Skip to main content

TYDDYN TEG - STORÏAU GWLAD EIN DYFODOL

Fferm lysiau agroecolegol ger Caernarfon yw'r ail yng nghyfres WWF Cymru, Tyddyn Teg.

Aelod staff Tyddyn Teg yn pigo llysiau yn y cae o flaen y tŷ

Tyddyn Teg

Fferm lysiau gydweithredol agroecolegol 30 erw ger Caernarfon yw Tyddyn Teg sy'n cyflenwi 170 o focsys llysiau yr wythnos i’r gymuned leol yn ogystal â darparu siop fferm, becws a llysiau i siopau a bwytai lleol.

Yn swatio rhwng mynyddoedd godidog Parc Cenedlaethol Eryri a’r Fenai mae'r fferm yn dangos bod modd cynhyrchu llysiau yng Nghymru mewn cytgord â byd natur, gan ddarparu cyflogaeth i nifer fawr o bobl ar ddarn bach o dir ar yr un pryd. Mae 11 o aelodau bellach yn ennill bywoliaeth o'r fferm, sydd hefyd yn cynnig hyfforddeiaethau i newydd-ddyfodiaid bob blwyddyn.

“Mae llawer o’n cyn-hyfforddeion wedi ymuno â’r diwydiant yn llwyddiannus, ond yn y rhan fwyaf o achosion drwy ymuno â’n cydweithfa, neu drwy gael hyfforddiant pellach ar ffermydd eraill.” Jamie Stroud, Tyddyn Teg.

Gwell gwylio na darllen? Sgroliwch lawr am fideo.

Fferm Tyddyn Teg, golygfa o'r cae lle tyfir y cynnyrch wedi'i amgylchynu gan goed.

Ar y Ffarm

Mae Tyddyn Teg yn tyfu cynnyrch ffres drwy gydol y flwyddyn, yn y caeau ac mewn twneli polythen. Ni ddefnyddir agrocemegau a defnyddir technegau ffermio megis cylchdroi cnydau, tyfu cnydau gorchudd, hau meillion o dan rai cnydau gan droi'r tir cyn lleied â phosibl a chynnal cynefin ar gyfer pryfed defnyddiol ac anifeiliaid eraill. Yn gyffredinol, tyfir llysiau ar tua 5 erw o'r tir ac mae'r gweddill yn cael ei reoli ar gyfer bioamrywiaeth.

Coetir yw traean y tir ac mae'r fferm wedi plannu mwy o leiniau cysgodi a gwrychoedd ac mae cân yr adar i'w chlywed ym mhobman.  Mae'r holl wastraff cnwd ar y fferm yn cael ei ailgylchu mewn rhyw ffordd, drwy ei gompostio neu ei ailymgorffori'n uniongyrchol yn y pridd. Cynnyrch “gwastraff” o ryw fath neu’i gilydd yw’r mewnbynnau amaethyddol yn bennaf – tail, sglodion pren gan feddygon coed, a chompost o wastraff dinesig.

“I mi, mae agroecoleg yn golygu defnyddio dealltwriaeth wyddonol o bethau byw a phrosesau naturiol i greu swm sylweddol o gynnyrch bwyd o ansawdd da mewn ffordd sy’n gynaliadwy am gyfnod amhenodol, ac nad yw’n arwain at ganlyniadau negyddol i bobl na’r byd naturiol ar y fferm na thu hwnt.”

Jamie Stroud
Tu allan i siop fferm Tyddyn Teg lle mae bocsys o gynnyrch a pherson yn cario cynnyrch i'r siop.

Cymuned

Prif nod y fferm yw parhau i wella mynediad at lysiau ffres ar gyfer eu cymuned leol gan ofalu am yr amgylchedd. Mae'n ymroddedig i ddatblygu ei gofod cymunedol er mwyn cynnal digwyddiadau, a chynnwys yr aelodau yn ogystal â'r gymuned leol drwy gynnal diwrnodau gwirfoddoli, ciniawau cymunedol, ymweliadau ysgol a diwrnodau agored, gan hyrwyddo bwyd da a llysiau da.  Yn ddiweddar, sefydlodd y fferm “Gronfa Undod Cymunedol”, a fydd yn defnyddio arian a godwyd o ddigwyddiadau a chynllun cyfranddaliadau cymunedol arfaethedig i ariannu prosiectau a gweithgareddau sydd o fudd i’r gymuned leol a byd-eang.

Gyda siop y pentref bellach wedi cau, mae’r siop ar y safle yn Nhyddyn Teg hefyd wedi dod yn rhan annatod o’r gymuned gan ddarparu gwasanaeth mawr ei angen i drigolion Bethel a’r cyffiniau.

Cynnyrch fferm Tyddyn Teg gan gynnwys sinsir, tyrmerig, garlleg a betys.

Cydweithredol

“Does dim siopau yn y pentref cyfagos, ac mae aelodau o’n cymuned leol wedi dweud wrthym gymaint yr oedden nhw'n gwerthfawrogi’r ffaith y gallent gael nwyddau hanfodol gennym yn ystod cyfnodau clo covid yn 2020, pan fyddant wedi bod yn amharod i deithio ymhellach i archfarchnadoedd” Jamie Stroud.

Mae model cydweithredol Tyddyn Teg hefyd yn talu'r cyflog byw i’w holl aelodau, yn gwella sgiliau Cymraeg yr aelodau ac yn datblygu cynnig rhannu tir er mwyn sicrhau bod y tir yn parhau i wasanaethu’r gymuned.

Blodau pinc ar fferm Tyddyn Teg

Cydraddoldeb

“Un o egwyddorion craidd ein busnes yw cydraddoldeb (o ran pŵer a chyflog) rhwng yr aelodau, yn wahanol i system sydd â pherchnogion, rheolwyr a gweithwyr. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pob aelod o’r gydweithfa yn edrych ar bethau yn yr hirdymor, ac yn cael eu cymell i weithredu er budd y busnes cyfan. Mae gan bob aelod reolaeth a chyfrifoldeb dros ryw ran o’r busnes, sydd, yn ein barn ni, yn rhoi profiad sy'n cynnig mwy o foddhad na sefyllfa lle nad oes gan weithwyr fawr ddim cyfle, os o gwbl, i gyfrannu at benderfyniadau” Jamie Stroud.

Mae aelodau Tyddyn Teg hefyd wedi sicrhau cymorth ariannol yn ddiweddar gan Gynllun Datblygu Garddwriaeth Llywodraeth Cymru i wella’r capasiti dyfrhau, a fydd, yn eu barn nhw, yn cynyddu rhai cnydau'n sylweddol.