Skip to main content

Wrth i lawer o bobl gynnau eu systemau gwresogi ar ddechrau'r gaeaf, ac wrth i drafodaethau byd-eang ar y newid yn yr hinsawdd ddechrau ym Mharis y mis nesaf, mae adroddiad newydd yn dangos bod angen buddsoddiad mawr i wella cartrefi yng Nghymru trwy fesurau fel inswleiddio atigau a bwyleri mwy effeithlon.

Mae'r ymchwil, a wnaethpwyd gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i WWF Cymru, yn datgelu:

  • Bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd o ran cyrraedd ei tharged i dorri allyriadau o gartrefi 3% bob blwyddyn, ond bod parhau i gyrraedd y targed bob blwyddyn hyd 2020 yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar weithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddatgarboneiddio'r grid. Oherwydd bod sefyllfa'r Deyrnas Unedig ar hyn yn ansicr, erbyn hyn mae angen i Weinidogion Cymru sicrhau llawer mwy o weithredu ym maes effeithlonrwydd ynni cartrefi.
  • Bod senario ymarferol i gyrraedd y targed hwn yn galw am o leiaf £860 miliwn mewn mesurau effeithlonrwydd ynni fel boeleri cyddwyso, atal drafftiau ac inswleiddio waliau ceudod dros y pum mlynedd nesaf.
  • Mai dim ond 8% o'r gwaith lleihau allyriadau yng Nghymru rhwng 2007 a 2014 oedd yn ganlyniad i brif gynlluniau Llywodraeth Cymru, Nest ac Arbed, a bod y gweddill yn ganlyniad i gynlluniau'r Deyrnas Unedig.

Mae lleihau allyriadau o'r sector preswyl yng Nghymru'n rhan bwysig o rôl Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael ô'r newid yn yr hinsawdd - mae'r sector hwn yn gyfrifol am 24% o'r allyriadau mae'r targed blynyddol o ran eu lleihau, sef 3%, yn ymdrin ô hwy mewn meysydd polisi datganoledig.

Yn awr mae WWF Cymru'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi i raglen effeithlonrwydd ynni cartrefi flaenoriaeth o ran seilwaith cenedlaethol hirdymor.

Dywed y dylai gweinidogion osod targed i bob cartref yng Nghymru fod ym 'Mand C' o leiaf ar y raddfa effeithlonrwydd ynni. Byddai cyrraedd y safon hon yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged cyffredinol ar leihau allyriadau carbon a hefyd yn mynd i'r afael ô phroblem enfawr tlodi tanwydd yng Nghymru.

Mae'r argymhelliad uchod yn gyson ô'r cynnig mewn adroddiad gan Cambridge Econometrics a VERCO i Energy Bill Revolution . Mae hwn yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wario £1.3 biliwn rhwng nawr a 2020 fel buddsoddiad cychwynnol mewn codi sgôr Gweithdrefn Asesu Safonol pob cartref yn y Deyrnas Unedig i C erbyn 2035. Byddai hyn gyfwerth ô dyrannu cyllid o ryw £800 miliwn ar gyfer y gwaith hwn yng Nghymru rhwng nawr a 2020.

Er mwyn cael y cyllid ar gyfer y gwaith hwn gellid clustnodi'r £690 miliwn y bydd y Trysorlys yn ei gael yn y pum mlynedd nesaf trwy TAW a threthi carbon oddi wrth ddefnyddwyr ynni domestig yng Nghymru i'w fuddsoddi'n ôl yn y sector domestig.

Mae WWF Cymru'n awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru gyfrannu'r gweddill rhwng y £690 miliwn a £800 miliwn (neu hyd yn oed amcangyfrif yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni sef mwy na £860 miliwn). Er cymhariaeth, mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu buddsoddi £114 miliwn y flwyddyn mewn effeithlonrwydd ynni cartrefi. Pe bai Llywodraeth Cymru'n gwario swm cymesur ar sail cyllideb gymharol, byddai'n golygu rhyw £50 miliwn y flwyddyn yma.

Gan gynnig sylwadau ar yr adroddiad, meddai Swyddog Polisi a Eiriolaeth WWF Cymru, Jessica McQuade:

Mae'r ymchwil hon yn dangos yn fanwl pa mor fawr yw'r her i gyrraedd y targedau lleihau allyriadau o'n cartrefi yng Nghymru. Mae angen cyfuniad o fesurau i wneud cartrefi Cymru'n addas i'r dyfodol ac i wneud yn siwr ein bod yn chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael ô'r newid yn yr hinsawdd.

"Rydyn ni'n cydnabod bod hon yn dasg fawr, wrth gwrs, ond rydyn ni hefyd yn credu ei bod yn hollbwysig iddi gael ei chyflawni. Ym mlwyddyn y trafodaethau ar yr hinsawdd ym Mharis, mae'n hanfodol i Gymru ddangos ei bod yn gweithredu o ddifrif i fynd i'r afael ag allyriadau gartref. Rydyn ni'n galw ar weinidogion a phleidiau i ymrwymo i roi blaenoriaeth i raglenni effeithlonrwydd ynni ar y raddfa mae'r ymchwil newydd hon yn dangos y mae ei hangen."

Ychwanegodd Shea Jones, Swyddog Polisi Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Gall buddsoddiadau mewn effeithlonrwydd ynni a thechnolegau ynni adnewyddadwy gael buddion amlwg yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae'r adroddiad hwn yn nodi rhai o'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu ac yn gwneud yn glir bod yn rhaid inni adeiladu'n sylweddol ar agweddau ar y gwaith da rydyn ni wedi'i wneud eisoes er mwyn cyrraedd ein targedau o ran lleihau allyriadau, ac felly lleihau nifer y bobl sy'n dioddef o dlodi tanwydd a chynyddu ein huchelgais i greu swyddi."

- diwedd -

Nodiadau i olygyddion

WWF yw un o sefydliadau cadwraethol annibynnol mwyaf y byd, gyda mwy na phum miliwn o gefnogwyr a rhwydwaith byd-eang sy'n weithredol mewn mwy na chant o wledydd. Trwy ein hymwneud ô'r cyhoedd, busnesau a llywodraethau, rydym yn canolbwyntio ar ddiogelu byd natur, gan greu atebion i'r problemau amgylcheddol mwyaf difrifol mae ein planed yn eu hwynebu, er mwyn i bobl a natur ffynnu. Cewch wybod mwy am ein gwaith, yn y gorffennol a'r presennol ar wwf.org.uk.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn (Saesneg yn unig).

Lawrlwythwch crynodeb yr adroddiad.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ô:

Cerith Rhys Jones, ffôn: 07909 997 846, e-bost: cjones@wwf.org.uk

"

Make a promise for our planet

Small actions can make a big difference. Find out how

Will you add your promise to the many made already?