Skip to main content
yr anthroposen da

Oct 2026

Yr Anthroposen Da

Mae'r prosiect Anthroposen Da yn archwilio sut y gallai dyfodol da edrych yn y DU, a sut y gallem gyrraedd yno. Gan weithio gyda Chanolfan Leverhulme ar gyfer Bioamrywiaeth Anthroposen ym Mhrifysgol Efrog, gwnaethom ofyn i bobl yn ardaloedd Cyflawnwedd WWF-UK – Sir Benfro, Norfolk ac Aber Gweryd – ddychmygu dyfodol cadarnhaol. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno'r dyfodol hynny mewn ffurfiau disgrifiadol, adrodd stori a chelf.

Mae'r adroddiad yn cynnwys 'newidiadau craidd' sydd angen digwydd i wireddu'r dyfodol hyn: o feddwl mewn unedau ar wahân i systemau cysylltiedig; o dynghediaeth i asiantaeth a gobaith; ac o berthynas echdynnol â natur i un o stiwardiaeth a gofal.

Mae’r Anthroposen Da yn cysylltu gyda thema ‘Gwyddor Obaith’ yr addroddiad Living Planet. Mae’n trafod sut mae'n bosibl cyflawni dyfodol cadarnhaol, os ydym yn gwneud dewisiadau da nawr.

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad yn Saesneg. I ddarllen yr adroddiad yn Gymraeg, cliciwch ar y botwm 'lawrlwytho'r adroddiad' isod.

Download Report