Skip to main content

Living Planet Report 2020 - Cymru

Adroddiad newydd yn datgelu cyflwr truenus natur: a phresgripsiwn i achub byd natur i bobl a’r blaned, gan gynnwys engrheifftiau o weithrediad yng Nghymru.

WWF yn anfon neges SOS dros natur wrth i wyddonwyr rybuddio bod byd natur yn mynd ar ei phen dros ddibyn 

  • Adroddiad newydd yn datgelu cyflwr truenus natur: a phresgripsiwn i achub byd natur i bobl a’r blaned 
  • Poblogaethau bywyd gwyllt byd-eang wedi lleihau 68% ers 1970
  • Syr David Attenborough yn galw am gydweithredu rhyngwladol i adfer byd natur 

Mae natur yn cael ei dinistrio gan bobl ar gyflymder na welwyd erioed o’r blaen

Rhybuddiwyd bod bywyd gwyllt byd-eang yn mynd ar ei ben dros ddibyn, wrth i’n dogfen Living Planet Report 2020 ddatgelu bod poblogaethau mamaliaid, adar, pysgod, amffibiaid ac ymlusgiaid wedi lleihau 68 y cant ar gyfartaledd yn fyd-eang ers 1970 – mwy na dau draean mewn llai na 50 o flynyddoedd.

Mae natur yn cael ei dinistrio gan bobl ar gyflymder na welwyd erioed o’r blaen, ac nid oes unrhyw arwydd bod y dirywiad enbyd hwn yn arafu, yn ôl yr astudiaeth. Mae amaethyddiaeth anghynaladwy, datgoedwigo a throi mannau gwyllt yn dir fferm ymysg prif achosion colli natur, ac mae gor-bysgota’n achosi llanastr i fywyd morol.

Mae’r dirywiad wedi digwydd hyd yn oed yn gynt nag a ddisgwylid yn 2018, a chaiff bywyd ar y Ddaear ei wthio at ymyl y dibyn oni fydd gweithredu ar frys yn fyd-eang. 

Mae'n bosib newid

Mae Living Planet Report eleni’n cynnwys ymchwil arwyddocaol newydd gan grŵp byd-eang o wyddonwyr sy’n cadarnhau am y tro cyntaf y camau a all roi terfyn ar y broses o golli bywyd gwyllt a’i gwrthdroi.

Dengys yr ymchwil nad oes modd inni wrthdroi’r sefyllfa ond os caiff ymdrechion cadwraethol uchelgeisiol i warchod bywyd gwyllt eu cyfuno gyda chamau brys i atal colli cynefinoedd a datgoedwigo – gan newid sut rydym yn rheoli tir a’r hyn yr ydym yn dewis ei fwyta; mynd i’r afael â gwastraff bwyd a bwyta dietau iachach; gweithio i adfer cynefinoedd a thirweddau sydd wedi’u difrodi; a buddsoddi mewn datrysiadau seiliedig ar natur a all gynnal bioamrywiaeth a chwarae rhan weithredol yn y gwaith o arafu newid hinsawdd.

Gwnewch Cymru'n fwy cynaliadwy, fwy cydnerth ac yn fwy cyfrifol yn fyd-eang

O gymryd y camau brys ac uchelgeisiol hyn ym maes cadwraeth ac yn y system bwyd ac amaethyddiaeth, efallai y bydd modd o hyd rhoi natur ar y llwybr i adferiad erbyn 2030.

Yng Nghymru, wrth inni nesáu at etholiad Senedd 2021, mae WWF Cymru eisiau i bleidiau gwleidyddol ymroi i adferiad gwyrdd, gwneud natur yn ganolog i’r gwaith o wneud penderfyniadau ac addo gwneud Cymru'n fwy cynaliadwy, yn fwy cydnerth ac yn fwy cyfrifol yn fyd-eang yn eu maniffestos.

Dywedodd Tanya Steele, Prif Weithredwr WWF:  

“Rydym ni’n difa bywyd gwyllt o’r blaned, yn llosgi ein coedwigoedd, yn llygru ac yn gor-bysgota ein moroedd ac yn dinistrio mannau gwyllt. Rydym ni’n gwneud llanastr o’n byd – yr unig gartref sydd gennym – gan beryglu ein hiechyd a’n goroesiad yma ar y Ddaear. Nawr mae natur yn anfon neges SOS daer ac ni allwn ei hanwybyddu.

“Rydym ni yng nghanol brwydr dros ein byd, erbyn hyn fe wyddom beth mae angen ei wneud ac ni fydd addewidion ar bapur yn ddigon. Mae angen inni lunio a gorfodi cyfreithiau newydd ar natur ar fyrder, yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, sicrhau gweithredu ar frys ar yr hinsawdd a natur yn rhyngwladol, a gweddnewid ein systemau bwyd. Dim ond trwy wneud yr amgylchedd yn ganolog i’n penderfyniadau y gallwn sicrhau dyfodol diogel a chydnerth i natur, pobl a’n planed.”

