Skip to main content
Thumbnail

CYFLWYNIAD

Rydym i gyd yn caru Cymru. Harddwch tirweddau ein gwlad, y cymunedau sy’n gartrefi inni a’n byd naturiol anhygoel – o ddolffiniaid i farcutiaid.

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnom ni nawr – a bydd yn cael mwy a mwy o effaith yn y dyfodol.

Ond yng Nghymru, nid yw gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn ddigon cyflym.

Felly, ar gyfer degfed pen-blwydd Awr Ddaear WWF, lansion ni Neges Mewn Potel – prosiect a fyddai’n ysbrydoli pobl ledled Cymru i anfon neges fawr i Fae Caerdydd.

Roedd y cerflun 8 metr o botel enfawr, a ddyluniwyd gan yr artist Lulu Quinn, wedi’i wneud o gannoedd o boteli dieisiau ac wedi’u defnyddio, yn symbol o’r cannoedd o negeseuon a gasglwyd.

Mae’r hen arfer rhamantaidd o anfon neges mewn potel yn ysbrydoli’r person sy’n dod o hyd i’r botel i ddysgu mwy am y sawl a’i hanfonodd a’i ddymuniadau. Roedden ni eisiau troi’r hen arfer hwn ar ei ben a’i ddefnyddio er daioni.

Rydyn ni eisiau i wleidyddion Cymru, sy’n cael y neges hon, cael eu hysgogi i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

Thumbnail

EICH NEGESEUON

Ym mis Chwefror a mis Mawrth 2017, anogasom bobl i rannu’r hyn roedden nhw eisiau i Gymru ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Casglasom eich negeseuon trwy gyfuniad o weithdai, ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol. O’r cannoedd o negeseuon a gasglwyd, daeth:

  • 28% o’r wefan
  • 10% oddi ar Twitter
  • 60% o weithdai
  • 2% o ffynonellau eraill

Ynni, gwastraff a thrafnidiaeth ddaeth i’r amlwg fel y prif faterion o bwys.

Tra bo rhai’n canolbwyntio ar y camau personol y bydden nhw’n eu cymryd, roedd eraill yn galw am newidiadau ar lefel leol neu genedlaethol.

Ym maes ‘amaethyddiaeth’, mynegodd pobl farn ehangach hefyd am ddefnyddio bwyd ac am wastraff. Cawsom hefyd lawer o negeseuon o gefnogaeth i weithredu eang ar y newid yn yr hinsawdd neu faterion yn ymwneud â’r amgylchedd yn fwy cyffredinol.

Isod mae graffiau sy’n dangos y nifer o negeseuon wedi’u casglu fesul pwnc, a detholiad o’r negeseuon.

Welsh langauage tableNegeseuon A Roddwyd

 

Thumbnail

AMAETHYDDIAETH

"Dylech ddefnyddio’r ffaith fod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac y bydd ffermwyr Cymru’n colli eu cymorthdaliadau o’r UE fel cyfle i greu newidiadau cadarnhaol i ddefnydd tir a pholisi amaethyddol. Mae angen i gymorthdaliadau gael eu defnyddio i gynorthwyo ffermwyr i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, llifogydd, colli bioamrywiaeth, disbyddiad pridd.”

Petra, Machynlleth

“Dylech sicrhau bod cymaint ag sy’n bosibl o’r bwyd sy’n cael ei ddefnyddio wrth arlwyo mewn ysgolion ac ysbytai a chyrff cyhoeddus eraill yn dod o ffynonellau lleol. Cefnogwch amaethyddiaeth Cymru a Phrydain.”

Liz a Hugh, Pen-y-bont ar Ogwr

“Lleihau gwastraff bwyd; bwyta diet cynaliadwy wedi’i seilio ar lysiau, gan gyfyngu ar ddibyniaeth ar gynhyrchion anifeiliaid”

Tommy, Abertawe

Thumbnail

YNNI

“Dwi eisiau i Gymru fod yn arloeswr yn y newid byd-eang i ynni adnewyddadwy. Ni yw’r genhedlaeth olaf a all atal y gwaethaf o ran y newid yn yr hinsawdd. Beth hoffen ni i’n hetifeddiaeth fod?”

Dienw, Aberystwyth    

“Dylai Cymru fod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer ynni adnewyddol. Pan nad yw hyn wedi digwydd?!”

Richard, Caerdydd

“Hoffwn i Gymru gynhyrchu ei holl ynni mewn ffordd gynaliadwy, gan gynnwys cynhyrchu’n lleol fel y gall pentrefi a threfi fod yn fwy hunangynhaliol”

Joan, Abercynon

Thumbnail

GWASTRAFF

“Gwireddu’r economi ddiwastraff. Normaleiddio ailddefnyddio. Gwahardd plastig untro. Annog biniau swmp a mannau ail-lenwi heb ddeunydd pacio mewn archfarchnadoedd.”

Isobel, Pontardawe      

“…Gadewch inni goleddu economi werdd gyda llai o wastraff a mwy o degwch, mwy o rannu a llai o ‘stwff.”

