WWF-UK: Adroddiad yn mapio'r daith i Gymru Un Blaned

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Adroddiad yn mapio'r daith i Gymru Un Blaned

11 Hydref 2007
Adroddiad newydd gan Ganolfan Ecoleg Drefol a Rhanbarthol Prifysgol Manceinion fydd canolbwynt ymgyrch 'Cymru Un Blaned' WWF Cymru, sy'n cael ei lansio heddiw, 11 Hydref 2007, mewn Uwchgynhadledd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Gan ddefnyddio'r Ôl Troed Ecolegol mae adroddiad 'Cymru Un Blaned' yn dangos pe bai pawb yn y byd yn defnyddio adnoddau naturiol ac yn cynhyrchu carbon deuocsid ar yr un raddfa ag yr ydym ni yng Nghymru, byddai arnom angen tair planed i'n cynnal. Mae'n dod i'r casgliad bod yn rhaid i ni leihau ôl troed Cymru 75% erbyn 2050 er mwyn byw o fewn ein cyfran deg o adnoddau'r blaned. Mae'n rhybuddio, os byddwn yn parhau â'r tueddiadau presennol a'r polisïau sy'n bodoli ar hyn o bryd, bydd ôl troed Cymru'n cynyddu 30%, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn teithio mewn awyrennau a'r sector bwyd a diod.

Yn annerch yr Uwchgynhadledd fydd Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Dyfrig Morgan James, Llywydd Rhanbarthol Gogledd a Chanolbarth Ewrop, Lafarge; Matthew Anderson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu BSkyB a Mike Barry, Pennaeth Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, Marks & Spencer, a Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru fydd y Cadeirydd. Bydd 80 o wneuthurwyr penderfyniadau mwyaf blaenllaw Cymru o'r sectorau busnes, cyhoeddus, academaidd a gwirfoddol yn bresennol.

Meddai Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru, "Mae WWF Cymru yn credu bod yn rhaid i Gymru gynaliadwy fod yn Gymru Un Blaned. Pe bai'n cael ei fabwysiadu gan y Llywodraeth a busnes, byddai'r adroddiad hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i sicrhau lle i Gymru fel arweinydd byd-eang ym maes datblygu cynaliadwy. Byddai hefyd yn cynnig ansawdd bywyd da i'w dinasyddion."

"Nid yw'n gadael llawer o amheuaeth ynglŷn â'r angen i weithredu yn awr, a'r nifer fawr o heriau a chyfleoedd sy'n ein hwynebu o ran newid. Un peth sy'n glir o'r adroddiad yw y bydd angen gweithredu ar y cyd i sicrhau'r newidiadau y mae eu hangen i greu Cymru Un Blaned, gweithredu ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol, busnesau, cymunedau ac unigolion. Mae gennym ni i gyd ran hanfodol i'w chwarae."

Mae'r adroddiad yn nodi ffyrdd allweddol o greu Cymru Un Blaned trwy leihau &qcirc;l troed wyth sector allweddol gan gynnwys bwyd, adeiladau, trafnidiaeth, cynhyrchion, gwasanaethau, ynni, adnoddau a'n ffyrdd o fyw. Mae pob adran yn canolbwyntio ar argymhellion ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig, a'r tymor hirach – gan ddechrau yn awr hyd 2050 maent yn cynnwys:

Amodau sylfaenol ar gyfer Cymru Un Blaned:
  • Newid economi Cymru gan anelu at Economi Un Blaned; mae Llywodraeth y DU wedi derbyn yr angen i ddatblygu Economi Un Blaned fel y nodir yn ei strategaeth datblygu cynaliadwy
  • Sefydlu polisi caffael sy'n mynnu safonau uchel o ran effeithlonrwydd adnoddau a gwelliant parhaus, gan arwain y ffordd i weddill y gwasanaeth cyhoeddus a chreu marchnadoedd newydd i seilweithiau bach eu heffaith
  • Gosod targedau ar gyfer newid ymddygiad defnyddwyr mewn ymgyrchoedd cyfathrebu gan y llywodraeth sy'n hybu defnyddiaeth gynaliadwy
  • Cydnabod maint y gwelliannau o ran effeithlonrwydd adnoddau y mae eu hangen gan y sector busnes a gwobrwyo busnesau sy'n canfod cyfleoedd busnes sy'n cyfrannu at leihau eu hôl troed eu hunain ac ôl troed y sector o'r farchnad
Argymhellion polisi ymarferol
  • Adeiladau Un Blaned: Dyfodol o adeiladau cynaliadwy rhad ar garbon, a gaiff eu codi trwy bartneriaethau gyda phreswylwyr, benthycwyr, landlordiaid a chwmnïau cyfleustodau er mwyn gweddnewid effeithlonrwydd ynni'r stoc sy'n bodoli eisoes. Er enghraifft, gallai gwella effeithlonrwydd ynni stoc tai Cymru arwain o bosibl at leihau ôl troed tai 30%
  • Bwyd Un Blaned: Newid i gadwyn gyflenwi fach ei heffaith trwy agenda amaeth-amgylcheddol ar ochr y cynhyrchwyr ac agenda diet iach ar ochr y defnyddwyr. Er enghraifft, gosod safonau ar gyfer bwyd iach cynaliadwy yn y sector cyhoeddus megis ysgolion ac ysbytai a sicrhau bod mwy o dir amaethyddol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu organig – byddai hyn yn arwain o bosibl at leihau ôl troed bwyd 30%
  • Trafnidiaeth Un Blaned: dyfodol o drafnidiaeth gyhoeddus fach ei heffaith ac o ansawdd da a cheir y mae eu heffeithlonrwydd wedi codi sawl gradd. Er enghraifft, gallai datblygu cynlluniau teithio gwyrdd cymunedol arwain o bosibl at leihau ôl troed trafnidiaeth 30%

Meddai awdur yr adroddiad, Joe Ravetz, o Ganolfan Ecoleg Drefol Prifysgol Manceinion: "Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod modd i Gymru symud tuag at fod yn wlad Un Blaned. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i Gymru drefnu economi sy'n ffynnu ar un blaned, yn hytrach na gwastraffu adnoddau tair planed fel ar hyn o bryd."

"Er mwyn cyrraedd y nod hwn, mae'n rhaid cael system newydd o gynhyrchu a defnyddio, lle mae llwyddiant mewn busnes yn dibynnu ar effeithlonrwydd adnoddau ac mae gwerth i'r defnyddiwr yn dibynnu ar ansawdd nid ar faint."

Bydd y cynadleddwyr yn clywed am enghreifftiau o gwmnïau blaenllaw gan gynnwys Sky, Marks & Spencer, Lafarge a'r adwerthwr organig o Gymru, Treehouse, am y ffordd y maen nhw'n ymgysylltu ag agenda Cymru Un Blaned.
English


© WWF Cymru



I ddarllen crynodeb yr adroddiad cliciwch yma



© WWF-UK
© WWF-UK
© Steve Morgan/WWF-UK
© WWF-UK