WWF-UK: Gweinidog yn hyrwyddo Cymru Un Blaned

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Gweinidog yn hyrwyddo Cymru Un Blaned

5 Gorffennaf 2006
Fe helpodd Jane Davidson, Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig i dynnu sylw at y ffordd y mae pawb yng Nghymru'n defnyddio mwy na'i gyfran deg o adnoddau naturiol y blaned mewn digwyddiad yn y Cynulliad yr wuthnos hon.
Mae WWF Cymru yn dweud bod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ran bwysig i'w chwarae i helpu pobl i fyw o fewn cynhwysedd naturiol y blaned. Mae ein cartrefi, ein cymunedau a'n ffyrdd o fyw – yr hyn yr ydym ni'n ei brynu a'i ddefnyddio, yr ynni yr ydym ni'n ei ddefnyddio a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud â'n gwastraff – yn cael effaith ar ein hamgylchedd. Pe bai pawb yn y byd yn byw fel yr ydym ni yng Nghymru, byddai arnom angen tair planed i'n cynnal.

Yr haf hwn bydd WWF Cymru'n hyrwyddo cyfrifiannell ôl troed ei ymgyrch Un Blaned mewn digwyddiadau cyhoeddus allweddol. Nod y gyfrifiannell ar-lein ar www.wwf.org.uk/calcuator yw helpu defnyddwyr i ganfod ffyrdd o leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Dywedodd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru: "Pe bai pawb yn byw yn yr un ffordd ag yr ydym ni yng Nghymru, byddai arnom ni angen tair planed i'n cynnal. Mae ein gorddefnyddiaeth yn arwain yn uniongyrchol at newid yn yr hinsawdd, difodiant rhywogaethau a methiant pysgodfeydd. Gallwn ddatrys y broblem hon trwy symud at ffyrdd o fyw gwahanol – ond gwell, iachach a hapusach – yr ydym ni'n eu galw'n ffyrdd o fyw Un Blaned."

Ymunodd sawl aelodau'r Cynulliad ac arweinwyr partion â'r digwyddiad gan gynnwys Lorraine Barrett, AC Llafur dros De Caerdydd a Phenarth; Mick Bates, AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros Sir Drefaldwyn; Peter Black, AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros ardal orllewin de Cymru; Nick Bourne, Arweinwr y Ceidwadwyr Cymreig; Rosemary Butler, AC Llafur dros orllewin Casnewydd; Jane Davidson, Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig; Paul Davies, AC dros Sir Benfro; Janice Gregory, AC Llafur dros Ogmore; Mark Isherwood, AC y Ceidwadwyr dros ardal gogledd Cymru; Irene James, AC Llafur dros Islwyn; Darren Millar, AC y Ceidwadwyr dros orllewin Clwyd; Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru dros orllewin Caerfyrddin; Joyce Watson, AC Llafur dros ardal canolbarth a gorllwein Cymru; Brynle Williams, AC y Ceidwadwyr dros ardal gogledd Cymru a Leanne Wood, AC Plaid Cymru dros ardal canolbarth de Cymru.
English

Jane Davidson © WWF Cymru
Jane Davidson, Gweinidog Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig, yn jyglo tair blaned


AM, JD and MP © WWF Cymru
Anne Meikle, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru, Jane Davidson a Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru


I edrych ar luniau o'r aelodau Cynulliad a mynychodd y digwyddiad cliciwch yma