Cyflawnwedd: Sir Benfro
Mae Cyflawnwedd Sir Benfro yn un o dri chynllun peilot Cyflawnwedd ledled y DU.

-
© Jessica McQuade
-
Trosolwg o’r prosiect
Ar hyn o bryd, mae dynoliaeth yn wynebu tair problem fawr sy’n gysylltiedig â’i gilydd: lleihau effaith newid hinsawdd, amddiffyn ac adfer natur, a sicrhau bod gan bawb digon o fwyd iach. Yr enw a roddwn arnynt yw’r Her Driphlyg: ni allwn eu datrys ar wahân oherwydd y cysylltiadau sydd rhyngddynt. Mae ein ffordd o fyw, sut ydym yn defnyddio’r tir a’n moroedd ac yn rhyngweithio â natur yn effeithio ar yr amgylchedd a’n gallu i ymdrin â newid hinsawdd, ac yn y dyfodol agos, i gyrraedd bwyd.
Mae WWF yn mynd i’r afael â’r heriau hyn drwy edrych ar y darlun mawr. Mae ymagwedd Cyflawnwedd yn ystyried bod natur wedi’i gysylltu ar draws y tir, afonydd, arfordiroedd, a moroedd. Mae hefyd yn deall bod y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn yn rhan hanfodol o’r ateb. Trwy gydnabod y cysylltiadau hyn, mae WWF yn dod o hyd i ffyrdd o helpu’r amgylchedd a chymunedau i ffynnu gyda’i gilydd.
Mae WWF yn defnyddio’r gwaith ymchwil diweddaraf ac yn gweithio’n agos â phobl a sefydliadau lleol er mwyn penderfynu lle y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae hyn yn ein helpu i ddeall yr heriau mwyaf sy’n wynebu ardal ac i benderfynu ble i ganolbwyntio ein hymdrechion. Er ein bod ni wedi pennu meysydd allweddol a phrosiectau i weithio arnynt, rydym yn dysgu o hyd ac yn addasu wrth inni fynd, ac rydym yn croesawu adborth er mwyn gwella ein hymagwedd.
Mae gweithio’n agos â chymunedau a sefydliadau lleol yn allweddol i lwyddiant yr ymagwedd hon. Mae WWF yn helpu pobl leol i arwain y ffordd ac i fod yn rhan o’r ateb. Trwy weithio’n gyda’n gilydd, gallwn fynd i’r afael â materion amgylcheddol a gwella bywydau pobl ar yr un pryd.
Mae sicrhau buddsoddiad ac adeiladu partneriaethau cryf yn hanfodol i’r broses o greu newid hirbarhaol.
Mae rhaglen Sir Benfro yn un o dri phrosiect peilot yn y DU sy’n rhoi’r ymagwedd Cyflawnwedd ar waith. Mae’r prosiectau hyn eisoes yn dangos canlyniadau gwirioneddol drwy gysylltu gweithredu dros natur, hinsawdd a phobl ar draws ecosystemau cyfan. Y nod yw dangos bod gweithio gyda natur ar raddfa fwy’n gallu creu newid cadarnhaol, parhaus i bawb.
-
© Jamie Goodridge
More Close Adfywio afon Cleddau
Hoffem adfywio dalgylch afon Cleddau trwy adfer natur a chefnogi cymunedau i wrthsefyll newid hinsawdd, tra eu bod yn parhau i gynhyrchu ffynhonnell ddibynadwy o fwyd.
Bydd dod ag arferion ffermio adfywiol a datrysiadau’n seiliedig ar natur ynghyd yn mynd i’r afael ag anawsterau ansawdd dŵr, fel llygredd maethynnau mewn afonydd. Yn ei dro, bydd hyn yn arwain at foroedd mwy iach ac yn datgloi’r potensial i adfer morwellt a chynefinoedd eraill y môr yr hoffem eu cynnwys mewn prosiectau ar hyd yr aber.
Rydym yn datblygu gweledigaeth ar gyfer dalgylch afon Cleddau drwy ddod â chymunedau, ffermwyr, defnyddwyr ac awdurdodau statudol at ei gilydd. Bydd y weledigaeth hon yn helpu i ddatblygu prosiectau ar hyd yr afon sy’n barod i’w buddsoddi ynddynt, ac yn helpu i ddenu cyllid i’w cefnogi.
