WWF-UK: Croeso i Cymru Seiren

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Croeso i Cymru Seiren

Mae pob blwyddyn newydd yn dod â gobeithion ac addunedau, ond mae 2008 yn flwyddyn arbennig o bwysig i'r Ddaear. Y llynedd parhaodd pryder byd-eang am newid yn yr hinsawdd i dyfu ac, mewn cynhadledd yn Bali, addawodd llywodraethau weithio'n galetach i osgoi trychineb. Nod WWF yw sicrhau bod y pryder hwn yn cael ei drosi'n weithredu radical erbyn diwedd 2008, i helpu i osgoi dyfodol du iawn.
Diolch i waith arloesol WWF ar olion traed ecolegol yn 2002, Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) oedd y gyntaf i dderbyn bod gan yr argyfwng byd-eang achosion lleol, ac y gall pob un ohonom yng Nghymru wneud gwahaniaeth. Bellach mae pawb yn sôn am olion traed! Bydd LlCC yn adolygu ei blaenoriaethau o ran datblygu cynaliadwy yn 2008, a bydd yn cael arweiniad gan ei Chomisiwn Newid Hinsawdd newydd. Gyda'n hymgyrch Cymru Un Blaned, bydd WWF Cymru yn dylanwadu ar y prosesau ffurfiol hyn ac yn helpu unigolion i leihau eu holion traed eu hunain.

Yn 2007, cytunodd rhwydwaith byd-eang WWF ar ddau brif nod: lleihau ôl troed y ddynoliaeth, a sicrhau cadwraeth ein cynefinoedd naturiol gorau. Yng Nghymru, bydd WWF yn sicrhau nad yw ein lleoedd gwyllt (yn enwedig yn yr amgylchedd morol) yn cael eu peryglu gan dwf economaidd a datblygu annoeth. Byddwn yn parhau i bwyso am i Fesur Morol cynhwysfawr gael ei roi ar waith yng Nghymru.



Morgan Parry
Pennaeth WWF Cymru

Morgan Parry Pennaeth WWF Cymru