WWF-UK: Croeso i rifyn arbennig o Seiren sy'n seiliedig ar yr etholiad!

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Croeso i rifyn arbennig o Seiren sy'n seiliedig ar yr etholiad!

Cyflwyniad
Fel rydych siŵr o fod wedi sylwi mae yna etholiad rownd y gornel ar Fai 3ydd ac mae WWF Cymru wedi bod yn brysur yn holi arweinwyr y partïon a gweinidogion y Cynulliad ar eu polisïau amgylcheddol. Gofynnom cwestiynau allweddol iddynt ynglŷn â'i ymrwymiad i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, â amddiffyn ein moroedd ac arfordir Cymru ac a'r fwy yn gynnaladwy.
Mae'r ffeithiau i roi yr amgylchedd fel mater allweddol yn yr etholiad hyn ochr yn ochr gyda testunau mwy traddodiadol fel addysg a iechyd, erioed wedi bod mor bwysig.

Y llynedd lansiodd WWF ei chweched Adroddiad Planed Fyw. Yn y cyfryngau yng Nghymru a ledled y byd cyhoeddwyd neges yr adroddiad ein bod ni'n mynd ymhell y tu hwnt i allu'r Ddaear i'n cynnal. Gyda phoblogaeth y byd yn chwe biliwn mae angen cynyddol i ni ystyried canfyddiadau'r adroddiad. Canfu fod poblogaethau bywyd gwyllt o gwmpas y byd yn prinhau wrth i'n hôl troed ecolegol – ein heffaith ar y byd – dyfu ar gyfradd aruthrol. Mewn rhai mannau mae rhywogaethau wedi prinhau gymaint â 30 y cant ac yn yr un cyfnod mae ôl troed y ddynoliaeth wedi cynyddu gymaint â 90 y cant mewn meysydd fel carbon deuocsid.

Yng Nghymru canfu ein hymchwil i'n hôl troed bod angen arwynebedd tir cyfwerth â chwe maes rygbi ar bob person yng Nghymru i gynnal ein ffordd o fyw, neu mewn geiriau eraill os fyddai pawb yn y byd yn byw fel ni yng Nghymru byddai angen arnom tair planed i gynnal ein ffordd o fyw, ac os fyddai pawb yn byw fel Americanwr cyfartalog fyddai angen arnom wyth planed, ond dim ond hanner planed mai pobl yn Bangladesh yn
eu ddefnyddio. Nid mater amgylcheddol yn unig yw hwn, ond mater moesegol y mae angen mynd i'r afael ag ef.

Mae WWF yn teimlo'n angerddol am ddechrau newid ein ffordd o fyw i ffordd o Fyw Un Blaned. Dyma sy'n ysgogi ein holl waith, o amddiffyn cynefinoedd orang wtaniaid yn Borneo i leihau gollyngiadau carbon o'n cartrefi. Mae ein ffyrdd o fyw yng Nghymru'n cael effaith leol a byd-eang y gellir ei lleihau trwy ffordd o Fyw Un Blaned. Un gynulleidfa allweddol a all ein helpu i sicrhau Cymru Un Blaned yw Llywodraeth Cynulliad Cymru a phob un o 60 Aelod y Cynulliad. Gydag etholiad Cynulliad Cymru wrth law, mae WWF wedi cyfweld â'r pedair prif blaid yng Nghymru i'w holi am eu hymrwymiadau i'r amgylchedd.

Rydym yn gobeithio y byddwch chi'n ystyried yr hyn mae pob arweinydd yn ei ddweud ac y byddwch chi'n mynd i bleidleisio ar 3ydd Mai. Cofiwch gallwch chi helpu i ethol arweinwyr sy'n rhoi'r amgylchedd wrth wraidd eu polisïau.



Morgan Parry
Pennaeth WWF Cymru
English


Morgan Parry - Pennaeth WWF Cymru