Skip to main content

Newid hinsawdd Cymru

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth osod targedau newydd ar gyfer lleihau allyriadau, ac rydym ni’n gweithio i gadw’r uchelgais yn uchel.

The cattle, at Nantclyd farm, in the field with a backdrop of the sea and Liz in the distance..

EIN GWAITH PRESENNOL AR DACLO'R ARGYFWNG HINSAWDD YNG NGHYMRU

Drwy newid sut rydym yn defnyddio ein tir, gall Cymru chwarae ein rhan i wrthdroi dirywiad natur a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae cefnogi ffermwyr i fabwysiadu arferion sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a natur yn hanfodol i sicrhau ein dyfodol a’n gallu i gynhyrchu bwyd.

Dyna pam rydyn ni'n galw am Wlad Ein Dyfodol lle mae pobl a natur yn ffynnu.

School of lesser sand eels (Ammodytes tobianus) swimming over an eelgrass (Zostera marina) seagrass meadow in shallow water. Swanage, Dorset, UK

Mae morwellt yn amsugno carbon ac yn ei storio, ac mae’n cynnig cartref hollbwysig i natur. Gall dolydd iach hefyd helpu i amddiffyn cymunedau rhag effeithiau erydu arfordirol a llifogydd. Fodd bynnag, rydyn ni wedi colli hyd at 92% o ddolydd morwellt y DU. 

Mae WWF Cymru’n gweithio gyda Project Seagrass i adfer dolydd morwellt yng ngogledd Cymru, ac i alw am adfer morwellt ar raddfa fawr ledled Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan Argyfwng Hindawdd. 

Rydym ni angen arweiniad pendant gan y Llywodraeth i gwtogi ar yr allyriadau niweidiol sy’n achosi newid hinsawdd. Bydd hynny’n helpu i wneud ein heconomi’n gynaliadwy a chreu swyddi da i’n cymunedau, yn darparu cartrefi ar gyfer y dyfodol, ac yn helpu i warchod natur Cymru. Bydd yn gwneud ein gwlad yn addas i genedlaethau’r dyfodol.

Mewn gwirionedd, mae dadansoddiad o’r ffordd mae allyriadau Cymru wedi cael eu cwtogi rhwng 1990 a 2014 yn dangos bod angen i Lywodraeth Cymru, er mwyn cyrraedd targed 2020, weithredu yn awr i sicrhau ein bod yn defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy, a chyfyngu ar yr allyriadau o drafnidiaeth, amaethyddiaeth, diwydiant a busnesau.

Page last reviewed