WWF-UK: WWF Cymru yn croesawu'r Mesur Morol Drafft
Access key details
This site uses the UK government standard access keys, as shown below:
S - Skip navigation1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details
Section navigation
WWF Cymru
How you can help
WWF Cymru yn croesawu'r Mesur Morol Drafft
8 Ebrill 2008
Mae'r Mesur Morol Drafft a gyhoeddwyd heddiw gan y Llywodraeth yn cynnwys mesurau calonogol i amddiffyn ein hamgylchedd morol, ond ni fydd gwbl effeithiol oni chaiff ei weithredu ledled y DU, medd WWF Cymru.
Medd Dr Lyndsey Dodds, swyddog polisi morol WWF Cymru: "Nodir llawer o gamau cadarnhaol ymlaen yn y Mesur Morol drafft heddiw. Fodd bynnag, mae WWF Cymru'n pryderu nad yw'n glir o hyd sut y caiff y ddeddfwriaeth hon ei gweithredu yng Nghymru. Heb ddeddfwriaeth effeithiol ledled ein holl foroedd, bydd llawer o rywogaethau a chynefinoedd mewn perygl o hyd. Mae angen i'n hamgylchedd morol gael ei reoli fel uned ecolegol yn hytrach na chael ei rannu gan ffiniau gwleidyddol".

"Er mwyn sicrhau amddiffyniad cadarn i foroedd y DU mae'n hanfodol i Fesur Morol gael ei basio yn San Steffan ac yn yr Alban, gyda deddfwriaeth ddatganoledig briodol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Mae WWF Cymru yn pwyso ar weinyddiaethau'r pedair gwlad i gydweithio i sicrhau y darperir y ddeddfwriaeth hon, a'r modd i'w gweithredu, yn fuan."
Mae WWF Cymru'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i rwydwaith o barthau cadwraeth forol ac offer i greu Gwarchodfeydd Morol Tra Gwarchodedig ac mae eisiau gweld y darpariaethau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn nyfroedd Cymru.
Dywed Lyndsey Dodds: "Mae rhyw 30% o foroedd Cymru wedi'u cynnwys mewn ardaloedd gwarchodedig ar hyn o bryd, ond yn anffodus nid yw hyn yn atal prinhad ein bywyd gwyllt. Mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd sy'n cael eu hamddiffyn ar hyn o bryd wedi'u dynodi trwy ddeddfwriaeth Ewropeaidd, nad yw'n ystyried y cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n bwysig i ni'n genedlaethol. Mae WWF Cymru eisiau i'r Mesur Morol wella'r ffordd y caiff yr ardaloedd hyn yng Nghymru eu hamddiffyn a'u rheoli ac mae'n gobeithio y caiff y darpariaethau ar gyfer parthau cadwraeth morol eu gweithredu yma."
Mae'r mesurau calonogol eraill a nodir yn y Mesur Morol drafft yn cynnwys system cynllunio morol newydd ar draws y DU i reoli ein gweithgareddau ar y môr. Mae WWF yn awr yn pwyso am amserlen ar gyfer gweithredu'r system cynllunio hon, a mwy o fanylion ynglŷn â sut y bydd yn gweithio ar draws ffiniau ym moroedd y DU.Mae cyflwyno Sefydliad Rheoli Morol (MMO) newydd yn hanfodol, ond mae WWF Cymru eisiau gweld sut fydd hyn yn cysylltu â'r trefniadau yng Nghymru.
Medd Lyndsey Dodds: "Rhaid i MMO y DU ddarparu dull cydgysylltiedig o lywodraethu moroedd y DU a bydd angen iddo gydweithio'n agos ˆ chyrff eraill a fydd yn cyflawni swyddogaethau rheoli datganoledig. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghymru'n darparu rheoleiddio clir, tryloyw ac atebol ar weithgareddau ym moroedd Cymru trwy un corff llywodraethu, wedi'i gydgysylltu'n agos ag MMO y DU".
Yn olaf, mae WWF Cymru'n croesawu'r cynigion am ffordd symlach o drwyddedu datblygiadau morol ym Mesur Morol drafft y DU ac mae'n gobeithio y caiff system debyg ei gweithredu yng Nghymru. Mae system trwyddedu morol integredig newydd yn hanfodol i ddiwygio diffygion y rheolaeth forol bresennol, symleiddio rheoleiddio, a sicrhau amddiffyniad i'r amgylchedd morol.
Dywed Lyndsey Dodds: "Mae ar ddatblygwyr angen sicrwydd y gallant ddatblygu trwy system trwyddedu effeithlon ac mae ar gadwraethwyr angen sicrwydd y caiff cynefinoedd eu diogelu wrth i ddatblygiadau o'r fath fynd ymlaen. Ni ellir cyflawni hyn ond gyda system cynllunio strategol, flaengar sy'n ystyried yr holl weithgareddau morol yn ogystal â'u heffeithiau cyfun ar yr amgylchedd."
Mae WWF Cymru yn awr yn pwyso ar Lywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio i sicrhau y caiff Mesur Morol llawn ei gynnwys yn Araith y Frenhines ym mis Tachwedd.

English

Petisiwn am Ddeddf Morol yn cael ei drosgwlyddo i rif 10 stryd Downing gan blant ysgol.

Habour Porpoise yn sownd ar draeth ar ôl cael ei ddal a boddi mewn rhwyd bysgota.