Trosolwg o’r prosiect
Mae WWF-UK yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar brosiect blwyddyn hyd at ddiwedd 2025, i lunio adroddiad llinell sylfaen cynhwysfawr ar statws a meintiau morfeydd heli gogledd Cymru, gan ddefnyddio data hanesyddol a data cyfredol. Wrth gasglu’r data hwn, bydd yr Ymddiriedolaeth yn anelu at gysylltu â chymunedau lleol a rheolwyr safle, yn hwyluso sgyrsiau ac yn codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd morfeydd heli.
Mae rhan allweddol arall y prosiect hwn yn canolbwyntio ar addysg. Caiff cynnwys am forfeydd heli ei integreiddio i’r pecyn addysg Tir a Môr presennol, a fydd yn cyrraedd holl ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn. Yn ogystal, bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cynnal ymweliadau ysgol â safleoedd morfa heli lleol.
Pam ydym ni’n gwneud hyn
Mae morfeydd heli’n gynefin hanfodol ar gyfer nifer o rywogaethau adar ac yn feithrinfa bwysig i bysgod ac infertebratau. Hefyd, maent yn lliniaru effeithiau newid hinsawdd yn effeithiol iawn trwy weithredu fel dalfeydd carbon. Mae morfeydd heli’r DU yn dirywio, wrth iddynt wynebu nifer o fygythiadau gan gynnwys cymunedau sy’n tyfu’n fwyfwy datgysylltiedig o gynefinoedd arfordirol.
Effaith y prosiect
Bydd pennu llinell sylfaen fanwl ar gyfer morfeydd heli yn sail i’r gwaith o’u rheoli yn y dyfodol, er mwyn gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ynghylch gwaith adfer posibl.
Trwy ehangu ar becyn addysg Tir a Môr i gynnwys gwybodaeth am bwysigrwydd morfeydd heli lleol, a chefnogi ymweliadau ysgol â safleoedd morfa heli, bwriadwn ddatblygu cysylltiad rhwng plant lleol a’r cynefin morfa heli hanfodol.