Skip to main content

O heddiw ymlaen, bydd Cytundeb Paris, a fabwysiadwyd yn yr uwchgynhadledd ar yr hinsawdd, COP21, ym mis Rhagfyr y llynedd, ar agor i gael ei lofnodi ym Mhencadlys y Cenhedloedd Unedig. Bu mis Mawrth eleni'n fis arall pan dorrwyd pob record yn nhermau tymereddau byd-eang, a bydd angen i arweinwyr fynd i Efrog Newydd gydag ymrwymiadau newydd mawr i weithredu, er mwyn cadw cynhesu o dan 1. 5C.

Mae'r ynni a ddefnyddir yn ein cartrefi, gan gynnwys ar gyfer gwresogi a goleuo, yn un o'r cyfranwyr mawr i allyriadau nwyon ty gwydr Cymru. Mae'r sector preswyl yn gyfrifol am oddeutu chwarter o'r allyriadau sy'n cael eu cynnwys yn y targed gostyngiad blynyddol sef 3% ar gyfer meysydd polisi datganoledig.

Dywed WWF Cymru fod rhaglen fawr i sicrhau effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ffordd allweddol o ddangos ymrwymiad cadarn gan Gymru i wireddu'r fargen a luniwyd ym Mharis.

Mae'r sefydliad cadwraethol byd-eang yn galw am raglen fuddsoddi fawr gan Lywodraeth nesaf Cymru, ac mae eisiau i Weinidogion bennu nod i bob cartref yng Nghymru gyrraedd safon foddhaol (band C o'r Dystysgrif Perfformiad Ynni) erbyn 2025.

Mae'n dweud y byddai gweithredu camau fel gosod inswleiddio atigau a bwyleri mwy effeithlon ar raddfa fwy yn dod ô nifer o fuddion. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu y byddai rhaglen o'r maint hwn, yn ogystal ô lleihau allyriadau, yn creu miloedd o swyddi ac yn torri degau o filiynau o bunnoedd y flwyddyn oddi ar fil ynni Cymru, yn ogystal ô sicrhau buddion iechyd [1].

Dywedodd Jessica McQuade, Swyddog Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru:

Wrth i'r byd uno i lofnodi bargen hanesyddol ar yr hinsawdd, mae'n hollbwysig bod Cymru'n ymuno ô phob gwlad arall i weithredu i gwtogi ar allyriadau a mynd i'r afael ô'r bygythiad byd-eang hwn i bobl a bywyd gwyllt.

"Mae gwneud yn siwr bod gan bawb yng Nghymru gartref cynnes sydd wedi'i inswleiddio'n dda yn un o'r camau pwysicaf i Lywodraeth nesaf Cymru ar ôl yr etholiadau ar 5 Mai.

"Mae maint y newid mae ei angen yn golygu y bydd hyn yn galw am fuddsoddi sylweddol. Ond mae'r buddion mawr y bydd yn dod ô nhw - o ran iechyd, swyddi a'r amgylchedd - yn golygu bod yna ddadl gref dros roi blaenoriaeth iddo ym maes isadeiledd.

"Mae gweithredu ar effeithlonrwydd ynni cartrefi'n mynd y tu hwnt i fynd i'r afael ô'r newid yn yr hinsawdd. Mae'r ymagwedd gydgysylltiedig hon, sy'n dod ô nifer o fuddion, yn ganolog i'r syniadau y tu ôl i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac i wireddu ei nodau. Bydd gweithredu ar effeithlonrwydd ynni cartrefi'n brawf allweddol i weld a yw Llywodraeth nesaf Cymru o ddifrif ynghylch cyflawni'r agenda hon."

- diwedd -

Nodiadau i olygyddion

1. Gellir gweld mwy o wybodaeth yn yr adroddiadau canlynol:

2. WWF yw un o sefydliadau cadwraethol annibynnol mwyaf y byd, gyda mwy na phum miliwn o gefnogwyr a rhwydwaith byd-eang sy'n weithredol mewn mwy na chant o wledydd. Trwy ein hymwneud ô'r cyhoedd, busnesau a llywodraethau, rydym yn canolbwyntio ar ddiogelu byd natur, gan greu atebion i'r problemau amgylcheddol mwyaf difrifol mae ein planed yn eu hwynebu, er mwyn i bobl a natur ffynnu. Cewch wybod mwy am ein gwaith, yn y gorffennol a'r presennol ar wwf.org.uk.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ô: Richard Nosworthy | Rheolwr Cyfathrebu - Communications Manager, WWF Cymru, WWF-UK Ffôn: +44 (0) 29 20454972 | Symudol: +44 (0)7920 211534 Rhif y cyfryngau/Press phone: +44 (0) 7909 997 846"