WWF-UK: Croeso i Seiren Cymru - y cylchlythyr cyntaf erioed oddi wrth WWF Cymru!
Access key details
This site uses the UK government standard access keys, as shown below:
S - Skip navigation1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details
Section navigation
Croeso i Seiren Cymru - y cylchlythyr cyntaf erioed oddi wrth WWF Cymru!
Cyflwyniad
Corff anhygoel yw WWF, gyda bron pum miliwn o gefnogwyr o gwmpas y byd, 15,000 ohonynt yng Nghymru. Ni yw'r sefydliad cadwraethol annibynnol mwyaf ei faint a mwyaf profiadol yn y byd. Rydym yn rhwydwaith byd-eang go iawn gyda swyddfeydd mewn 90 o wledydd o gwmpas y byd a phrosiectau mewn 40 o wledydd eraill.
Yng Nghymru mae gennym hefyd dîm bach o staff ymroddedig iawn, sy'n ymgyrchu dros amddiffyn yr amgylchedd ac yn cynnig atebion cymdeithasol ac economaidd i rai o broblemau mwyaf dybryd y dydd megis newid yn yr hinsawdd.
Yr haf hwn buom yn cymryd rhan mewn gŵyl fawr o gwmpas aber afon Hafren, a oedd yn clodfori rhyfeddodau naturiol ein hafon fwyaf ond hefyd yn rhybuddio ynghylch y bygythion iddi.
Rydym hefyd yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y ffordd orau i amddiffyn a rheoli ein hamgylchedd morol, wrth i ddeddfwriaeth newydd ar ffurf Deddf Forol gael ei chyflwyno. Bu WWF yn rhannol gyfrifol am ddarbwyllo Llywodraeth y DU fod angen deddfau newydd.
Mae WWF hefyd yn cydweithio'n agos â phartneriaid: rydym yn Sioe Frenhinol Cymru gyda Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe gyda chynghrair Atal Anhrefn Hinsawdd, i adeiladu cefnogaeth gyhoeddus i weithredu ar newid yn yr hinsawdd.
Gobeithiwn glywed gennych yn un o ddigwyddiadau'r haf.
I gael gwybod rhagor am ein gwaith, a sut i gysylltu â ni, ewch i www.wwf.org.uk/cymru

Morgan Parry
Pennaeth WWF Cymru