WWF-UK: Dinas yng Nghymru ar frig rhestr werdd WWF
Access key details
This site uses the UK government standard access keys, as shown below:
S - Skip navigation1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details
Section navigation
How you can help
Dinas yng Nghymru ar frig rhestr werdd WWF
24 Hydref 2007
Efallai nad yw rygbi'n un o gryfderau Cymru ar hyn o bryd ond ym maes yr amgylchedd, preswylwyr Casnewydd sydd ar frig rhestr werdd WWF o ddinasoedd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Mae adroddiad y rhestr werdd yn rhestru 60 o ddinasoedd trwy ddadansoddi defnyddiaeth y preswylwyr gan ddefnyddio'r Ôl Troed Ecolegol – offeryn sy'n mesur effaith unigolyn ar yr amgylchedd, yn arbennig ei ddefnyddiaeth o fwyd, ynni yn y cartref a'r ffordd mae'n defnyddio trafnidiaeth. Darganfu fod gan preswylwyr dinasoedd Cymru, ar gyfartaledd, olion traed llai na phreswylwyr dinasoedd yn Lloegr a'r Alban.
Cafodd pum dinas yng Nghymru eu cynnwys, sef Casnewydd, Abertawe, Caerdydd, Tyddewi a Bangor. Gan Gasnewydd roedd yr ôl troed lleiaf a chan Bangor roedd y mwyaf. Yn Lloegr, gan Plymouth roedd yr ôl troed lleiaf a chan Gaer-wynt roedd y mwyaf. Glasgow oedd ar frig y rhestr a Chaeredin oedd ar y gwaelod yn yr Alban.
At ei gilydd, dangosodd yr adroddiad fod pob dinas gan gynnwys Casnewydd yn defnyddio mwy na'i chyfran deg o adnoddau naturiol. A dweud y gwir, mae'r preswylydd cyfartalog yn ninasoedd Cymru yn defnyddio adnoddau bron tair planed.
Dywedodd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru: "Gan ein dinasoedd mae'r potensial mwyaf ar gyfer byw mewn ffordd ecogyfeillgar, oherwydd y cyfleusterau lleol, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, dwysedd tai uchel ac adnoddau cyhoeddus a rennir.
"Serch hynny, ni all y preswylydd gwyrddaf mewn dinas, ar gyfartaledd, ond cwtogi traean o'i ôl troed - gan newid o gyfartaledd Cymru, sef ffordd o fyw dair blaned, i ffordd o fyw ddwy blaned. Mae hyn yn dangos yn eglur nad mater i ddefnyddwyr yn unig yw newid i ffordd o fyw'n gynaliadwy ar un blaned. Mae'n rhaid i lywodraethau a busnesau hefyd chwarae eu rhan er mwyn osgoi'r effeithiau mwyaf dinistriol ar yr amgylchedd."
Y prif ffactorau sy'n effeithio ar ôl troed ecolegol unigolyn yw: tai, trafnidiaeth, bwyd, nwyddau traul a gwasanaethau cyhoeddus a phreifat. Mae'r ôl troed ecolegol yn cynnwys yr arwynebedd tir a môr y mae ei angen i ddarparu bwyd ac adnoddau, cynhyrchu ynni ac amsugno eu gwastraff a'u llygredd.
Mae'r adroddiad yn argymell camau y gall unigolion eu cymryd i leihau eu hôl troed. Mae'r rhain yn cynnwys: cyfrifo'ch ôl troed ar www.wwf.org.uk/calculator a llunio cynllun i'w leihau, ymuno â grŵp gwyrdd cymunedol, mynd ar wyliau'n nes at adref a cheisio lleihau'r ynni a ddefnyddir yn eich cartref ac arbed arian ar filiau ar yr un pryd.
Y prif ffeithiau am ddinasoedd Cymru
Ychwanegodd Mr Parry: "Mae gan bopeth yr ydym yn gwario arian arno y potensial i achosi difrod yn rhywle yn y byd, boed yn goedwigoedd sy'n diflannu, pysgodfeydd sy'n crebachu neu newid yn yr hinsawdd. Ond trwy ddeall yr effeithiau posibl hyn yn well a newid y ffordd yr ydym yn gwneud pethau, gallwn leihau'r effeithiau negyddol ar yr amgylchedd ac ar yr un pryd cynnal ein ffordd o fyw.
"Yr hyn sydd angen yw i ni gamu allan o gylch 'prynu er tynnu sylw' (conspicuous consumption). Mae angen i bobl fynd yn ddinasyddion gweithgar – cymryd camau cadarnhaol yn eu bywydau eu hunain ac yn eu cymuned i leihau eu hôl troed eu hunain – a defnyddio'u harian yn ddoeth. Trwy ddewis cynhyrchion a chwmnïau cyfrifol gallwn gael effaith gadarnhaol."