-
© Gareth Turnbull / Percolated Photography / WWF-UK
More Close Cefnogi ffermwyr i allu gwrthsefyll newid hinsawdd
Hoffem weithio gyda ffermwyr i gefnogi eu diogelwch ariannol, a’u gallu i weithio mewn cytgord â natur ac adeiladu dyfodol lle gallant wrthsefyll newid hinsawdd. Credwn fod ffermio atgynhyrchiol yn ffordd o wneud hyn.
Gwyddom fod angen i’r gadwyn gyflenwi bwyd gefnogi ffermwyr i weithio gyda natur a sicrhau y caiff eu cynnyrch eu prynu am bris teg. Byddwn yn gweithio gyda busnesau i geisio cyflawni hyn.
Hefyd, hoffem weithio gyda’r awdurdod lleol i weld a ellid datblygu cadwyni cyflenwi yn Sir Benfro fel bod bwyd atgynhyrchiol a dyfir yn lleol yn mynd i ysgolion ac ysbytai.
-
© Matt Horwood / WWF-UK
More Close Ffermio morol atgynhyrchiol
Mae traddodiad hir o gasglu gwymon gwyllt ar arfordir Sir Benfro, yn enwedig ar gyfer bwyd fel bara lawr ac i’w ddefnyddio fel gwrtaith ar ffermydd. Credwn fod gan wymon botensial enfawr.
Mae gan ffermio morol (gwymon, wystrys a chregyn gleision a dyfir ar raffau ar yr arfordir) y potensial i fod yn rhan o economi atgynhyrchiol, sy’n darparu swyddi a marchnadoedd newydd yn yr ardal. Mae’n gallu cynnal bywyd y môr ac amsugno llygredd o’r tir, felly mae’n helpu’r amgylchedd hefyd.Gall ‘bio-gyfnerthwyr’ wedi’u creu o’r gwymon fynd yn ôl ar y tir i helpu i dyfu cnydau, gan helpu ffermwyr i leihau eu heffaith amgylcheddol a’u hallbynnau carbon. Gall y cysylltiad hwn rhwng y tir a’r môr helpu i greu economi lleol atgynhyrchiol a system bwyd.
Mae gwymon a chregyn gleision yn fwydydd daionus heb lawer o effaith amgylcheddol, a gallant fod yn rhan o ddiogelwch maeth y bobl leol.
Rydym yn gweithio gyda fferm môr atgynhyrchiol, Câr y Môr, i edrych ar botensial y diwydiant gwymon yn Sir Benfro, a thyfu ein gwaith yn yr ardal i gefnogi’r sector ehangach. -
© In The Dark / WWF-UK
More Close Cysylltu cymunedau
Hoffem ysbrydoli a chefnogi pobl i ddeall nad ydynt ar wahân i natur, eu bod yn gallu cyfrannu at y gwaith o fynd i’r afael â’r her driphlyg, ac wedi’u eu hysgogi a’u hysbrydoli gan y dyfodol y gallwn ni ei greu gyda’n gilydd.
Hefyd, hoffem gefnogi pobl i allu cael bwyd maethlon a fforddiadwy sydd wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy. Ac i helpu cymunedau i allu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd a chefnogi llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae hynny’n cynnwys cefnogi swyddi gwyrdd yn Sir Benfro lle bo’n bosibl, a datblygu sgiliau i’r dyfodol.
-
© Jospeh Gray / WWF-UK
More Close Gwneud penderfyniadau gwell ar gyfer yr her driphlyg
Rhaid i benderfyniadau a wneir trwy bolisïau, rheoliadau, cyllid a buddsoddi cael eu gwneud mewn ffordd sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r her driphlyg. Hefyd, rhaid iddynt symud i ffwrdd o weithio mewn unedau ar wahân i weithio’n fwy cydweithredol. Felly mae’r ffordd mae llywodraethiant Sir Benfro yn gweithio’n hollbwysig i sicrhau trawsnewid.
Byddwn yn anelu at gefnogi newidiadau i bolisïau a rheoliadau, ble a sut y bydd buddsoddi’n digwydd, a newidiadau i feddylfryd y penderfynwyr – fel eu bod yn gweld y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac yn gwerthfawrogi natur.
