WWF-UK: Uwchgynhadledd Cymru Un Blaned

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Uwchgynhadledd Cymru Un Blaned

11 Hydref 2007
CADEIRYDD, SIARADWYR a PANELYDDION
CADEIRYDD
Betsan Powys, Golydydd Gwleidyddol, BBC Cymru

Mae Betsan Powys wedi bod yn Olygydd Gwleidyddol i BBC Cymru ers mis Medi 2006 ac mae'n gyfrifol am ddarlledu gwleidyddol dyddiol y gorfforaeth. Fe ddywedodd un sylwebydd wrthi yn ddiweddar: "It was tedious for seven years, then I left, you came along and look what happened!"
Mae hi wedi bod yn gyfnod cyffrous i wleidyddiaeth yng Nghymru, ac yn her ddyddiol i Betsan i ddatblygu sut mae stori gwleidyddiaeth Cymru yn cael ei adrodd i bobl Cymru a thu hwnt.

SIARADWYR
Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru

Morgan Parry yw Pennaeth WWF Cymru. Cyn hynny bu'n Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, ac am ddeng mlynedd bu'n rheoli parciau gwledig, gwarchodfeydd natur, atyniadau ymwelwyr a llwybrau beicio i Gyngor Sir Gwynedd. Roedd Morgan yn Aelod o Fwrdd Cyfeillion y Ddaear rhwng 1986 ac 1989, ac yn aelod o Bwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru Asiantaeth yr Amgylchedd rhwng 1998 a 2000. Mae wedi gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau ymgynghorol a gweithgorau Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan gynnwys Grŵp Cyfeirio'r Strategaeth Amgylcheddol a'r Grŵp Traws-sector ar Newid yn yr Hinsawdd. Mae'n cyfrannu'n rheolaidd i raglenni teledu a radio ar yr amgylchedd, ac mae'n Gadeirydd Cynnal Cymru/Sustain Wales, Fforwm Datblygu Cynaliadwy Cymru.

Joe Ravetz, Cydgyfarwyddwr Canolfan Ecoleg Drefol Prifysgol Manceinion
Mae Joe Ravetz yn Gymrawd Ymchwil mewn Cynllunio a Thirwedd. Mae'n bensaer siartredig gyda diddordebau a phrofiad mewn cynllunio rhanbarthol, datblygu economaidd, rheoli amgylcheddol ac adfywio cymunedol. Ef yw cydgysylltydd rhaglen 'Rhanbarth Dinas Cynaliadwy, partneriaeth rhwng Cymdeithas Cynllunio Gwlad a Thref, y sector cyhoeddus a'r gymuned academaidd yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae Joe Ravetz hefyd yn gweithio ar raglen 'Cynaliadwyedd Byd-eang' y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae wedi cymryd rhan weithredol ym mhrosiect Gweledigaethau Integredig DG12 y Comisiwn Ewropeaidd.

I weld cyflwyniad Joe cliciwch yma

Dyfrig James, Llywydd Rhanbarthol Gogledd a Chanolbarth Ewrop, Lafarge
Dyfrig James yw Llywydd Rhanbarthol Gogledd a Chanolbarth Ewrop i fusnes Agregau a Choncrid Lafarge. Mae'r rhanbarth hon yn cynnwys y DU, yr Almaen, Awstria, Gwlad Pwyl, yr Wcráin a Rwsia yn ogystal â gwledydd y Baltig a Llychlyn. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Gweithredol Byd-eang Isadran Agregau a Choncrid Lafarge, sydd â throsiant o €5.4bn ac sy'n bresennol mewn 27 o wledydd. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr i Brifysgol Lafarge.

Mae'n dadlau'n gadarn dros wella safonau iechyd a diogelwch ac yn credu'n gryf y dylai'r diwydiant fod yn rhan o ateb byd cynaliadwy.
Cymro Cymraeg yw Dyfrig sy'n hanu o'r Gorllewin.

I weld cyflwyniad Dyfrig cliciwch yma

Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Llywodraeth Cynulliad Cymru
Jane Davidson yw'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ganddi gyfrifoldeb arbennig am newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy, yr amgylchedd, ynni, tai a chynllunio. Fe'i penodwyd i swydd yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai ym mis Gorffennaf 2007. Cyn hynny bu'n Weinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

Bydd newid yn yr hinsawdd yn rhan annatod o'r portffolio ac mae'r Gweinidog yn awyddus iddo fod yn ganolbwynt i waith pob rhan o'r adran. Un o'r materion hollbwysig sy'n wynebu Cymru yw mynd i'r afael â gwastraff, a bydd hyn yn rhan fawr o'r ddeddfwriaeth ym mlwyddyn gyntaf y llywodraeth newydd.