AWGRYMIADAU ALLWEDDOL WWF I BOBL Y DINASOEDD LEIHAU EU HOLION TRAED
1. Mesur eich ôl troed a gosod targedau blynyddol i'w leihau
Mae'n haws o lawer lleihau'ch ôl troed os ydych chi'n gwybod beth yr ydych yn ei ddefnyddio a beth yw ei effaith. Gallwch fesur eich effaith bersonol ar yr amgylchedd a dysgu'r ffyrdd gorau o'i lleihau ar wwf.org.uk/calculator.
2. Sicrhau bod eich cartref mor rhad ar ynni ag sy'n bosibl
Dyma un o'r awgrymiadau hawsaf i'w ddilyn. Gall llawer o fesurau nid yn unig leihau'ch ôl troed ond hefyd arbed arian i chi. Er enghraifft, diffodd offer yn lle eu troi i'r modd parod, neu wella inswleiddiad eich cartref.
3. Bwyta diet lleol, organig, tymhorol heb lawer o gig
Ni all bwyd sydd wedi cael ei gludo hanner ffordd o gwmpas y byd byth fod ag ôl troed bach, er y gall ei effaith weithiau fod yn llai nag ôl troed bwyd lleol a gynhyrchir trwy ddulliau dwys. Mae rhai archfarchnadoedd bellach yn dangos a yw eu cynnyrch wedi cael ei gludo i'r DU mewn awyren. Mantais arall yw bod y bwyd mwyaf ffres – sydd heb ei brosesu, wedi'i dyfu'n lleol ac yn dymhorol – hefyd yn fwyd ag ôl troed bach.
4. Meddwl cyn i chi wario
Y pethau'r ydym yn eu prynu sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'n hôl troed. Yn aml mae'n tai'n llawn pethau nad ydym yn eu defnyddio neu'u gwisgo ond unwaith. Ar gyfartaledd defnyddir dril am 15 munud yn unig yn ystod ei oes. Yn hytrach na phrynu rhywbeth, ystyriwch a allech logi neu fenthyca un yn lle hynny.
5. Mynd ar wyliau'n nes at adref
Mae teithio mewn awyrennau'n rhan fawr a chynyddol o'n hôl troed cyfunol. Bydd rhan un teithiwr o daith ddwyffordd ar awyren i Awstralia yn cael yr un effaith ar yr hinsawdd â gwres a phŵer i'r cartref cyfartalog am chwe blynedd. Heddiw mae'n haws cyrraedd Ewrop ar y trên nag erioed o'r blaen. Mae teithiwr ar awyren i Baris yn gyfrifol am ddeg gwaith mwy o ollyngiadau CO2 na theithiwr ar drên Eurostar.

- Ceir yr olion traed lleiaf yng Nghymru yn ardaloedd trefol y De.
- Gan bobl Casnewydd mae'r ôl troed cyfartalog lleiaf yng Nghymru yn sectorau bwyd, trafnidiaeth, tai a nwyddau traul.
- Roedd sgôr y pum dinas yng Nghymru yn y 25 isaf - Casnewydd (1); Abertawe (9); Caerdydd (15) Tyddewi (21) a Bangor (24)
- Mae ôl troed bwyd Caerdydd yn fwy nag ôl troed bwyd Manceinion. Pe bai ôl troed bwyd Caerdydd yn cael ei fesur mewn rhandiroedd, byddai ar y person cyfartalog angen 49 rhandir i ddarparu ei fwyd.
- Gan Fangor mae'r ôl troed tai mwyaf, sydd yr un maint ag olion traed Portsmouth ac Inverness, yr Alban. Yn nhermau arwynebedd, 212 o gilometrau sgwâr yw ôl troed tai Bangor. Mae hynny'n fwy na dwywaith arwynebedd dinas Bangor ei hun (102 o gilometrau sgwâr).
- Gan Dyddewi mae'r ôl troed trafnidiaeth mwyaf o bob dinas yng Nghymru, gyda Bangor yn ail agos. Mae gan breswylydd yn Nhyddewi ôl troed trafnidiaeth yr un maint â phreswylydd yn Sheffield neu Birmingham.
- 1,580,000 o hectarau byd-eang yw ôl troed cyfan Caerdydd (1). Mae hynny'n fwy na 100 gwaith maint Caerdydd ei hun. Roedd Caerdydd yn 15fed ar y rhestr gyda Chaeredin yn 50fed. Ym mhob sector ôl troed, roedd gan Gaeredin ganlyniad uwch na Chaerdydd gyda'r canlyniadau mwyaf yn sectorau tai, nwyddau traul a thrafnidiaeth.
- Ôl troed trafnidiaeth a thai Abertawe yw'r lleiaf ond un yng Nghymru ac mae'n debyg i faint ôl troed Coventry.