Skip to main content

Join the fight for Welsh nature

Mae Cymru’n gartref i gynefinoedd a bywyd gwyllt gwerthfawr. Ond mae natur mewn cyflwr ansicr yma ac mae llawer o rywogaethau’n prinhau. Mae’r rhan fwyaf o’r mesurau diogelu’r amgylchedd yn dod o’r Undeb Ewropeaidd, felly mae amser yn brin i Lywodraeth Cymru weithredu.

Mae natur Cymru o dan fygythiad

O dwyni glan môr i weundiroedd mawn, mae gan Gymru dirweddau naturiol hynod. Mae ein gwlad yn gartref i lawer o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt, o ddolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion i lili’r Wyddfa yn ein mynyddoedd.

Ond mae natur Cymru o dan fygythiad. Mae llawer o’n planhigion a’n hanifeiliaid yn prinhau.

Er gwaethaf rhai arwyddion cadarnhaol – fel adferiad y barcud – mae’r darlun cyffredinol yn peri pryder.

Mae un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu’n llwyr ac mae 60% o rywogaethau ieir bach yr haf wedi prinhau.

Beth yw’r bygythiadau?

Mae’r newid yn yr hinsawdd, newidiadau i arferion ffermio a llygredd ymysg y bygythiadau i natur.

Mae’r rhan fwyaf o’r mesurau diogelu’r amgylchedd yn dod o’r Undeb Ewropeaidd, felly mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar fyrder i roi trefniadau newydd ar waith i warchod ac adfer natur.

Trwy gofrestru, byddwch yn ein helpu i bwyso am newid – a chi fydd y cyntaf i glywed beth allwch ei wneud i helpu.

Byddwch yn ymuno â miloedd o gefnogwyr brwd sy’n codi llais dros ein byd a’r bywyd gwyllt anhygoel mae’n gartref iddo. Ymunwch â ni. Gyda’n gilydd gallwn adfer natur Cymru.