WWF-UK: Rhaid i ASau Cymru wrando ar alwad gwyddonwyr am weithredu ar yr hinsawdd
Access key details
This site uses the UK government standard access keys, as shown below:
S - Skip navigation1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details
Section navigation
WWF Cymru
How you can help
Rhaid i ASau Cymru wrando ar alwad gwyddonwyr am weithredu ar yr hinsawdd
22 Tachwedd 2007
Rhaid i ASau Cymru fynd i'r afael â'r angen taer i ddelio â newid yn yr hinsawdd a chryfhau'r Mesur Newid yn yr Hinsawdd, medd Atal Anrhefn Hinsawdd Cymru (SCCC).
Cyhoeddwyd adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yr wythnos diwethaf, cyn Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd yn Bali ymhen pythefnos. Mae'r adroddiad yn atgoffa arweinwyr gwleidyddol am yr angen taer i fynd i'r afael â lleihau gollyngiadau carbon deuocsid. Yng ngoleuni'r dystiolaeth wyddonol hon mae SCCC yn galw ar ei chefnogwyr i lobïo ASau Cymru i gryfhau'r Mesur Newid yn yr Hinsawdd ac osgoi anhrefn hinsawdd.
Yr wythnos nesaf, bydd cynghrair SCCC yn anfon pecynnau at ei chefnogwyr yng Nghymru, yn galw arnynt i lobïo eu Haelodau Seneddol i gryfhau'r Mesur cyn yr ail ddarlleniad tyngedfennol a ddisgwylir cyn y Nadolig.
Y Mesur Hinsawdd, os caiff ei droi'n ddeddf, fydd y fframwaith cyfreithiol cyntaf yn y byd ar gyfer gollyngiadau carbon deuocsid. Mae'n cynnig cyfle sylweddol i rwymo'r DU yn gyfreithiol i gwtogi ar ei gollyngiadau – ond dim ond os yw'n ddigon llym.
Dywedodd Steve Brooks, Pennaeth Oxfam Cymru a Chadeirydd SCCC: "Mae gan y DU gyfle unigryw i gyflwyno'r Mesur Newid yn yr Hinsawdd cyntaf erioed yn y byd, ond mae'n hanfodol i ASau Cymru wneud y Mesur mor gryf ag sy'n bosibl.
"Rydyn ni angen i ASau ymrwymo i leihau carbon deuocsid 80% erbyn 2050. Nid yw'r cynnig presennol i'w gwtogi dim ond 60% yn ddigon."
"Eleni gwelsom effeithiau tywydd eithafol yn taro gartref yn ogystal â thramor. Mae llifogydd yn India, Bangladesh, Pacistan a Nepal wedi distrywio bywydau dros 40 o filiynau o bobl. Yn y DU, mae cwmnïau yswiriant yn amcangyfrif mai £3 biliwn yw cost y llifogydd. Mae gwyddonwyr yn rhagweld y bydd newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd y patrymau tywydd hyn yn gwaethygu ac yn digwydd yn amlach. Rhaid i'r Mesur Newid yn yr Hinsawdd osod y targed iawn o ran lleihau, neu ni fydd y ddeddf yn gwneud ei gwaith."
"Gollyngiadau o awyrennau yw'r ffynhonnell gollyngiadau CO2 sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Gallai effeithiolrwydd y Mesur Newid yn yr Hinsawdd gael ei danseilio pe na chaent eu cynnwys. Gallai gollyngiadau o awyrennau fod yn gyfrifol am unrhyw beth rhwng 50% a 100% o gyllideb carbon y DU erbyn 2050."
Mesur Newid yn yr Hinsawdd
Mae'r Mesur Newid yn yr Hinsawdd i fod i ddod gerbron Tŷ'r Cyffredin i gael ei Ail Ddarlleniad cyn y Nadolig. Mae SCCC yn rhan o Stop Climate Chaos UK. Mae wrth ei bodd bod y Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth ar yr hinsawdd, ond dywed bod yn rhaid iddi fod yn llawer cryfach er mwyn bod yn effeithiol. Yn dyngedfennol, rhaid i'r ddeddf newydd gydnabod y trothwy cynhesu byd-eang 2oC trwy:
Mae'r gynghrair yng Nghymru yn dwyn ynghyd 14 o gyrff anllywodraethol o sectorau'r amgylchedd a datblygiad, ynghyd â chyrff ffydd a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Merched yng Nghymru.

- Codi'r targed ar gyfer lleihau gollyngiadau carbon o 60 i 80 y cant o leiaf erbyn 2050.
- Sicrhau bod cyfran y DU o ollyngiadau o gludiant rhyngwladol ar awyrennau a llongau yn cael ei chynnwys yn y targedau lleihau.
- Gosod cyllidebau carbon rhwymedigol gyda cherrig milltir blynyddol, er mwyn sicrhau nad yw'r broses o leihau gollyngiadau'n arafu.
Mae'r gynghrair yng Nghymru yn dwyn ynghyd 14 o gyrff anllywodraethol o sectorau'r amgylchedd a datblygiad, ynghyd â chyrff ffydd a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Merched yng Nghymru.
English

Mae WWF Cymru yn aelod o gynghrair Atal Anrhefn Hinsawdd yng Nghymru
Gwybodaeth ychwanegol ar sut allwch chi helpu