Skip to main content

Rydyn ni i gyd yn dibynnu ar fyd natur – am fwyd, dŵr, aer a deunyddiau crai.

Galwn ar Lywodraeth newydd Cymru yn 2026 i ddarparu swyddi ac economi wyrddach, afonydd glanach, moroedd iachach, gwell gwytnwch i sychder a llifogydd, gwyrdroi’r dirywiad mewn rhywogaethau a cholled natur, a chyflenwad dibynadwy o fwyd maethlon a fforddiadwy.

Dy’n ni ddim yn meddwl bod hynny’n ormod i ofyn.

Ond mae natur mewn trafferth. Mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi methu cyfleoedd hanfodol i wneud cynnydd dros natur a’r hinsawdd – gan dorri addewidion, oedi neu wanhau newidiadau.

Mae angen i wleidyddion wybod eich bod eisiau iddyn nhw adfywio Cymru. Os yw digon o bobl yn gweiddi'n ddigon uchel, bydd newidiadau'n digwydd.

Llofnodwch y ddeiseb

Byddwn yn cyflwyno’r ddeiseb hon, ynghyd â’ch enw, cod post ac unrhyw neges rydych yn ei hysgrifennu, i arweinwyr gwleidyddol yn y Senedd i ddangos cefnogaeth y cyhoedd i’n maniffesto.

Ymunwch yn y frwydr dros Gymru well.

Rhowch eich manylion

Oedran
Drwy wneud y neges yn un bersonol, bydd ei heffaith yn sylweddol fwy. Cam dewisol yw hwn.

Os byddwch yn dewis cynnwys neges bersonol, bydd copi yn cael ei gadw gan WWF-UK ac fe all gael ei ddefnyddio (yn ddienw) yn ein cyhoeddiadau yn y dyfodol.

 


 

Cadw mewn cysylltiad

 

Cofrestrwch i dderbyn gwybodaeth am yr ymgyrch hon, ein gwaith cadwraethol a sut arall allwch chi helpu megis ymgyrchu, codi arian a digwyddiadau. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg. 

Ie plîs, hoffwn glywed gennych chi dros y ffôn:

Chi sy’n rheoli. Os hoffech newid sut rydyn ni’n cysylltu â chi yn nes ymlaen, ewch i wwf.org.uk/change-contact, ffoniwch 01483 426333 neu ebostiwch supportercare@wwf.org.uk.

Byddwn yn cadw eich manylion personol yn ddiogel ac ni fyddwn yn eu rhannu ag unrhyw sefydliadau eraill at bwrpas marchnata. Am fanylion llawn gweler ein Polisi Preifatrwydd.