Data o’r Living Planet Index diweddaraf

84%

Dirywiad serth ym mhoblogaethau rhywogaethau dŵr croyw

98%

Dirywiad hyd at 98% ym mhoblogaethau eliffantod Affrica yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica

85%

Dirywiad ym mhoblogaethau'r DU o betrisen lwyd

62%

Dirywiad ym mhoblogaethau'r DU o Sgiwen y Gogledd yn Orkney

09/10/2020

canlyniadau cadarnhaol o gadwraeth

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod 75% o dir y Ddaear sydd heb iâ wedi cael ei newid yn sylweddol gan weithgaredd pobl, a bod bron 90% o wlyptiroedd y byd wedi cael eu colli ers 1700.  

Mae mesurau cadwraethol eisoes yn profi y gallan nhw sicrhau canlyniadau cadarnhaol o gwmpas y byd, wrth i warchodaeth gyfreithiol i:

  • eliffantod coedwig yn Ghana,
  • morgwn riff cynffonddu yn Awstralia,
  • afancod yng Ngwlad Pwyl 
  • teigrod yn Nepal

Yn arwain at gynyddiadau mawr yn eu poblogaethau, mae’r LPI yn dangos. 

Cymru ar flaen y gad wrth newid cyfeiriad colli bioamrywiaeth.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar flaen y gad gyda phrosiect arloesol ym maes cadwraeth morwellt.

Mae Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol Abertawe wedi lansio’r prosiect mwyaf erioed i adfer morwellt yn y Deyrnas Unedig. Mae cam cyntaf y prosiect hwn yn golygu plannu 1 miliwn o hadau ger Dale yn Sir Benfro, i ddangos dichonoldeb gwaith adfer morwellt.

Mae morwellt yn blanhigyn blodeuol morol sy’n dal carbon o’r amgylchedd hyd at 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol, gan olygu ei fod yn un o’r prif arfau yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn aml mae’n tyfu mewn dolydd tanddwr mawr, sy’n amsugno carbon ac yn gollwng ocsigen, gan gynnig datrysiad seiliedig ar natur i broblemau hinsawdd a bioamrywiaeth.

Lleisiau ar gyfer planed fyw

Mae’r Living Planet Report eleni hefyd yn cynnwys Voices for a Living Planet, casgliad o draethodau gan arweinwyr meddwl byd-eang ar sut i sicrhau byd iach a chydnerth i bobl a natur.

Mae’r prif draethawd wedi’i ysgrifennu gan un o lysgenhadon WWF, Syr David Attenborough, sy’n pwysleisio bod y ddynoliaeth erbyn hyn mewn oes ddaearegol newydd, yr Anthroposen. Dywed Syr David:

“Gallai’r Anthroposen fod yn adeg pan fyddwn yn sicrhau cydbwysedd gyda gweddill byd natur a dod yn stiwardiaid i’n planed.

“I wneud hynny bydd angen newidiadau yn y ffordd yr ydym yn cynhyrchu bwyd ac ynni, rheoli ein moroedd a defnyddio deunyddiau. Ond yn anad dim bydd angen newid mewn persbectif. Newid o weld natur yn rhywbeth sy’n ddewisol neu’n ‘braf ei chael’ i’r cynghreiriad mwyaf oll sydd gennym wrth adfer cydbwysedd i’n byd.

“Mae cyfnod buddiannau cenedlaethol pur wedi darfod, mae’n rhaid wrth ryng-genedlaetholdeb ac wrth wneud hynny sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng yr hyn mae cenhedloedd yn ei gymryd o’r byd a’r hyn maen nhw’n ei roi yn ôl. Mae’r cenhedloedd cyfoethocach wedi cymryd llawer iawn ac erbyn hyn daeth yr adeg i roi.”

Mae’r Living Planet Report wedi’i seilio ar ddata o’r Living Planet Index a gynhyrchir gan ZSL

Dywedodd Dr Andrew Terry, Cyfarwyddwr Cadwraeth ZSL:

"Mae’r Living Planet Index yn un o’r mesurau mwyaf cynhwysfawr o fioamrywiaeth fyd-eang. Ar gyfer yr adroddiad hwn, mae tîm ZSL wedi olrhain data ar 20,811 o boblogaethau o 4,392 o rywogaethau fertebraidd. Mae 68% o leihad ar gyfartaledd yn yr 50 mlynedd diwethaf yn drychinebus, ac yn dystiolaeth eglur o’r difrod mae gweithgarwch pobl yn ei wneud i fyd natur. Os na fydd dim yn newid, yn ddiau bydd poblogaethau’n dal i leihau, gan yrru rhywogaethau i ddifodiant a bygwth cyfanrwydd ecosystemau yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Ond gwyddom hefyd fod cadwraeth yn gweithio ac y gellir dod â rhywogaethau yn ôl o’r dibyn. Gydag ymrwymiad, buddsoddiad ac arbenigedd, gellir gwrthdroi’r tueddiadau hyn.”

Was this page useful?

no

How can we improve this page? (optional)