/

Pam ydym ni’n gwneud hyn
Wedi’i lleoli yng ngorllewin Cymru, mae Sir Benfro yn enwog am ei thirweddau amrywiol, sy’n cynnwys traethau, arfordiroedd, a choedwigoedd hynafol. Mae’n gartref i unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU, sy’n cefnogi cyfoeth o fywyd y môr. Fodd bynnag, mae ei hamgylchedd naturiol dan fygythiad oherwydd llygredd, colli cynefinoedd, newid hinsawdd, a chlefydau.
Er enghraifft, er gwaethaf ei harwyddocâd ecolegol fel Ardal Cadwraeth Arbennig, mae afon Cleddau wedi’i llygru’n wael. Defnyddir y rhan fwyaf o’r tir ar gyfer amaethyddiaeth, ond mae ffermwyr yn cael trafferth oherwydd pwysau newid hinsawdd a heriau economaidd. Nid ydynt yn cael eu cefnogi’n ddigonol i wneud newidiadau sydd o fudd i natur a’r broses gynhyrchu bwyd.
Mae’r diwydiant pysgota, a fu’n rhan fawr o etifeddiaeth Sir Benfro, hefyd yn dirywio oherwydd costau cynyddol a chwyddiant.

Mae’r rhanbarth yn wynebu anawsterau cymdeithasol ac economaidd sy’n nodweddiadol o ardaloedd gwledig – poblogaeth sy’n heneiddio, ieuenctid yn mudo, gormod o dwristiaeth, a fforddiadwyedd tai sy’n waeth oherwydd cynnydd yn nifer yr ail gartrefi.
Hoffai WWF gefnogi’r gwaith o fynd i’r afael â’r heriau hyn. Mae’n credu y bydd yr ymagwedd Cyflawnwedd yn helpu.
Mae cymaint o botensial i ddyfodol yr ardal. Gobeithiwn gyflymu’r gweithgareddau trwy weithio gyda chymunedau a sefydliadau lleol.
I gael mwy o wybodaeth am yr heriau a chyfleoedd, gweler yr adroddiad hwn a gomisiynwyd gennym: Pembrokshire by Pobl Tir Mor.

Effaith y prosiect
Dechreuasom y rhaglen yn Sir Benfro yn 2022.
Yn ystod y blynyddoedd cyntaf, daethom ag ystod eang o gymunedau a rhanddeiliaid ynghyd i edrych ar y prif anawsterau sy’n bodoli yn Sir Benfro. Ein nod yw cael ein cyfeirio gan anghenion yr ardal, a chwarae rhan gefnogol sy’n gallu cyflymu’r broses drawsnewid.
Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi cefnogi gwaith ymchwil, trefnu gweithdai, mynychu cyfarfodydd partneriaethau lleol ac ariannu prosiectau cymunedol.
Rydym hefyd wedi cyflawni gwaith dadansoddi a modelu systemau er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio ar brosiectau a meysydd sy’n cael yr effaith fwyaf.
Mae manylion y gwaith a wnaed hyd yma isod……
-
© Jessica McQuade
More Close Cysylltu cymunedau
Buom yn gweithio gyda sefydliad lleol i ddod o hyd i’r holl grwpiau a materion pwysig yn Sir Benfro a’u dadansoddi, er mwyn inni ddeall yr ardal yn well.
Rydym wedi ariannu nifer o grantiau natur bach trwy Bartneriaeth Natur Sir Benfro, mewn meysydd fel arolygon rhywogaethau, gwyddoniaeth dinasyddion a gwaith rheoli cynefinoedd lleol.
Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ag elusen PLANED yn helpu cymunedau i sefyll i fyny dros natur yn eu cymdogaethau yn Neyland, ar aber afon Cleddau.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru yn Nhyddewi, ar ei brosiect blaenllaw ‘Llên mewn Lle’, sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth.
Rydym yn cefnogi gwyddoniaeth dinasyddion sy’n profi ansawdd dŵr, a drefnwyd gan Brosiect Afon Cleddau.
Rydym wedi cyflawni gwaith maes ac addysg am brosiect Câr y Môr, er mwyn hybu a dysgu am foroedd, bioamrywiaeth, a gweithredu yn erbyn newid hinsawdd, gan gynnwys rhoi cyflwyniadau ac ymweld ag ysgolion a grwpiau cymunedol lleol, a mwy. Hefyd, rydym wedi cefnogi uned addysg symudol o Iwerddon i ddod a dangos i bobl ifanc sut mae ffermio gwymon yn cynnig dyfodol cadarnhaol i swyddi.
