WWF-UK: Tipyn o sbeis i'ch ffordd werdd o fyw

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Tipyn o sbeis i'ch ffordd werdd o fyw

30 Gorfennaf 2007
Mae Spice Girl Melanie C yn cefnogi cyfrifiannell ôl troed ymgyrch Un Blaned WWF – offeryn ar-lein newydd i helpu pobl i fesur a lleihau eu heffaith ar y blaned.
I ddathlu lansiad y gyfrifiannell ôl troed gan WWF Cymru aeth Melanie C i www.wwf.org.uk/calculator i gymryd yr eco-brawf. Yna rhoddodd y gyfrifiannell gamau wedi'u teilwra'n unigol iddi hi i'w helpu i leihau ei hôl troed. Atebodd gwestiynau'r cwis am ei ffordd o fyw a chanfu sawl planed yr oedd ei hôl troed hi'n mesur.

Mae gan Melanie, sydd â chartref yn Sir Fynwy, ôl troed o 2.30 planed, sy'n is na chyfartaledd y DU, sef 3.2 planed.

Dywedodd Melanie: "Mae'n frawychus pa mor gyflym mae ein ffyrdd o fyw'n difrodi'r blaned. Rhaid i ni leihau ein holion traed i lefel un blaned, gan olygu y byddwn yn byw mewn cytgord â natur. Mae cyfrifiannell ôl troed ar-lein WWF yn ffordd wych o'n helpu ni i gyd i gael gwybod sut y gallwn fyw mewn ffordd wyrddach. Drwy wneud y dewisiadau iawn fel unigolion gallwn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd yng Nghymru ac o gwmpas y byd."

Mae Melanie yn ymuno â rhestr o bobl adnabyddus eraill trwy ddangos ei chefnogaeth i lansiad cyfrifiannell ôl troed WWF yng Nghymru. Bu Terry Waite CBE, Llysgennad dros WWF-UK, yn ymweld â stondin WWF Cymru yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i ddysgu mwy am y gyfrifiannell ôl troed.

Ymwelydd arall oedd Branwen Gwyn, sy'n gyflwynydd rhaglenni teledu Cymraeg ac yn gerddor dawnus. Cwblhaodd hi'r gyfrifiannell a chanfod mai 2.57 planed oedd ei hôl troed hi. Ymhlith y bobl amlwg eraill sydd wedi cefnogi a chwblhau'r gyfrifiannell ôl troed mae Fearne Cotton a Sarah Beeny.

Mi ymwelodd WWF Cymru â Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos diwethaf, gwahoddwyd y cyhoedd i ddod i'w stondin i fesur eu holion traed ecolegol a chodi copi am ddim o'r Llawlyfr Gwyrdd Bach i Gymru. Cliciwch yma i weld lluniau o'r sioe.
English

Melanie C © Lorenzo Agius
Cyflawnodd spice girl Melanie C y gyfrifiannel ôl troed er mwyn chwilio allan sut y gallai leihau ei heffaith ar y blaned