WWF-UK: Troi'n wyrdd efo Merched y Wawr

Skip navigation

Access key details

This site uses the UK government standard access keys, as shown below:

S - Skip navigation
1 - Home page
2 - What's new
3 - Site map
4 - Search
5 - Frequently Asked Questions (FAQ)
9 - Feedback form
0 - Access key details




Section navigation


Troi'n wyrdd efo Merched y Wawr

O feicio yn y glaw i finiau compost drewllyd – ddywedodd neb y byddai mynd yn wyrdd yn gwbl ddi-broblem. Ond dyna'r her y mae Sefydliad y Merched (SyM) yn annog pobl gyffredin i'w derbyn.
Mae mwy na 5,000 o bobl eisoes wedi ymuno â Her Carbon SyM. Mae dros 5% o'r rhai sydd wedi ymrestru o Gymru, ac maent i gyd wedi addo lleihau eu holion traed carbon 20%. Os bydd pob un yn cyrraedd ei darged, bydd rhyw 10,000 o dunelli 'n llai o CO2 – digon i lenwi tua 10,000 o falwnau aer poeth!

Gyda chymorth gan Marks & Spencer, mae' r Her yn defnyddio cyfrifiannell ôl troed carbon ar-lein, a gynlluniwyd gan WWF. Mae'r bobl sy'n cymryd rhan yn mewngofnodi ar wi.footprint.wwf.org.uk ac yn ateb nifer o gwestiynau am eu bywydau beunyddiol, er mwyn cael awgrymiadau wedi'u teilwra ar sut i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Mae pob math o bobl yn cymryd rhan yn yr Her Carbon, o famau prysur, pobl ifanc sy'n byw mewn dinas a phobl dros 50 oed, i bobl sydd eisoes yn ystyried yr amgylchedd.
©Brent Stirton/Getty Images/WWF UK
Pe bai 5,000 o bobl i gyd yn cyrraedd eu targedau am ollyngiadau CO2, byddai rhyw 10,000 o dunelli'n llai o CO2 – digon i lenwi 10,000 o falwnau aer poeth!


Ewch i'r gyfrifiannell ôl troed carbon ar-lein a gynlluniwyd gan WWF. Mewngofnodwch ar wi.footprint.wwf.org.uk.




3.