Rydym wedi cefnogi gŵyl wymon gyntaf Cymru er mwyn helpu i ymgysylltu â phobl ac i ddathlu hanes a dyfodol gwymon.
Rydym yn datblygu ffilm ynghylch ymgysylltu cymunedol a chanfyddiadau o ffermio morol yn Sir Benfro.Rydym wedi sefydlu partneriaeth gydag Urdd Gobaith Cymru, sefydliad ieuenctid mwyaf Cymru, i gynnig cyrsiau Cynaliadwyedd a Natur am ddim i bobl ifanc yn ei Ganolfan Breswyl ym Mhentre Ifan, Sir Benfro. Hon yw’r ganolfan amgylcheddol a llesiant gyntaf o’i math yng Nghymru.
-
© Wild Wonders of Europe / Juan Carlos Munoz / WWF
More Close Gwneud penderfyniadau gwell dros yr Her Driphlyg
Cynaliasom waith ymchwil a gweithdy lleol er mwyn deall sut all llywodraethiant Sir Benfro helpu i fynd i’r afael â’r her driphlyg.
Rydym yn gweithio i gefnogi’r sefydliadau hyn i fynd i’r afael â’r anawsterau, i adeiladu partneriaethau er mwyn cefnogi trawsnewid, ac i feithrin gallu a newid canfyddiadau fel bod risgiau natur a hinsawdd yn cael eu hystyried yn allweddol i’r broses o wneud penderfyniadau. Rydym yn canolbwyntio ar gryfhau system fwyd Sir Benfro, a’i galluogi i addasu i risgiau newid hinsawdd.Cynaliasom waith ymchwil a gweithdy er mwyn deall sut mae llywodraethiant Sir Benfro yn mynd i’r afael â heriau allweddol. Bellach, rydym yn helpu sefydliadau i fynd i’r afael â’r anawsterau hyn, yn ffurfio partneriaethau dros newid, ac yn newid canfyddiadau er mwyn rhoi blaenoriaeth i risgiau natur a hinsawdd wrth wneud penderfyniadau.
-
© Paul Rogers / WWF UK
More Close Gyrru buddsoddiad
Rydym yn gweithio gyda chwmnïau, dyngarwyr a’r sector cyhoeddus er mwyn ceisio’u hannog i ariannu’r gwaith o gefnogi prosiectau sy’n adfer natur ac sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd yn yr ardal. Rydym wedi llwyddo i ariannu prosiectau a swyddi yn niwydiant gwymon Sir Benfro, ac wedi defnyddio cyllid i ariannu prosiectau adfer natur bach a gwaith ymchwil.
Rydym wedi mapio’r cadwyni cyflenwi yn yr ardal er mwyn helpu i ddeall ble caiff cynnyrch Sir Benfro eu defnyddio. Mae gan gwmnïau rhan i’w chwarae yn helpu ffermwyr i gael pris teg ac yn cefnogi dulliau sy’n ystyrlon o natur.
Rydym yn ariannu gwaith ymchwil i bennu’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella ansawdd dŵr afon Cleddau. Gall busnesau defnyddio’r canfyddiadau hyn i ddeall effaith eu cadwyni cyflenwi, a deall lle gellir gwneud gwelliannau.
Hoffem gefnogi modelau cyfunol ac arloesol o ariannu trawsnewid yn Sir Benfro, felly cynaliasom weithdai gyda sefydliadau lleol er mwyn deall yr anghenion, a’r angen sydd am fodelau incwm gwahanol ar gyfer adfer natur a ffermio.Gweler manylion pellach yn yr adran ‘Gweithio gyda’r gymuned ffermio i ddeall a chefnogi llwybr at elw a chynaliadwyedd’.
-
© Gareth Turnbull / Percolated Photography / WWF-UK
More Close Gweithio gyda’r gymuned ffermio
Bu WWF yn gweithio gyda banc Natwest i ariannu gwaith ymchwil a chynnal sgyrsiau gyda ffermwyr er mwyn deall heriau’r broses o drawsnewid i ddefnyddio dulliau ffermio mwy atgynhyrchiol, yn enwedig yn y sector llaeth.
