WWF-UK: Cymru Un Blaned

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Cymru Un Blaned

Yn ddiweddar lansiodd WWF Cymru ei ymgyrch Cymru Un Blaned mewn uwchgynhadledd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Un o brif negeseuon yr ymgyrch yw bod yn rhaid i ni leihau ôl troed Cymru 75% erbyn 2050 er mwyn byw o fewn ein cyfran deg o adnoddau'r blaned.

Er mwyn helpu i gyrraedd y nod hwn, comisiynodd WWF adroddiad Cymru Un Blaned: Gweddnewid Cymru ar gyfer dyfodol llewyrchus o fewn ein cyfran deg o adnoddau'r ddaear. Mae 'r adroddiad, gan Ganolfan Ecoleg Rhanbarth Dinas Prifysgol Manceinion, yn nodi atebion, yn ogystal â heriau, i Gynulliad Cymru a'r sectorau preifat a chyhoeddus, ar sut i weddnewid economi Cymru trwy ddefnyddio ynni ac adnoddau mewn modd llawer iawn mwy effeithlon.

Bu wyth deg o benderfynwyr mwyaf blaenllaw Cymru o'r sectorau cyhoeddus, academaidd, gwirfoddol a busnes yn bresennol yn yr uwchgynhadledd.

Anerchwyd yr uwchgynhadledd gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, ynghyd â Dyfrig Morgan James, Llywydd Rhanbarthol Gogledd a Chanolbarth Ewrop Lafarge; Matthew Anderson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu BSkyB a Mike Barry, Pennaeth Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, Marks & Spencer. Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru, a gadeiriodd y gynhadledd.

Gan ddefnyddio'r Ôl Troed Ecolegol, mae adroddiad Cymru Un Blaned yn cyfrifo, pe bai pawb yn y byd yn defnyddio adnoddau naturiol ac yn cynhyrchu carbon deuocsid ar yr un raddfa ag yr ydym ni yng Nghymru, byddai arnom angen tair planed i' n cynnal. Mae'n rhybuddio, os byddwn yn parhau â'r tueddiadau presennol a'r polisïau sy'n bodoli ar hyn o bryd bydd ôl troed Cymru'n cynyddu 30%, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn teithio mewn awyrennau a'r sector bwyd a diod.

Mae'r adroddiad yn nodi ffyrdd allweddol o greu Cymru Un Blaned trwy leihau ôl troed wyth sector allweddol, sef bwyd, adeiladau, trafnidiaeth, cynhyrchion, gwasanaethau, ynni, adnoddau a'n ffyrdd o fyw.

"Mae WWF Cymru yn credu bod yn rhaid i Gymru gynaliadwy fod yn Gymru Un Blaned," medd Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru. "Pe bai 'n cael ei fabwysiadu gan y llywodraeth a busnes, byddai'r adroddiad hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i sicrhau lle i Gymru fel arweinydd byd-eang ym maes datblygu cynaliadwy, yn ogystal â chynnig ansawdd bywyd da i'w dinasyddion."

"Nid yw'n gadael llawer o amheuaeth ynglÿn â'r angen i weithredu yn awr, a'r nifer fawr o heriau a chyfleoedd sy'n ein hwynebu o ran newid. Un peth sy' n glir o'r adroddiad: bydd angen gweithredu ar y cyd i gyflawni'r newidiadau y mae eu hangen i greu Cymru Un Blaned - gweithredu ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol, busnesau, cymunedau ac unigolion. Mae gennym ni i gyd ran hanfodol i'w chwarae."

Mae pob adran o'r adroddiad yn canolbwyntio ar argymhellion ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hirach – o heddiw hyd 2050. Maent yn cynnwys argymhellion polisi ymarferol:
Adeiladau Un Blaned: dyfodol ag adeiladau cynaliadwy rhad ar garbon, a gaiff eu codi trwy bartneriaethau gyda phreswylwyr, benthycwyr, landlordiaid a chwmnïau cyfleustodau er mwyn gweddnewid effeithlonrwydd ynni'r stoc sy'n bodoli eisoes. Er enghraifft, gallai gwella effeithlonrwydd ynni stoc tai Cymru arwain o bosibl at leihau ôl troed tai 30%.

Bwyd Un Blaned: newid i gadwyn gyflenwi fach ei heffaith trwy hybu materion amgylcheddol ymysg y cynhyrchwyr a diet iach ymysg y defnyddwyr. Er enghraifft, gosod safonau ar gyfer bwyd iach cynaliadwy yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion ac ysbytai, a sicrhau bod mwy o dir amaethyddol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu organig. Gallai'r mesurau hyn arwain at leihau ôl troed bwyd 30%.

Trafnidiaeth Un Blaned: dyfodol gyda thrafnidiaeth gyhoeddus fach ei heffaith ac o ansawdd da, yn ogystal â cheir sy 'n llawer iawn mwy effeithlon. Er enghraifft, gallai datblygu cynlluniau teithio gwyrdd cymunedol arwain at leihau ein hôl troed trafnidiaeth 30%.

Mae'r adroddiad yn dangos, er mwyn i'n hymgyrch lwyddo mae arnom angen arweiniad cryf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae'n rhaid i'r cyhoedd a busnesau chwarae rhan bwysig.

©WWF Cymru
Yn y llun yn Uwchgynhadledd Cymru Un Blaned o'r chwith i'r dde mae Joe Ravetz, Cydgyfarwyddwr Canolfan Ecoleg Drefol Prifysgol Manceinion; Andy Middleton, Prif Weithredwr, The TYF Group. Cyfarwyddwr, Pembroke Management Development; Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru; Mark North, Pennaeth Cynaliadwyedd a Materion Cyhoeddus, Lafarge a Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru, a gadeiriodd y digwyddiad.
©WWF Cymru
Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru, yn annerch yr Uwchgynhadledd.


©WWF Cymru
Jane Davidson, Gweinidog Cynulliad Cymru dros yr Amgylchedd, yn annerch yr Uwchgynhadledd.