: Corff Rheoli Newydd

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Corff Rheoli Newydd

5 Hydref 2006

Y Prif Faterion
  • Er mwyn cyflawni'r diwygio sylfaenol a hir ddisgwyliedig y mae ei angen, bydd angen sefydliad rheoli newydd â digon o adnoddau.
  • Mae natur drawsbynciol Cynllunio Gofodol Morol yn golygu na ddylid ystyried ond systemau newydd sy'n annibynnol ar unrhyw sector, adran neu Gorff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad.
  • Mae'n hanfodol i Sefydliad Rheoli'r Môr allu dangos tryloywder, barn annibynnol a chytbwys, gweithgareddau syml ac effeithlon ac integreiddio a chysoni ar lefel y DU.
  • Mae WWF Cymru yn gwrthwynebu'n gryf y syniad o rannu cyfrifoldebau a ddatganolwyd trwy'r Mesur Morol ymhlith gwahanol adrannau. Diben y Mesur Morol yw lleihau (nid atgyfnerthu) y nifer fawr o adrannau sydd â chyfrifoldeb am reoli'r cefnforoedd.
Mae WWF Cymru yn galw am
  • Corff annibynnol, gyda digon o bŵer i hwyluso penderfyniadau trawsadrannol yn y llywodraeth yng nghyswllt Cynllunio Gofodol Morol, ac i ddwyn cyrff ynghyd pan fo angen penderfyniadau o'r fath.
  • Hefyd rhaid bod ganddo linellau atebolrwydd clir i'r llywodraeth fel y gellir datrys anghydfodau ynghylch penderfyniadau (sy'n gysylltiedig â Chynllunio Gofodol Morol a thrwyddedu) ar lefel uwch lle bo angen.
  • Rhaid i system reoli Cymru fod yn gydnaws â Sefydliad Rheoli Morol y DU ac i'r gwrthwyneb. Meddyliwch, er enghraifft, pa mor gymhleth fyddai cael dwy system wahanol yn rheoli dau hanner Aber Afon Hafren.
English

Surfing on Pembrokshire coast © Photolibrary
Chwaraeon dwr oddi ar arfordir Sir Benfro


Beth arall mae WWF Cymru yn gofyn amdani? Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y teitlau isod -

Rheoli Pysgodfeydd Morol

Cynllunio Gofodol Morol

Trwyddedu a Chaniatadau

Rheoli ein bywyd gwyllt yn well