I ddarllen araith y Gweinidog cliciwch yma

PANELYDDION
Mark North, Pennaeth Cynaliadwyedd a Materion Cyhoeddus, Lafarge

Cafodd Mark radd mewn Daeareg o Brifysgol Sheffield yn 1980 ac aeth yn syth at gwmni Anglo-American/DeBeers fel Daearegwr Chwilio Diemwntau, gan weithio yn Namibia a De Affrica. Yn 1984 dychwelodd i'r DU i weithio yn y sector glo preifat yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr ac yn 1987 aeth at gwmni Redland Aggregates Limited, sef Lafarge Aggregates Limited erbyn hyn. Cyn ei benodi'n Bennaeth Cynaliadwyedd a Materion Cyhoeddus ym mis Mawrth 2007, Mark oedd y Rheolwr Cynllunio ac Ystadau Cenedlaethol; roedd yn gyfrifol am yr holl faterion yn ymwneud â thir a chynllunio, ac yn benodol, canfod a chaniatáu adnoddau mwynol newydd.

Mae Mark yn Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol, mae'n briod a chanddo ddau fab ac mae'n byw yn Swydd Caergrawnt.

Andy Middleton, Prif Weithredwr, TYF Group. Cyfarwyddwr, Pembroke
Mae Andy yn gweithio fel hwylusydd, siaradwr a thaniwr creadigrwydd gyda sefydliadau cyhoeddus a phreifat ledled y byd i'w helpu i ddwyn ynghyd cyfrifoldeb cymdeithasol, arweinyddiaeth a synnwyr cyffredin mewn atebion cynaliadwy sy'n gwneud gwahaniaeth ymarferol. Mae ei brofiadau fel sylfaenydd a phrif weithredwr cwmni arobryn TYF Group wedi addysgu llawer iddo am systemau, newid ac arweinyddiaeth, i roi i gynrychiolwyr a chynulleidfaoedd gymysgedd nerthol o gyfeirbwyntiau a chwestiynau sy'n ysgogi dysgu a mewnwelediad ar lefel ddofn. Mae ei gleientiaid diweddar yng Nghymru'n cynnwys LlCC, CCGC, cwmnïau SA Brain, Sony a 3M, a llywodraeth leol. Mae Andy yn byw yn Nhyddewi, Sir Benfro, lle mae'n adeiladu tŷ ecolegol dim carbon ar yr arfordir gyda'i deulu anturus.

Matthew Quinn, Cyfarwyddwr dros dro adran newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Daeth Matthew i Gymru yn 1998 i sefydlu Uned Polisi cyntaf Llywodraeth y Cynulliad. Wedi hynny arweiniodd ar lunio'r agenda strategol, Cymru: Gwlad Well; y Cynllun Datblygu Cynaliadwy a Chynllun Gofodol Cymru, ac ailwampio'r prosesau corfforaethol ar gyfer llunio polisïau. Ym mis Mehefin 2006 symudodd i swydd pennaeth isadran yr Amgylchedd - Diogelu ac Ansawdd.
English


Betsan Powys © WWF Cymru/Ian Homer
Cadeirydd - Betsan Powys


Morgan Parry © WWF Cymru/Ian Homer
Morgan Parry - Pennaeth WWF Cymru


Joe Ravetz © WWF Cymru/Ian Homer
Joe Revetz - Cydgyfarwyddwr Canolfan Ecoleg Drefol Prifysgol Manceinion ac awdur yr adroddiad


Cyflwyniadau Joe Ravetz a Dyfrig James



Dyfrig James © WWF Cymru/Ian Homer
Dyfrig James - Llywydd Rhanbarthol Gogledd a Chanolbarth Ewrop, Lafarge


Cyflwyniadau Joe Revetz a Dyfrig James



Jane Davidson © WWF Cymru/Ian Homer
Jane Davidson - Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Llywodraeth Cynulliad Cymru


Araith y Gweinidog



Mark North © WWF Cymru/Ian Homer
Mark North - Pennaeth Cynaliadwyedd a Materion Cyhoeddus, Lafarge


Andy Middleton © WWF Cymru/Ian Homer
Andy Middleton - Prif Weithredwr, TYF Group. Cyfarwyddwr, Pembroke


Matthew Quinn © WWF Cymru/Ian Homer
Matthew Quinn - Cyfarwyddwr dros dro adran newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai