Skip to main content

Mae Cynllun “Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned” yn cydnabod bod “angen newid dirfawr ym mhob rhan o’r gymdeithas” ond nid yw’n dweud sut y caiff hyn ei gyflawni. Yn benodol, mae ysgogyddion economaidd ein datblygu anghynaliadwy presennol yn cael eu hanwybyddu, ac mae’r Cynllun yn methu cyfle i gyflwyno’r ddadl pam mai datblygu cynaliadwy yw’r unig ymateb i’r hinsawdd economaidd bresennol.

Meddai Morgan Parry, Pennaeth WWF Cymru: “Rydym yn llongyfarch Llywodraeth Cynulliad Cymru am gytuno i ddefnyddio’r ôl troed ecolegol fel ffordd o helpu i droi Cymru’n genedl Un Blaned. Fodd bynnag, nid yw’r Cynllun yn gosod targed. Mae’n nodi dyhead i wneud hyn o fewn “oes cenhedlaeth”, ond mae disgwyliad oes yn amrywio’n fawr iawn ledled y byd. A fyddwn ni’n gynaliadwy o fewn oes 78 blynedd yr unigolyn cyfartalog yng Nghymru, neu o fewn oes 30 mlynedd unigolyn ym Malawi?

“Mae’r ffaith bod Cymru a gwledydd y Gorllewin wedi mynd ar ôl twf economaidd yn ddall wedi’n arwain ar hyd llwybrau anghynaliadwy iawn, sy’n costio ffortiwn i ni eu hunioni – o ddisbyddu adnoddau i newid yn yr hinsawdd a cholli rhywogaethau. Mae’r Living Planet Index yn dangos bod poblogaethau bywyd gwyllt y Ddaear wedi prinhau 30 y cant dros y 35 mlynedd diwethaf yn unig.”
"Mae’r awydd i gael twf economaidd, costied a gostio i bob golwg, wedi bod yn rhwystr mawr i wneud Cymru’n arweinydd byd ym maes datblygu cynaliadwy, sy’n rhywbeth y gallai fod. Felly mae’n siomedig bod y Llywodraeth wedi rhoi’r gorau i bob ymdrech i ddod o hyd i well ddangosydd ffyniant economaidd na chynnyrch mewnwladol crynswth neu werth ychwanegol crynswth. Ar adeg o argyfwng ariannol byd-eang a achoswyd gan ddefnyddiaeth anghynaliadwy, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n methu cyfle mawr i ailddiffinio ei blaenoriaethau economaidd. Hyd nes i hyn ddigwydd, ni fyddwn yn sicrhau datblygu cynaliadwy”.

“Mae’n galonogol mai nod y Cynllun yw rhoi datblygu cynaliadwy wrth wraidd holl bolisïau’r Llywodraeth, ond addawyd hyn bedair blynedd yn ôl yn y Cynllun blaenorol, ac mae’n amlwg nad yw hyn wedi digwydd. Mae angen rhoi blaenoriaeth uwch o lawer i ddatblygu cynaliadwy yn y pedair blynedd nesaf.

Mae WWF Cymru wedi ymgyrchu ers dros chwe blynedd ar ffyrdd i leihau ôl troed ecolegol Cymru i lefel Un Blaned mewn meysydd allweddol megis bwyd, ynni yn ein cartrefi a thrafnidiaeth. Mae adroddiad Cymru Un Blaned gan WWF Cymru’n rhoi sylw i’r ffordd y gallwn gyflawni her Cymru Un Blaned erbyn 2050.

Mae WWF Cymru’n cymeradwyo’r pethau canlynol yn y Cynllun:

• nodi’r angen i ddod yn Gymru Un Blaned a chydnabod bod newid yn yr hinsawdd yn un o symptomau byw’n anghynaliadwy

• gosod targed uchelgeisiol i leihau’r defnydd o ynni carbon 80- 90% a sicrhau’r un gostyngiad mewn nwyon ty gwydr.

Yng Nghymru mae pobl yn byw fel pe bai ganddynt adnoddau tair planed, pan fo angen i ni ddefnyddio cyfran deg o adnoddau un blaned.
Ar hyn o bryd mae ôl troed ecolegol Cymru’r un maint ag ôl troed 33 o wledydd Affrica gyda’i gilydd. Mae’r effaith mae’r unigolyn cyfartalog yng Nghymru’n ei chael ar y blaned yn fwy na theirgwaith a hanner effaith yr unigolyn cyfartalog yn Affrica.