Cynaliasom weithdy gyda ffermwyr, cynrychiolwyr a busnesau, ac rydym bellach yn cynnal trafodaethau gyda chydweithrediadau a chynrychiolwyr ffermwyr ynghylch y camau nesaf i Sir Benfro. Rydym yn gobeithio datblygu pecyn cyllid a chymorth i fynd i’r afael â’r anawsterau a nodwyd.Rydym yn ariannu treialon ar ffermydd er mwyn edrych ar effaith bio-gyfnerthwyr gwymon ar gnydau. Hefyd, rydym yn edrych ar ariannu asesiadau cyfalaf naturiol ffermydd Cyngor Sir Penfro er mwyn helpu i archwilio’r ffordd orau i ffermydd wrthsefyll newid hinsawdd a bod yn ystyrlon o natur.
-
© Matt Horwood / WWF-UK
More Close Datgloi grym gwymon
Ariannwyd nifer o gyfweliadau a gweithdy gennym er mwyn datblygu ein syniadau ar gyfer y gefnogaeth sydd ei hangen ar y sector dyframaeth yn Sir Benfro. Lluniwyd adroddiad i lywio ein hymagwedd ar sail y gwaith hwn.
Rydym wedi gweithio’n agos â phrosiect Câr y Môr i sicrhau trwyddedau morol ar gyfer safleoedd treialu ac i roi gwybod i wleidyddion am werth ffermio morol i Gymru. Gobeithiwn wella’r broses hon a buddsoddi yn y gwaith o ddatblygu’r diwydiant hwn.
Rydym hefyd wedi ariannu PEBL i fonitro effeithiau amgylcheddol ffermydd gwymon Câr y Môr.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae WWF-UK wedi derbyn bron £1 miliwn dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr cymunedol mwyaf y DU. Bydd yr arian yn caniatáu i WWF Cymru weithio gyda’i phartneriaid sef Câr y Môr, Sefydliad Gwyddor Forol yr Alban a PEBL i rannu stori ffermio gwymon yn Sir Benfro.
Rydym yn ariannu treialon ar ffermydd llaeth yn Sir Benfro ac yn gweithio’n agos â’r treialon sy’n mynd rhagddynt yn Norfolk. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i ddeall a ellir defnyddio gwymon fel bio-gydnerthwr ar raddfa fawr er mwyn lleihau effeithiau ar yr amgylchedd - ar iechyd y tir a’r afonydd - a chreu economi gylchol ac atgynhyrchiol leol yn Sir Benfro. -
© Nick David Tour-It 360 / istock
More Close Adfywio afon Cleddau
Mae WWF wedi gweithio i gasglu tystiolaeth er mwyn deall y problemau sy’n effeithio ar afon Cleddau, yr aber, a dyfrffordd Aberdaugleddau. Fel rhan o’r gwaith hwn, bu’n rhan o grŵp rhanddeiliaid a chynghori technegol Bwrdd Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru; yn ariannu’r gwaith o fapio defnydd tir yn yr ardal; comisiynu Fforwm Arfordir Sir Benfro a Phrosiect Morwellt i archwilio ansawdd dŵr yr aber a effeithir gan yr hyn sy’n digwydd ar y tir, ac sy’n effeithio ar yr ecosystemau morol fel wystrys, morwellt a morfa heli; ariannu darn mawr o waith ymchwil ar y math a nifer o weithgareddau ffermio sy’n digwydd ar hyd aber Cleddau er mwyn helpu i gwrdd â’r safonau ansawdd dŵr.
Rydym yn cyd-ariannu asesiad cyfalaf naturiol o ffermydd Cyngor Sir Penfro ar hyd afon Cleddau.
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau lleol i ddatblygu ymagwedd dalgylch ac i helpu i lunio cynllun er mwyn iddynt fod yn barod i dderbyn buddsoddiad, ac yn ceisio cyllid ar gyfer cyflawni rhaglen ar raddfa fawr.
/
Mae Cyflawnwedd Sir Benfro yn rhaglen 5-blwyddyn lle byddwn yn parhau i ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid lleol.
Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am y prosiect hwn, neu os gennych unrhyw adborth, rhowch wybod inni drwy gysylltu â cymru@wwf.org.uk.