WWF-UK: Mynd yn wyrdd mewn pythefnos gyda'r Llawlyfr Bach Gwyrdd i Gymru
Access key details
This site uses the UK government standard access keys, as shown below:
S - Skip navigation1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details
Section navigation
WWF Cymru
How you can help
Mynd yn wyrdd mewn pythefnos gyda'r Llawlyfr Bach Gwyrdd i Gymru
15 Awst 2007
Yng Nghymru rydym yn defnyddio adnoddau'r byd yn rhy gyflym. A newid yn yr hinsawdd yw un o symptomau'r ffordd yr ydym yn byw tu hwnt i allu'r blaned i'n cynnal. Yn wir, pe bai pawb yn y byd yn defnyddio adnoddau naturiol ac yn cynhyrchu carbon deuocsid (CO2) fel yr ydym ni yng Nghymru, byddai arnom angen tair planed i'n cynnal.
Ond gallwn ni i gyd wneud ein rhan i arbed adnoddau a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Os byddwn ni i gyd yn defnyddio adnoddau'n ddoethach, yn arbed ynni ac yn torri i lawr ar ein gwastraff gallwn gynhyrchu llai o garbon deuocsid, lleihau ein heffaith a throedio'n ysgafnach ar y Ddaear.Dyma ble mae'r Llawlyfr Bach Gwyrdd dwyieithog i Gymru'n ddefnyddiol.
Mae'r llawlyfr, a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad â'r Llawlyfr Gwyrdd a WWF Cymru, yn rhoi gwybodaeth mewn tameidiau bach a fydd yn helpu pobl a'u teuluoedd i ddechrau gwneud gwahaniaeth heddiw. Elfen allweddol o'r Llawlyfr Bach Gwyrdd yw cynllun 14-diwrnod a fydd yn helpu'r darllenwyr i fynd yn wyrdd mewn pythefnos a gwneud eu rhan i warchod y blaned a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
"Mae defnyddwyr yng Nghymru yn fwy ymwybodol fod yr hyn maen nhw'n ei brynu yn cael effaith ar yr amgylchedd. O ganlyniad maen nhw eisiau gwneud mwy i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd, colli rhywogaethau a dinistrio coedwigoedd y byd. Mae'r llawlyfr hwn yn nodi ffyrdd y gall defnyddwyr leihau eu hôl troed a helpu i symud Cymru o'i 'ffordd o fyw tair planed' tuag at Gymru Un Blaned," meddai Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru.
Gan esbonio pa mor bwysig yw newidiadau bach bob dydd i ffordd o fyw fwy cynaliadwy, dywedodd Helen Nelson o Cynnal Cymru: "Mae byw'n gynaliadwy yn golygu ystyried pob penderfyniad a wnawn, o brynu'n foesegol i gefnogi cymunedau lleol ac arbed ynni. Ond yn bwysicaf oll, mae'n fater o gymryd camau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. Pe bai pawb yn newid o leiaf un peth, i fyw mewn ffordd fwy ecogyfeillgar, byddai nifer y newidiadau bach gyda'i gilydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Gall y Llawlyfr Bach Gwyrdd helpu trwy ddangos i bobl beth allan nhw ei wneud."
Mae dewisiadau gwyrdd o ran ffordd o fyw (neu 'ddewisiadau cynaliadwy o ran ffordd o fyw') yn dod yn fwy a mwy poblogaidd. Ymhlith yr enwogion sy'n arwain yn y maes mae Kevin McCloud, Cameron Diaz, Ai Gore a Chris Martin. Yn nes at adref mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar eu bod yn bwriadu gwahardd bagiau cario yng Nghymru nawr bod ganddynt bwerau deddfu newydd.
Comisiynodd WWF Cymru arolwg annibynnol i ymchwilio i farn defnyddwyr yng Nghymru am brynu anrhegion ecogyfeillgar. Canfu'r arolwg mai menywod, pobl sy'n byw yn y Canolbarth a'r Gorllewin (Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro), a siaradwyr Cymraeg sy'n fwyaf tebygol o ystyried prynu anrhegion ecogyfeillgar. Y lleiaf tebygol yw dynion canol oed gyda dim ond 38 y cant yn cefnogi'r syniad.
Mae'r arolwg hefyd yn dangos rhesymau pwysig eraill pam y mae pobl Cymru'n cefnogi prynu nwyddau moesegol. Mae 86 y cant yn dweud eu bod yn credu ei fod yn helpu i sicrhau goroesiad anifeiliaid sydd mewn perygl a'u cynefinoedd; 68 y cant eu bod yn teimlo ei fod yn helpu bywoliaeth y cynhyrchwyr a 58 y cant eu bod yn credu fod eu ffrindiau a'u teuluoedd yn meddwl ei fod yn fwy ystyriol.

English

Hoffech chi gopi o'r Llawlyfr Bach Gwyrdd i Gymru?Cliciwch yma i ddarllen fersiwn arlein neu ffoniwch ni ar 029 2045 4970 i dderbyn copi caled o'r llawlyfr am ddim.