WWF-UK: Trigolion dinasoedd Cymru'n mynd i ddyled ecolegol
Access key details
This site uses the UK government standard access keys, as shown below:
S - Skip navigation1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details
Section navigation
WWF Cymru
How you can help
Trigolion dinasoedd Cymru'n mynd i ddyled ecolegol
5 Mai 2008
Bydd trigolion dinasoedd Cymru'n mynd i ddyled ecolegol dros yr wythnos nesaf, gan eu bod eisoes wedi cymryd mwy na'u cyfran deg o adnoddau naturiol y Ddaear ar gyfer 2008, mae ymchwil newydd gan WWF wedi dangos.
Trigolion Bangor a Thyddewi yw'r cyntaf i orddefnyddio eu cerdyn credyd ecolegol ar 4 Mai, wedyn trigolion Caerdydd ar 6 Mai, trigolion Abertawe ar 8 May ac yn olaf trigolion Casnewydd ar 11 Mai; bydd pob un wedi defnyddio gwerth blwyddyn o adnoddau mewn ychydig dros bedwar mis!

Mae ein ffyrdd o fyw presennol yn y DU yn disbyddu adnoddau naturiol y ddaear yn gyflymach nag y gall eu hadnewyddu ac yn achosi newidiadau cyflym yn y byd gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, datgoedwigo a phrinhau llawer o rywogaethau bron hyd at ddifodiant. Pe bai pawb yn defnyddio adnoddau naturiol ac yn cynhyrchu allyriannau carbon ar yr un gyfradd â ni yng Nghymru, byddai arnom ni angen tair planed i'n cynnal.
Dywedodd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru: "Bydd y frwydr dros yr amgylchedd yn cael ei hennill neu ei cholli yn ein dinasoedd. Ganddyn nhw mae'r potensial mwyaf i fyw'n ecolegol oherwydd cyfleusterau lleol, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, dwysedd tai ac adnoddau cyhoeddus a rennir. Yr ateb, yn rhannol, yw mynd i'r afael â'r ffordd yr ydym wedi defnyddio ynni'n ddiofal hyd yn hyn."
Aeth Morgan Parry ymlaen: "Mae heddiw'n tynnu sylw at yr angen i ni i gyd ddefnyddio llai ar adnoddau, er mwyn osgoi effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd. Mae WWF Cymru yn galw ar unigolion i wneud dewisiadau amgylcheddol cyfrifol ac ar yr awdurdodau sydd newydd gael eu hethol ledled Cymru ac ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gael eu hysbrydoli i wella'r nwyddau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i hybu ffordd o fyw un blaned er mwyn helpu eu trigolion i fyw'n gynaliadwy."
Mae'r data'n dod o adroddiad gan WWF-UK, Ecological Footprint of British City Residents, a gyfrifodd ôl troed ecolegol cyfartalog trigolion dinasoedd. Mae ôl troed ecolegol unigolyn yn ymwneud â'r arwynebedd tir a môr y mae ei angen i ddarparu bwyd, adnoddau ac ynni, yn ogystal ag amsugno gwastraff a llygredd. Y prif ffactorau sy'n effeithio ar hyn yw tai, bwyd, nwyddau traul, gwasanaethau cyhoeddus a phreifat a thrafnidiaeth.
Mae WWF yn argymell camau y gall unigolion eu cymryd i leihau eu hôl troed. Maent yn cynnwys: cyfrifo'ch ôl troed ecolegol ar wwf.org.uk/calculator a llunio cynllun i'w leihau, mynd ar wyliau'n nes at adref a cheisio defnyddio llai o ynni yn eich cartref ac arbed arian ar eich biliau ar yr un pryd.