Brenda, Y Gelli Gandryll

“Dwi’n addo ailgylchu gwastraff bwyd a gwneud compost i gael ei ddefnyddio yn yr ardd”

Victoria, Beddau           

Thumbnail

BUSNES A DIWYDIANT

“Does dim ots am ddiogelwch ariannol a chyflogaeth yn y tymor byr os nad oes gennyn ni fwyd, dŵr neu blaned i fyw arni ymhen can mlynedd“

Mark, Llanelli 

"…Hoffwn hefyd weld mwy o gyhoeddusrwydd i gynnyrch lleol, i annog pobl i brynu mwy o gynnyrch o Gymru"

Dienw, Trefynwy          

"Cau Aberddawan. Rhoi hyfforddiant di-dâl am swyddi amgen i’w gweithwyr!”

Friederike, Caerdydd

Thumbnail

CARTREFI

“Rhowch baneli solar ar fwy o gartrefi ac adeiladau os gwelwch yn dda”

Angelica, Abertawe

“Deddfu bod yn rhaid i bob cartref newydd sy’n cael ei adeiladu fod yn eco-gyfeillgar / ynni effeithlon – gan ddefnyddio adnoddau cynaliadwy”

Dienw, Cas-gwent        

“Dwi eisiau i’r llywodraeth ariannu cartrefi cynnes, wedi’u hinswleiddio, ac wedi’u cynhesu gan ynni trydan adnewyddadwy!

Libby, Caerdydd

Thumbnail

TRAFNIDIAETH

“Buddsoddwch mewn trafnidiaeth gyhoeddus i’w gwneud yn wyrddach ac yn ddewis amgen ymarferol yn lle gyrru car. Cwtogwch ar allyriadau a llygredd!”

Kaye, Casnewydd

“Mae angen inni wneud beicio yng Nghaerdydd yn fwy diogel ac annog pobl i beidio â defnyddio ceir ar ffyrdd o gwmpas / i mewn i ganol y ddinas.”

Caroline, Caerdydd      

“…Dwi eisiau i gymunedau fod yn ystyriol o gerddwyr, gyda chanol pentrefi a threfi heb gerbydau. Dwi eisiau mwy o gyfyngiadau ar gyflymder a mwy o gamerâu cyflymder ac i drafnidiaeth gyhoeddus gael cymhorthdal…”

Ellen, Dinas Powys      

Thumbnail

ARALL

“Mae llawer o bethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol yn aml. Ein byd yw un ohonyn nhw. Mae’n ddyletswydd arnon ni ei warchod oherwydd ni yw’r unig rai a all wneud…”

 Melanie Griffiths, Wrecsam   

“Mae’n hen bryd inni beidio â rhoi blaenoriaeth i Gynnyrch Domestig Gros a thwf a dechrau rhoi blaenoriaeth i gynnal y byd o’n cwmpas.”

Matthew, Abertawe

“Dwi eisiau i’n llywodraeth feddwl am gynlluniau hirdymor ar gyfer yr amgylchedd yn hytrach nag enillion tymor byr”

Claire, Caerdydd           

“Os edrychwn ni ar ôl ein byd a phopeth ynddo, bydd yntau’n edrych ar ein hôl ni.”

Dienw, Abertawe          

Thumbnail

CEFNOGAETH WLEIDYDDOL

Cawsom dderbyniad gwych i’n digwyddiad Neges Mewn Potel ar gyfer Awr Ddaear yn y Senedd. Daeth hanner yr Aelodau Cynulliad (30 o 60), nifer sy’n anhygoel, i ddangos eu cefnogaeth.

Mae hyn yn dangos bod gwleidyddion yng Nghymru yn dal i gefnogi mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae gennym hanes o gefnogaeth drawsbleidiol i weithredu uchelgeisiol ar y newid yn yr hinsawdd, felly rydyn ni’n hapus i allu dangos bod yr ymrwymiad hwn yn dal i fod yn gadarn.

BETH NESAF?

Mae’n hanfodol inni godi llais. Mae cynghorwyr i’r Llywodraeth yn rhybuddio bod Llywodraeth Cymru’n debygol o fethu ei tharged i gwtogi ar allyriadau 40% erbyn 2020.

Byddwn yn rhannu’ch negeseuon gyda phenderfynwyr er mwyn eu hysgogi i weithredu, wrth inni barhau i ymgyrchu dros weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.

Er gwaethaf y diffyg cynnydd hyd yma, mae gennym gyfle da yn y misoedd i ddod.

O dan Ddeddf yr Amgylchedd, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru – am y tro cyntaf – osod terfynau ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, a thargedau dros dro ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Cyn bo hir bydd gweinidogion yn ymgynghori ar sut y dylid gwneud hyn.

Mae arnom angen i Lywodraeth Cymru gwtogi ar allyriadau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â gofynion byd-eang. Bydd arnom angen i’n cefnogwyr, helpu i barhau i ddwyn pwysau.

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid yn Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru i sicrhau y clywir ein llais yn glir. Byddwn hefyd yn cyflwyno tystiolaeth oddi wrth ein rhwydwaith byd-eang, gan roi enghreifftiau o'r targedau uchelgeisiol mae gwledydd eraill yn eu gosod.

 

DIOLCH

Diolch i bawb ohonoch a’n cefnogodd ac a gymerodd ran yn ein hymgyrch Neges Mewn Potel. Trwy gydweithio, rydym wedi sicrhau bod ein galwadau am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn cael eu clywed.

Cafodd y prosiect ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.