WWF-UK: Croeso i Seiren Cymru!

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Croeso i Seiren Cymru!

Cyflwyniad
Mae'n bosibl bod rhai ohonoch wedi'n gweld ni dros yr haf mewn gwahanol ddigwyddiadau ledled Cymru. Buom yng Ngŵyl Bysgod Sir Benfro, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug. Yn y rhain buom yn lansio ac yn hybu cyfrifiannell ôl troed ein hymgyrch Byw ar Un Blaned, sy'n mesur effaith unigolyn ar y blaned.
Mae'r prawf ecolegol ar-lein newydd hwn – y gellir ei weld ar wwf.org.uk/calculator – yn gofyn cwestiynau syml am eich ffordd o fyw, megis pa mor aml ydych chi'n teithio dramor, sut ydych chi'n gwresogi'ch cartref a ble'r ydych chi'n prynu'ch bwyd. Wedyn mae'n cyfrifo sawl planed mae eu hangen ar gyfer eich ffordd o fyw. Yn fwy na hynny, ar ddiwedd yr holiadur mae WWF yn awgrymu ffyrdd hawdd ac ymarferol y gallwch leihau'ch effaith ar y blaned.

Ôl troed ecolegol cyfartalog person yng Nghymru yw 5.6 hectar byd-eang – maint chwe maes rygbi, yn fras. Pe bai pawb yn y byd yn cael yr effaith hon, byddai arnom ni angen 3.2 planed – ond mae hyn llawer yn fwy na chyfartaledd y byd.

Mae newid yn yr hinsawdd yn un o symptomau'r ffordd yr ydym yn gorddefnyddio adnoddau naturiol y blaned ar hyn o bryd, ond gallwn ni i gyd wneud ein rhan i arbed adnoddau a brwydro yn erbyn cynhesu byd-eang.

Os ydym ni i gyd yn defnyddio pethau mewn ffordd gallach, yn arbed ynni ac yn cwtogi ar ein gwastraff, gallwn gynhyrchu llai o garbon deuocsid a throedio'n ysgafnach ar y Ddaear.

Darllenwch ragor i gael gwybod pa bobl enwog sydd wedi cefnogi'n hymgyrch ac i weld beth fuom ni'n ei wneud mewn meysydd eraill o'n gwaith ymgyrchu.



Morgan Parry
Pennaeth WWF Cymru
English


Morgan Parry © WWF Cymru
Morgan Parry - Pennaeth WWF Cymru