Skip to main content

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r senedd ddatganoledig i Gymru. Ceir ynddo 60 o Aelodau Cynulliad (ACau) sy’n cael eu hethol i gynrychioli naill ai etholaeth neu ranbarth yng Nghymru, ac mae’n cyfarfod yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.

Yn dilyn y refferendwm ar ddatganoli yn 2011, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol yr hyn a elwir cymhwysedd deddfwriaethol sylfaenol dros nifer o faterion. Mae hynny’n golygu bod ganddo’r pŵer i wneud cyfreithiau arnyn nhw. Maen nhw’n cynnwys yr amgylchedd, addysg, iechyd, trafnidiaeth a’r Gymraeg.

Mae’r penderfyniadau a wneir gan ACau yn effeithio ar fywydau pob dydd pobl Cymru, ac maen nhw hefyd yn cael effeithiau hirhoedlog. Dyna pam mae’n bwysig inni weithio’n adeiladol gydag ACau o bob plaid i wneud yn siŵr bod yr amgylchedd ar frig eu hagenda.

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae’n cael ei harwain gan Brif Weinidog Cymru, sef Carwyn Jones AC ar hyn o bryd, ac mae’n cynnwys nifer o Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion. Gyda’i gilydd, mae ganddyn nhw gyfrifoldeb am ddatblygu eu meysydd polisi.

Rydym ni’n gweithio gyda nifer ohonyn nhw i geisio gwneud yn siŵr bod y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud a’r cyfreithiau maen nhw’n eu cyflwyno’n helpu i’n symud i gyfeiriad gwlad, a byd, lle mae pobl a natur yn ffynnu mewn cytgord.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut yr ydym ni’n gweithio gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, cysylltwch â Swyddog Polisi a Dadleuaeth WWF Cymru, Jessica McQuade, ar jmcquade@wwf.org.uk.