WWF-UK: Newyddion o'r Cynulliad

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Newyddion o'r Cynulliad

Ychydig cyn y Nadolig cyfarfu Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd am y tro cyntaf i ddechrau'r broses o leihau gollyngiadau carbon yng Nghymru.
Roedd cyflwyno'r Comisiwn ar Newid yn yr Hinsawdd yn un o'r amcanion a nodwyd yn rhaglen bolisi Cymru'n Un. Grÿp ymgynghorol i Lywodraeth Cynulliad Cymru yw'r Comisiwn a bydd yn rhoi adroddiadau i'r Cabinet trwy'r Gweinidog, Jane Davidson. Felly gellir ei ystyried yn gorff sy'n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bwriedir i'r Comisiwn roi arweiniad a chefnogi camau gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Bydd yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar leihau gollyngiadau carbon 3% y flwyddyn a hynny bob blwyddyn yn y meysydd lle mae'r pwerau wedi'u datganoli yn ei chylch gwaith . Bydd yna bedwar gweithgor ac mae gan WWF sedd ar bob un o'r pedwar. Bydd yn lobïo'n galed i sicrhau y bydd y lleihad cyflym mewn gollyngiadau y mae ei angen yn effeithiol ac yn cael ei gyflawni yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy – 'datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain'.

Heddiw mae rhai o wyddonwyr amlycaf Prydain ym meysydd yr hinsawdd a'r amgylchedd wedi ychwanegu eu lleisiau at y galw cynyddol am gwtogiadau ar ollyngiadau ar sail y wybodaeth wyddonol ddiweddaraf – sy'n golygu cwtogi o leiaf 80% erbyn 2050. Nid yw'n glir eto a fydd y targed o 3%, a osodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn debyg o sicrhau bod gollyngiadau carbon yn cael eu cwtogi 80% erbyn 2050. Mae hyn yn llai sicr byth o gofio bod dyddiad dechrau'r rhaglen leihau gollyngiadau mor hwyr â 2011. Mae LlCC i'w chanmol am ei huchelgais i osod targed, ond amcan y targed sy'n hollbwysig. Rhaid i'r byd sefydlogi crynodiadau atmosfferig gollyngiadau carbon ar y lefel y mae ei hangen i atal y tymheredd byd-eang rhag codi mwy na 2 radd. Po hiraf mae Llywodraethau'n aros cyn gweithredu, po fwyaf fydd y ganran y bydd angen i ni leihau ein gollyngiadau bob blwyddyn er mwyn atal hyn.

Rhown ni wybod i chi…..
© Camilla Horrox /WWF Cymru
Adeilad y Senedd, Bae Caerdydd