WWF-UK: Adroddiad ôl troed dinasoedd

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Adroddiad ôl troed dinasoedd



Preswylwyr dinasoedd Cymru'n wyrddach, yn ôl rhestr newydd
Efallai nad yw rygbi'n un o gryfderau Cymru ar hyn o bryd ond ym maes yr amgylchedd mae dinasoedd Cymru'n cyrraedd y brig.


Ym mis Hydref 2007, dangosodd ymchwil gan WWF i bob dinas yn y DU fod preswylwyr dinasoedd Cymru'n wyrddach ar gyfartaledd na rhai Lloegr a'r Alban.

Casnewydd oedd ar frig rhestr werdd WWF, a ddadansoddodd yr adnoddau a ddefnyddir gan breswylwyr pob un o'r 60 o ddinasoedd yn y DU gan ddefnyddio'r Ôl Troed Ecolegol – offeryn sy'n mesur effaith unigolyn ar yr amgylchedd.

Cafodd pum dinas yng Nghymru eu cynnwys, sef Casnewydd, Abertawe, Caerdydd, Tyddewi a Bangor. Casnewydd oedd â'r ôl troed lleiaf a Bangor oedd â'r mwyaf. Roedd pob un o'r pump yn hanner uchaf y rhestr. Yn Lloegr, Plymouth oedd â'r ôl troed lleiaf a Chaer-wynt oedd â'r mwyaf. Glasgow oedd â'r ôl troed lleiaf yn yr Alban, a Chaeredin oedd â'r mwyaf.

Er bod hyn yn newyddion da i ddinasoedd Cymru, at ei gilydd dangosodd yr adroddiad fod preswylwyr dinasoedd yn y DU - gan gynnwys Casnewydd – i gyd yn defnyddio mwy na'u cyfran deg o adnoddau naturiol. A dweud y gwir, pe bai pawb yn y byd yn defnyddio adnoddau fel y mae preswylydd cyfartalog dinasoedd yn y DU, byddai arnom angen tair planed i'n cynnal.