Skip to main content

Sicrhau eich hawliau i herio

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod natur Cymru’n prinhau’n drychinebus. 

Ar ôl inni adael mesurau’r Undeb Ewropeaidd, sy’n diogelu’r amgylchedd, mi oedd cyfle unwaith mewn oes i Lywodraeth Cymru gadw a chryfhau’r cyfreithiau. Un rhan bwysig yw hawl dinasyddion cyffredin i ddal Llywodraethau i gyfrif ac i sicrhau bod y llywodraeth yn gweithredu cyfreithiau amgylcheddol yn effeithiol.

Cyn Brexit, gall y Comisiwn Ewropeaidd ymchwilio, gan fynnu i’r Llywodraeth weithredu a mynd â hi gerbron llys os nad yw’n gwneud hynny. Defnyddiwyd hyn i herio penderfyniadau neu ddiffyg gweithredu gan y Llywodraeth ar faterion o warchod llamhidyddion i ansawdd aer a llygredd afonydd. 

Ar ôl y refferendwm yn 2016 rhoesom groeso i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gadw egwyddorion yr Undeb Ewropeaidd, sy’n llywio’r gwaith o lunio cyfreithiau a pholisïau newydd a gwneud penderfyniadau. Yn awr mae’n rhaid i’r egwyddorion hyn, fel y rheidrwydd ar lygrwyr i dalu am unrhyw niwed maen nhw’n ei achosi, gael eu corffori i gyfraith Cymru er mwyn sicrhau na fydd yr amgylchedd yn dioddef.

Ein hymgyrch yn 2019