WWF-UK: WWF Cymru yn ymateb i'r Trywydd Ynni

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


WWF Cymru yn ymateb i'r Trywydd Ynni

19 Chwefror 2008
Ymateb gan Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru, i Drywydd Ynni Adnewyddadwy Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru, a lansiwyd heddiw (dydd Mawrth) -
Dywedodd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru: "Mae WWF Cymru yn croesawu'r uchelgais y tu ôl i'r adroddiad ac yn tynnu sylw at gyfrifoldeb newydd LlCC i arwain trwy esiampl a'r angen am ymrwymiad i leihau gollyngiadau carbon 80% NID 60% erbyn 2050. Mae WWF yn ystyried y trywydd hwn yn gam i'r cyfeiriad iawn er mwyn cyrraedd y targed hwn.

"Mae WWF Cymru yn frwd ei ganmoliaeth i gynnig LlCC nad oes angen i Forglawdd fod yn rhan o'r ateb, a bod yna ddewisiadau technolegol sylweddol eraill i ateb y galw am drydan o ffynonellau adnewyddadwy heb droi at ddifrodi cynefinoedd sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.

"Mae WWF Cymru wedi cael ei galonogi gan ymrwymiad LlCC i ynni gwynt ar y tir ac ar y môr. Nid yw'r DU wedi sylweddoli potensial y ffynhonnell hon hyd yn hyn. Gan y DU mae'r adnodd gwynt mwyaf yn Ewrop, ond nid yw wedi'i ddefnyddio llawer o'i chymharu â gwledydd eraill sydd ag adnoddau llai. O'r dechrau i'r diwedd, ychydig o fisoedd mae'n cymryd i fferm wynt gael ei chodi ac iddi ddechrau cynhyrchu trydan.

"Mae LlCC wedi cydnabod hefyd y gall technoleg llif y llanw gynhyrchu 5% o'r trydan y mae galw amdano; mae hyn gymaint ag y byddai morglawdd yn ei gynhyrchu, ond gydag effaith lai o lawer ar yr amgylchedd. Mae'r dechnoleg hon yn atgoffa rhywun o dyrbinau tanddwr ac mae eu symud ymaith yr un mor hawdd â'u gosod, pe bai problem yn codi. Yn hyn o beth maent yn ymateb gwahanol iawn i effaith barhaol adeiladu argaeau concrid mawr megis morgloddiau llanwol."

Bu'r Athro Simon Haslett, Pennaeth Daearyddiaeth yr Ysgol Gwyddoniaeth a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Bath Spa, yn rhannu ei brofiadau gyda gwyddonwyr o Ganada mewn cynhadledd a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Nova Scotia lle mae prosiect morglawdd peilot i harneisio pŵer y llanw wedi achosi braw ymysg gwyddonwyr. Mae'n rhybuddio bod yn rhaid i Brydain beidio â gwneud yr un camgymeriadau.

Aeth Morgan Parry ymlaen: "Os yw pobl Canada'n iawn, ni ddylem wastraffu unrhyw amser a miliynau o bunnoedd o arian y trethdalwyr yn ystyried morglawdd. Dylem efallai symud yn syth at asesu dulliau eraill o gynhyrchu trydan o'r llanw."

Mae'r Athro Haslett yn dweud bod yn rhaid i Brydain gymryd sylw, gan fod Canada wedi bod yn arbrofi gyda chynhyrchu pŵer o'r llanw ym Mae Fundy ers blynyddoedd lawer, ac wedi adeiladu argae ar draws un o'i isafonydd mor hir yn ôl ag 1984. Mae'r canlyniadau wedi'u hargyhoeddi bod adeiladu morglawdd yn aneffeithlon, ei fod yn cael llawer o effeithiau annymunol ar yr amgylchedd, a'i fod yn hyll.

Dadleuodd fod angen i'r DU ddysgu o brofiad Canada a pheidio â gwneud yr un camgymeriadau. I bobl Canada mae syniad morglawdd yn hen hanes bellach, ac nid yw'n cael ei godi hyd yn oed wrth drafod pŵer y llanw. Maent yn ei ystyried yn hen ffasiwn iawn, ac yn rhyfeddu bod y DU yn ei ystyried hyd yn oed. Heddiw nid yw Canada'n defnyddio ond tyrbinau sy'n cael eu gosod yn llif y llanw, fel bod trydan yn cael ei gynhyrchu gan y llanw a'r trai.
English


Electricity pilon © WWF-Canon/A Vorauer
Wind turbine © WWF-UK
Severn Estuary © Richard Wilson/WWF-UK