Skip to main content

Yr hyn a wnaethom gyflawni yng Nghymru yn 2023

Ein rhesymau am obaith

The family at Rest Farm, both parents and two children, walk through the field long the hedgerow.

Dyfodol natur-gyfeillgar i ffermio yng nghymru

Cefnogodd dros 3,000 o bobl yng Nghymru ein galwad i roi natur wrth galon Bil Amaeth Cymru. Mae’r Bil bellach yn Ddeddf, sy’n cadarnhau amgylchedd cydnerth sy’n hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd cymdeithasol ac economaidd yng nghyfraith Cymru am y tro cyntaf. 

Diolch i ymgyrchu WWF Cymru, gweithio gyda ffermwyr sy’n gyfeillgar i natur, a deiseb dros 3000 o bobl, fe wnaethom eirioli’n llwyddiannus i amaethecoleg fod yn ganolog i’r Ddeddf, gan roi ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a dinasyddion wrth galon atebion a chydnabod amgylchedd gwydn fel sylfaen cynaliadwyedd cymdeithasol ac economaidd yng nghyfraith Cymru am y tro cyntaf. 

Er yn gartref i fywyd gwyllt bendigedig a golygfeydd godidog, mae  un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru yn wynebu difodiant. Mae bron i 90% o Gymru yn cael ei ffermio, felly mae cefnogi ffermwyr i fabwysiadu arferion mwy cyfeillgar i’r hinsawdd a natur yn hanfodol i sicrhau ein dyfodol a’n gallu i gynhyrchu bwyd.  

Bydd ymgyrch Gwlad Ein Dyfodol nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan y system newydd o daliadau amaethyddol – Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy – ddigon o gyllid, yn cael ei ddosbarthu cyn gynted â phosibl, ac yn cael ei weithredu yn y ffordd gywir i wobrwyo ffermwyr sy’n mynd uwchlaw a thu hwnt dros natur, i annog eraill i wneud hynny hefyd. 

School of lesser sand eels (Ammodytes tobianus) swimming over an eelgrass (Zostera marina) seagrass meadow in shallow water. Swanage, Dorset, UK

Blwyddyn brysur i forwellt

Mae morwellt yn storio carbon ac mae'n gynefin hanfodol ar gyfer bioamrywiaeth. Gall hefyd helpu i amddiffyn cymunedau rhag effeithiau erydu arfordirol a llifogydd.  

Mae WWF Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol i adfer dolydd morwellt. Yn 2020 fe wnaethom blannu dau hectar o ddolydd morwellt yn llwyddiannus yn Dale. Ers hynny, rydym wedi lansio prosiect i adfer deg hectar o ddolydd morwellt yn Ynys Môn a Phen Llŷn ac eisoes wedi cefnogi plannu 240k o hadau yng Ngogledd Cymru a chasglu dros 1 miliwn o hadau i’w plannu ymhellach drwy’r prosiect Morwellt Achub Cefnfor yng Nghymru. 

Mae Project Seagrass a Phrifysgol Abertawe yn datblygu ac yn treialu technoleg a dulliau arloesol ar gyfer adfer morwellt. Er enghraifft, yn 2023 yn Dale, cynhaliodd y prosiect dreialon llwyddiannus i blannu hadau morwellt gan ddefnyddio plannwr roboteg - Reefgen Robot. Mae gan y robot uwch-dechnoleg hwn y potensial i blannu ar raddfeydd uwch na'r dulliau presennol a allai gwneud hi'n haws ac yn rhatach i gynyddu'r gwaith adfer. 

Nod WWF yw cefnogi plannu 9 miliwn o hadau ar draws 18 ha yn y DU erbyn diwedd 2026. 

Cefnogodd dros 2,000 o bobl o Gymru ein deiseb Morwellt. Fe wnaethom ei gyflwyno mewn steil yn y Senedd gyda chymorth disgyblion ysgol o Wrecsam. Gallwch weld eu rap morwellt anhygoel yma. 

The WWF Cymru team pictured in front of a Save Our Wild Isles board at an event.

Diolch

Cymerwyd dros 10,000 o weithredoedd o Gymru i gefnogi ymgyrchoedd WWF yn 2023, gyda dros hanner y rheini’n cefnogi ein dwy ymgyrch fawr WWF Cymru. 

Diolch am gefnogi ein gwaith yng Nghymru i adfywio ein byd. O’r sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol i lythyrau a dderbyniwyd gan ysgolion, rydym wedi ein hysbrydoli gan y gefnogaeth a’r cariad am natur Cymru a bywyd gwyllt byd eang. 

P'un a ydych chi'n mabwysiadu anifail, yn cyfrannu, yn cymryd ein gweithredoedd ymgyrchu neu'n lledaenu'r neges ar lein, gyda'ch teulu a'ch cymunedau, mae eich cefnogaeth yn golygu'r byd ac yn galluogi ni i barhau â'n gwaith hanfodol. 

 

Diolch o bawb yn WWF Cymru,